Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Pwy ydych chi’n ei feddwl ydych chi?

Gwirio ein hunanddelwedd

gan Brian Radcliffe

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Ein hannog i ystyried y safbwyntiau cadarnhaol, a’r rhai negyddol, sydd gennym amdanom ni ein hunain.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen arweinydd a dau ddarllenydd.

Gwasanaeth

Arweinydd:I ddechrau'r gwasanaeth hwn, hoffwn ofyn cwestiwn i chi, ac rwyf am wahodd rhai ohonoch i ymateb. Dyma'r cwestiwn: pe byddech chi'n anifail, pa fath o anifail fyddech chi?

Rhowch gyfle i'r myfyrwyr feddwl, ac yna gwrandewch ar ystod o ymatebion, gan ofyn pam y mae'r naill fyfyriwr a'r llall sydd wedi ymateb, wedi dewis yr anifail neilltuol hwnnw.

Gadewch i ni feddwl am gwestiwn gwahanol: pe byddech chi'n gar, pa fath o gar fyddech chi?

Rhowch gyfle i'r myfyrwyr feddwl, ac yna gwrandewch ar ystod o ymatebion, fel gyda’r cwestiwn cyntaf.

Mae'r ffordd yr ydym yn meddwl amdanom ein hunain yn ddiddorol, yn dydi? Fe ddefnyddiodd Iesu ddull tebyg i'w ddisgrifio'i hun.

Darllenydd 1:Gan ddefnyddio ffordd o siarad yn y gymdeithas yr oedd ef yn byw ynddi 2,000 o flynyddoedd yn ôl, fe ddisgrifiodd Iesu ei hun fel torth o fara a hefyd fel gwinwydden.

Darllenydd 2:Disgrifiodd Iesu ei hun fel goleuni; fel porth y defaid; fel y bugail da, ac fel y ffordd, y gwirionedd a'r bywyd.

Arweinydd: Fe'i disgrifiodd ei hun hyd yn oed fel yr atgyfodiad. Ar yr edrychiad cyntaf, mae'r disgrifiadau hyn yn ymddangos yr un mor od â'n bod ni'n galw ein hunain yn gar rasio 'BMW Z3' neu yn neidr fel y 'boa constrictor', ond roedd Iesu'n defnyddio'r delweddau er mwyn helpu ei gynulleidfa i ddeall sut fath o berson oedd o.

Darllenydd 1:Mae Cristnogion yn credu bod Iesu'n hanfodol i fywyd, yn union fel bara, a bod ei ddysgeidiaeth yn gallu helpu i daflu golau ar y byd dyrys yr ydym yn byw ynddo.

Darllenydd 2:Mae Cristnogion hefyd yn credu, os ydyn ni'n ansicr o beth sy'n gywir a'r hyn sy'n anghywir, neu o beth sy'n wirionedd neu'r hyn sy'n anwiredd, fe all yr hyn y mae Iesu'n ei ddysgu i ni, ac anogaethau ei Ysbryd, helpu i egluro materion a'n helpu ni i fyw yn y ffordd iawn.

Arweinydd: Mae Cristnogion hefyd yn credu bod modd iddyn nhw gael perthynas ag Iesu heddiw pryd mae'n gweithredu fel bugail gofalus ar adegau peryglus, ac y gall arwain y ffordd yn glir ar adegau anodd a chymysglyd. Pe bydden ni'n trafod pob un ddelwedd y mae Iesu'n ei chynnig i ni, fe fydden ni’n canfod eu bod yn dangos rhyw agwedd ar yr hyn mae Iesu'n ei olygu i'w ddilynwyr.

