Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Yr Atgyfodiad

Beth yn union ddigwyddodd?

gan Helen Bryant (addaswyd, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2011)

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Archwilio gwahanol ddamcaniaethau am atgyfodiad Iesu.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen arweinydd a naw darllenydd i chwarae rhannau’r Darllenydd newyddion, Gohebydd, Mair, Pedr, Person 1, Person 2, Person 3, Person 4 a Pherson 5. Fe fydd angen i chi ymarfer y sgript cyn y gwasanaeth.
  • Trefnwch fod gennych chi recordiad o gerddoriaeth thema newyddion y BBC a'r modd o’i chwarae yn ystod y gwasanaeth. Mae fersiwn ar gael ar: https://www.youtube.com/watch?v=4TSJhIZmL0A. Mae’n para am 0.15 munud.

  • Mae cofnod o hanes yr atgyfodiad ar gael yn Mathew 28, Marc 16, Luc 24 ac Ioan 20.

Gwasanaeth

Chwaraewch gerddoriaeth thema newyddion y BBC.

Darllenydd newyddion (wrth y ddesg newyddion):Bore da a chroeso i Newyddion y BBC. Ein prif bennawd heddiw: mae dyn wedi atgyfodi ar ôl bod yn farw ers tri diwrnod.(Y darllenydd newyddionyn aros yn llonydd)

Arweinydd: Beth sy'n mynd trwy eich meddwl? A fyddech chi'n newid y sianel, gan feddwl, ‘Ia, beth bynnag!’, neu a fyddech chi am glywed yr hyn sydd gan y darllenydd newyddion i'w ddweud?

Darllenydd newyddion: Mewn tro rhyfeddol o ddigwyddiadau, mae disgyblion Iesu o Nasareth, y gwr a gafodd ei ddienyddio gan y Rhufeiniaid am greu anghydfod, yn honni ei fod wedi atgyfodi oddi wrth y meirw. Awn drosodd yn awr at ein Gohebydd yn Jerwsalem, at safle'r beddrod yn yr ardd.

Gohebydd: Mae golygfeydd syfrdanol yma yn Jerwsalem lle, fel y gwelwch, mae'r maen yn wir wedi cael ei rolio i ffwrdd oddi ar y bedd heb ddim arwydd amlwg bod corff i mewn ynddo. Rwy'n sefyll fan hyn, wrth ymyl y bedd gwag lle, dim ond tridiau yn ôl, y cafodd Iesu ei gladdu. Mae dilynwyr Iesu'n argyhoeddedig ei fod wedi cael ei atgyfodi ac wedi gorchfygu marwolaeth.

Mair: Fe welais i o. Fe feddyliais i mai'r garddwr oedd o. Ond na!  Roedd yn gwybod fy enw i; fo oedd o, yn wir i chi.

Pedr: Dyna'r gwir, rwy'n dweud wrthych! Mae'r corff wedi mynd; nid oes unrhyw beth ar ôl ond llieiniau'r bedd, ac mae'r maen mawr wedi cael ei rolio ymaith!

Gohebydd: Dydy pawb ddim yn credu bod Iesu wedi atgyfodi oddi wrth y meirw, sut bynnag, ac mae'r awdurdodau Iddewig a Rhufeinig yn awyddus iawn i roi taw ar y fath sïon peryglus.

Person 1:Dw'i ddim yn credu'r peth. Nonsens ydi'r cwbl! Does neb yn gallu goroesi croeshoeliad! Rwy'n credu bod y merched ddaeth i eneinio'r corff wedi mynd at y bedd anghywir!

Person 2: Wel, Dydw i ddim yn meddwl fod Iesu wedi marw o ddifrif ar y groes 'na. Mae'n bosib ei fod wedi goroesi, wedyn wedi llwgrwobrwyo’r milwyr neu rywbeth felly a dianc. Yn syml, cymryd arno ei fod wedi marw wnaeth o fel y gallai gael yr holl gyhoeddusrwydd yma!

Person 3: Dydw i ddim yn siwr iawn a allwch chi ymddiried yn y disgyblion 'na, wyddoch chi. Yn fy marn i,  maen nhw wedi dwyn y corff a'u guddio. Yna, er mwyn cuddio'u heuogrwydd, maen nhw wedi creu'r stori hon er mwyn dweud bod Iesu wedi atgyfodi oddi wrth y meirw. O ddifrif, pwy yn ei lawn bwyll a glywodd am unrhyw un yn dod yn ôl yn fyw o'r bedd!

Person 4: Fe welais i’r dilynwyr ar ôl y croeshoeliad. Roedden nhw'n benwan mewn galar, yn benwan o ddifrif! Dagrau, beichio crio, y fath gynnwrf. Ond gall galar achosi i bethau rhyfedd ddigwydd i rai pobl, wyddoch chi; mae'n debygol eu bod nhw wedi cael rhithweledigaethau - meddwl eu bod nhw wedi ei weld o pan nad oedd yno gwbl.

Person 5: Wel, alla' i ddim credu y bydden nhw'n dweud celwydd. Efallai fod Iesu wedi atgyfodi oddi wrth y meirw, go iawn. Efallai ei fod mor bwerus â'r hyn yr oedd yn honni ei fod.

Gohebydd:Wel, beth ydych chi'n ei feddwl yw’r eglurhad gorau? Rwy'n amau na chawn fyth wybod, a bydd gofyn i unigolion wneud eu penderfyniadau eu hunain ar y mater hwn.

Arweinydd: Felly, yr atgyfodiad, y rheswm dros Wyliau'r Pasg a'r allwedd sy'n tanlinellu'r gred Gristnogol - beth ydych chi'n feddwl ydi'r eglurhad gorau?

Amser i feddwl

Mae'r cwestiwn yn aros, wrth gwrs, os nad yw'r ffaith bod Iesu wedi atgyfodi'n wir, pam y byddai cymaint o bobl yn siarad am y peth a chredu ynddo, neu fel arall, yn dweud anwiredd amdano?

Mae'n rhaid bod rhywbeth o bwys enfawr wedi digwydd i wneud i'r disgyblion honni'r fath bethau amdano. I'r mwyafrif ohonyn nhw, ac i lawer o ddilynwyr cynnar Cristnogaeth, roedd eu cred yn atgyfodiad Iesu mor gadarn roedden nhw'n barod i farw neu gael eu merthyru dros eu ffydd. Fe arweiniodd eu cred gref nhw at eu hymgais i ledaenu’r ffydd honno trwy'r byd i gyd.

Yn amlwg, yn y pen draw, mae'r cyfan yn ymwneud â chred. Mae Cristnogion yn credu mai Iesu yw Mab Duw ac wedi defnyddio'r grym hwnnw i orchfygu marwolaeth a dod yn atgyfodedig. Mae'r dewis, a'r gred, yn eich dwylo chi.

Cân/cerddoriaeth

Unrhyw emyn y Pasg

Dyddiad cyhoeddi: Ebrill 2017    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon