Adlewyrchiad mewn drych
Beth fyddwn ni’n ei weld mewn drych?
gan Helen Levesley (addaswyd, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2011)
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Uwchradd)
Nodau / Amcanion
Ystyried beth fyddwn ni’n ei weld wrth edrych mewn drych.
Paratoad a Deunyddiau
- Fe fydd arnoch chi angen drych y gallwch chi ei ddal gyda’ch llaw, a phedwar gwirfoddolwr.
Gwasanaeth
- Gofynnwch i'r myfyrwyr feddwl yn ôl at y tro cyntaf iddyn nhw edrych yn y drych y bore hwnnw. Nodwch nad oedden nhw o bosib yn edrych ar eu gorau bryd hynny. Fodd bynnag, fe fyddai'r wyneb a oedd yn syllu'n ôl arnyn nhw yn adlewyrchiad teg o'r hyn oedden nhw, heb roi brwsh trwy eu gwallt, heb ymolchi na rhoi colur.
Nodwch, pe bydden nhw wedi edrych yn ofalus, efallai hefyd y bydden nhw wedi gweld bod yno ryw debygrwydd i’w rhieni a'u brodyr neu eu chwiorydd. - Gofynnwch am help gan bedwar o wirfoddolwyr. Gofynnwch i'r pedwar ohonyn nhw edrych yn y drych bach sydd yn eu llaw a disgrifio un peth y maen nhw'n ei weld. Er enghraifft, fe allen nhw ddweud, ‘Mae fy llygaid yn frown,’ neu ‘Rwy'n gwisgo sbectol.’
Rhowch gyfle i’r gwirfoddolwr fynegi eu sylwadau. - Gofynnwch i bob un o'r gynulleidfa ddychmygu eu bod yn dal drych llaw ac yn edrych ar eu hwyneb ynddo. Gofynnwch iddyn nhw ganolbwyntio ar un peth y maen nhw'n gallu ei weld. Beth y mae eu hadlewyrchiad yn ei ddangos iddyn nhw?
Pan fyddwn ni'n edrych mewn drych, rydym yn gweld adlewyrchiad ohonom ein hunain, yn union fel rydyn ni'n edrych – lliw ein llygaid neu ein gwallt. Mewn drych mwy o faint, gallwn weld a yw rhan o'n gwisg yn gweddu.
Gall edrych mewn drych wneud i ni deimlo'n wych, neu ein helpu i ni wella'r olwg sydd arnom ni.
- Yn y llyfr 'Harri Potter a Maen yr Athronydd' (Harry Potter and the Philosopher’s Stone), mae 'Drych Erised' - 'Mirror of Erised' yn adlewyrchu dymuniadau dwysaf y rhai hynny sy'n edrych arno. Mae Harri, sydd wedi colli ei rieni pan oedd yn ifanc, yn eu gweld yn y drych. Mae Ron, sydd ar dân eisiau llwyddo, yn gweld ei hunan yn ennill cwpan 'Quidditch' ac yn dod yn Brif Fachgen. Am ddrych ffantastig, yn dangos i ni'r hyn yr ydym yn ei wir ddymuno, yn adlewyrchu ein gwir ddymuniadau i ni!
- Gofynnwch i'r myfyrwyr,‘Beth fyddai Drych Erised yn ei ddangos i chi?’ Yn
drist, fodd bynnag, dim ond enghraifft o ddychymyg J. K. Rowling yw'r drych. - Eglurwch y gall drych, weithiau, ddangos i ni'r pethau hynny nad ydyn ni o reidrwydd yn hoff ohonyn nhw amdanom ein hunain, a phethau sydd ddim yn wir. Pan fydd rhywun sy'n dioddef o anorecsia yn edrych i mewn i'r drych, bydd fel pe tai delwedd o unigolyn tew yn syllu'n ôl, yn hytrach rhywun sydd mewn gwirionedd yn ddim ond cnawd ac esgyrn bron. Weithiau, bydd pobl sydd yn meddu ar ychydig iawn o hunanwerth a hunan-barch yn edrych ar ddrych ac yn gweld rhywun y maen nhw'n ei gasáu yn syllu'n ôl arnyn nhw.
- Gwahoddwch y gwirfoddolwyr i edrych unwaith eto i mewn i'r drych, ond y tro hwn, gofynnwch iddyn nhw feddwl am rywbeth cadarnhaol amdanyn nhw'u hunain sydd ddim yn bosib i'w weld yn y drych, ond sy'n bosib iddyn nhw ei adlewyrchu tuag at eraill. Gall enghraifft fod, ‘Rwy'n dda am helpu’ neu, ‘Rwy'n gallu gwneud i bobl chwerthin.’ (Efallai y byddwch yn dymuno i'r myfyrwyr rannu'r meddyliau hyn, neu'n syml dim ond edrych a dychmygu, ac yna mynd yn ôl i'w lle heb ddweud dim.)
- Fe ysgrifennodd Sant Paul, sydd â'i lythyrau yn ail ran y Beibl, ein bod yn ystod ein bywyd, yn gweld pethau fel mewn drych - ‘gweld mewn drych yr ydym’. Doedd drychau yn y dyddiau hynny ddim cystal â’r drychau sydd gennym heddiw ac roedden nhw'n cynhyrchu delwedd nad oedd yn glir iawn. Roedd Sant Paul yn sôn am fethu â gweld yn eglur yr hyn y mae Duw yn ei ddweud a'i wneud. Fodd bynnag, gall ei eiriau gael eu cymhwyso i'n bywyd ni. Pan edrychwn arnom ni ein hunain mewn drych, rydyn ni'n gweld yr hyn yr ydyn ni am ei weld - yr hyn sydd ar yr wyneb - nid yr hyn y mae'r drych yn ei adlewyrchu, sef delwedd o unigolyn o sy’n meddu ar hunaniaeth ac sy’n unigryw.
- Yn yr un darn, fe ddywedodd Sant Paul y byddem, un diwrnod yn gweld yn eglur. Rwy'n gobeithio, pan fyddwch chi’n edrych yn y drych yn y boreau, na fyddwch yn canolbwyntio yn unig ar yr hyn a welwch ar y tu allan. Yn lle hynny, cymerwch olwg ar sut un ydych chi oddi mewn: eich rhinweddau da a phositif, fel eich gallu i wneud eraill i chwerthin, neu rinweddau sy'n eich gwneud chi'n gystal ffrind, yn gystal brawd neu chwaer, merch neu fab, yn athro, athrawes neu’n fyfyriwr da.
Amser i feddwl
Gadewch i ni feddwl yn dawel am ein nodweddion cadarnhaol, y pethau y gellir eu gweld mewn drych a'r pethau na ellir eu gweld, ond pethau y byddwn ni’n eu hadlewyrchu tuag allan i eraill, fel o ddrych.
Gweddi
Annwyl Dduw,
Gad i mi weld fy rhinweddau cadarnhaol yn y drych,
yn ogystal â'r pethau rwy'n eu hoffi amdanaf fy hun.
Helpa fi i fod yn ymwybodol bod yna rai pethau y gallaf eu newid,
ac mae rhai pethau na allaf eu newid.
Dysga fi i gydnabod bod y pethau yr wyf yn eu gweld, ac yr wyf yn feirniadol yn eu cylch, yn aml yn bethau y bydd rhywun arall yn eu hoffi amdanaf fi.
Gad i mi i fod yn gadarnhaol am fy adlewyrchiad,
yr adlewyrchiad y gallaf ei weld a’r adlewyrchiad nad wyf yn gallu ei weld.
Amen.