Gadewch i ni feddwl yn ôl at ein delweddau o anifeiliaid a’n delweddau o geir. I ddechrau, rwy'n tybio fod pob un ohonom wedi meddwl am ddelwedd a oedd yn portreadu'r hyn y bydden ni’n dymuno bod. Os hoffech chi, hon oedd ein 'avatar'. Roedd yr anifail neu'r car y gwnaethon ni ei ddewis yn dangos yr hyn yr ydym yn eu hystyried yn bethau positif ynghylch personoliaeth. Efallai ein bod wedi dewis anifeiliaid oedd yn dangos cryfder, cyflymdra, cynhesrwydd, gofal neu ddeallusrwydd. Yn yr un modd, efallai fod y car yn fawr, lluniaidd, cyflym ac yn llawn o'r dyfeisiadau diweddaraf, neu'n fach, yn gysurus a chyfforddus. Pe byddai gennym amser, byddai'n ddifyr ystyried cwestiwn dilynol: fel pa fath o anifail neu gar y mae ein ffrindiau (neu ein gelynion) yn ein gweld ni? A fyddai'r ddwy set o ddelweddau yn cyfateb i'w gilydd? A yw pobl eraill yn ein gweld ni yn yr un ffordd ag yr ydyn ni'n gweld ein hunain? Efallai y byddai'n well gan rai ohonom beidio â gwybod hynny!

Wedi dweud hynny, rwy'n amau bod delweddau eraill wedi fflachio i'n meddyliau pe bydden ni'n hollol onest â'n gilydd. Weithiau, o bosib fe fydden ni'n teimlo fel diogyn (sloth) neu falwoden, byfflo afreolus neu udfil didostur. Weithiau, fe fydden ni, o bosib, yn teimlo'n ddim gwell na hen fwced rhydlyd o gar wedi gweld ei ddyddiau gorau, yn aros yn yr unfan wrth ochr y ffordd tra bod pawb arall yn rhuo heibio yn y lôn gyflym. Rydym i gyd yn teimlo'n wahanol amdanom ein hunain ar yr adegau da hynny, pan yw pethau'n mynd yn dda, o'i gyfateb â'r adegau anodd hynny, pan fyddwn yn profi'r munudau anoddaf, isaf a gwanaf hynny.

Amser i feddwl

Arweinydd:  Y newyddion da yw y gallwn wneud dewis. Bob dydd, fe allwn ddeffro a rhoi sylw i'r cwestiwn, ‘Pwy ydw i am fod heddiw?’ Bydd ein dewis, o bosib, yn dibynnu ar y math ar ddiwrnod sydd o'n blaen. Os yw'n mynd i fod yn ddiwrnod hir a chaled, efallai y bydd rhaid i ni fod yn geffyl cryf neu’n 'Range Rover'.  Os ydyn ni'n synhwyro y bydd y diwrnod yn mynd i fod yn un ingol, efallai y byddwn yn dymuno bod yn golomen ddof heddychol neu’n gar 'Bentley' sy'n moduro'n llyfn. Os oes gennym lawer o dasgau i'w cyflawni mewn amser byr, efallai bod angen i ni fod yn gyflym ac yn ymatebol fel gerbil prysur neu 'Ferrari'. Bydd rhai ohonom yn ei chael hi'n anodd cymharu'n hunain ag anifail neu gar, efallai. Fodd bynnag, y pwynt yw ein bod bob dydd angen adnoddau ac ymatebion gwahanol i'n helpu ni wireddu'r hyn er mwyn cyflawni'r hyn y mae angen i ni ei gyflawni ac i ddygymod â'r sefyllfaoedd sy'n dod i'n rhan.

Felly, gadewch i ni ystyried yn ofalus nid yn unig pa anifail neu gar sy'n cynrychioli ein personoliaeth, ond ‘Pa fath o bobl ydym ni?’

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i ti am y bobl hynny a fyddwn ni pan fyddwn ar ein gorau.
Atgoffa ni o hyn pan fydd pethau’n anodd yn ein bywyd.
Helpa ni i allu gweld ein cryfderau a gallu llawenhau ynddyn nhw.
Helpa ni i allu gweld agweddau ar ein bywyd y byddem yn gallu eu newid a’u gwella.
Helpa ni i greu delwedd gadarn ar ein cyfer ein hunain heddiw.
Amen.

Cân/cerddoriaeth

Unstoppable’ gan Kerrie Roberts

Dyddiad cyhoeddi: Mai 2017    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon