Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Agwedd tuag at bobl dlawd

Beth yw ein hagwedd?

gan Janice Ross (addaswyd, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2011)

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 3

Nodau / Amcanion

Ystyried a yw rhai ffyrdd o helpu pobl yn fwy derbyniol na ffyrdd eraill.

Gwasanaeth

  1. Weithiau, mae gan rai pobl enwog ddawn o ddweud pethau sy'n ddoeth ac sy'n gwneud i ni feddwl. Mae'r mwyafrif o bobl wedi clywed am y Fam Teresa, ac yn barchus iawn ohoni, y wraig enwog a fu'n gweithio yn ninas Calcutta am flynyddoedd lawer. Roedd hi'n gofalu am y tlotaf ymhlith y tlodion, y rhai isaf ymhlith yr isel rai yn y gymdeithas, ac yn aml yn cynnig ychydig bach o urddas iddyn nhw wrth iddyn nhw farw.

    Mae dyfyniad enwog o eiddo’r Fam Teresa sy’n nodi, ‘Heddiw, mae'n ffasiynol i siarad am y tlawd. Yn anffodus, nid yw'n ffasiynol i siarad â nhw’ – (‘Today it is fashionable to talkaboutthe poor. Unfortunately, it is not fashionable to talkwiththem.’)

    Rydyn ni’n mynd i ystyried a ydyn ni’n meddwl bod hwn yn ddatganiad teg am ein cymdeithas ni heddiw.

  2. Mae ystadegau'n dangos bod pobl Prydain ymhlith y mwyaf hael o bobl sy'n cyfrannu at achosion dyngarol drwy'r byd i gyd. Pan fydd trychinebau naturiol yn digwydd yn unrhyw le yn y byd, bydd apeliadau am gymorth yn derbyn ymateb ar unwaith. Mae cyfran helaeth o'n dinasyddion yn ymwneud â rhyw fath o waith elusennol gwirfoddol yn rheolaidd.

    Ond gwrandewch ar hyn . . .

    Roedd hi'n ddiwrnod oer ofnadwy. Roeddwn i yn y dref yn gwneud tipyn o siopa. Wrth i mi agosáu at y banc, fe dynnwyd fy llygaid at dwmpath a oedd ar lawr ar y palmant.  Wrth ddod yn nes ato, fe sylweddolais i mai dyn ifanc oedd y twmpath, o bosib yn ddigartref yn ôl yr olwg a oedd ar ei ddillad. Roedd hen garton gwag a fu’n dal pysgodyn a sglodion ar lawr yn e ymyl a hefyd bwll o chwydfa. Nid golygfa ddymunol iawn.

    Roeddwn yn bryderus am les y dyn ifanc hwn oherwydd fy mod yn meddwl y gallai fod yn wael. Gallai fod wedi tagu. Roedd yn ymddangos yn anymwybodol. Fe blygais i lawr wrth ei ymyl a cheisio ei ddeffro, gan ofyn iddo a oedd yn iawn. Dim ymateb.

    ‘Fyddwn i ddim yn trafferthu,’ dywedodd hen wr, wrth basio. ‘Mae'n bosib ei fod ar gyffuriau.’

    Edrychodd yr unigolyn nesaf a ddaeth heibio, ond fe drodd ei thrwyn ar y llanast oedd ar y palmant. Roeddwn yn gallu dirnad ei sensitifrwydd i'r arogl, ond nid i'w diffyg consyrn.

    Wedyn daeth dyn ifanc heibio a dywedodd, ‘Mae o wedi bod yma ers tuag awr. O bosib ei fod yn cysgu nes y bydd o'n teimlo'n well.’

    Gan i mi fethu â deffro'r dyn ifanc ar y palmant, fe wnes i chwilio am blismon a dweud wrtho fy mod yn bryderus.  Mae'n ymddangos mai dyna'r peth gorau y gallwn i ei wneud drosto.

  3. Mae stori’r Samariad Trugarog yn y Beibl (Luc 10.25-37) yn debyg iawn i’r olygfa nodweddiadol hon ar stryd dinas.

    Gofynnwch i fyfyriwr ddarllen stori’r Samariad Trugarog o'r Beibl.

    Yn y stori hon, roedd dyn mewn angen dirfawr. Roedd wedi cael ei guro'n ddidrugaredd. Roedd pobl, a ddylai wybod yn well, wedi mynd heibio iddo. Yn y pen draw, daeth rhywun heibio nad oedd wahaniaeth ganddo faeddu ei ddwylo. Fe lanhaodd ei friwiau’r dyn, ei gludo i le diogel a thalu am ei lety. Fer ddywedodd y byddai'n dod heibio'r llety eto ymhen ychydig ddyddiau i weld a oedd y dyn gafodd ei anafu'n gwella a thalu unrhyw gostau ychwanegol i berchennog y llety. Hwn yw'r math mwyaf costus o roi.

    Ar ddiwedd y stori, mae Iesu’n dweud, ‘Dos, a gwna dithau'r un modd.’

Amser i feddwl

Mae llawer o bobl anghenus yn y byd. Mae llawer o bobl felly yn y wlad hon. Gadewch i ni am foment feddwl am y bobl hynny y byddwn ni'n bersonol yn ei chael hi'n anodd dangos gofal a thrugaredd tuag atyn nhw – fe allan nhw hyd yn oed fod yn bobl yn yr ysgol hon. Pobl y bydd eraill yn troi ymaith oddi wrthyn nhw am ryw reswm. Pobl sydd er hynny’n dal i fod yn bwysig a gwerthfawr.

A ydyn ni'n fodlon, fel y dywedodd y Fam Teresa, i sgwrsio gyda’r tlodion?

Ychydig iawn o ymdrech sydd ei angen i roi rhywfaint o anogaeth i rywun. Yn aml, mae dim ond gwên neu air caredig yn ddigon.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Rhown ddiolch i ti am bawb yn ein cymdeithas sy'n fodlon baeddu eu dwylo wrth ofalu am y tlodion.
Diolch i ti am y rhai hynny sy'n gweithio mewn hostelau ar gyfer y digartref.
Diolch i ti am y rhai hynny sy'n darparu ceginau cawl er mwyn cynhesu'r sawl sy'n cysgu ar y stryd yn ein dinasoedd.
Diolch i ti am y rhai hynny sydd â digon o ysbryd gofalgar i lanhau'r llanast ym mywyd pobl eraill.
Helpa ni i ddeall fod ar bawb angen cael eu trin ag urddas, gofal a diddordeb.
Rho i ni galonnau trugarog.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Ebrill 2017    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon