Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Plannu’r had

Trefnu ar gyfer y dyfodol

gan Brian Radcliffe

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Ein hannog i ystyried ein gobeithion a’n breuddwydion, a sut y byddem yn gallu eu cyflawni.

Paratoad a Deunyddiau

  • Dim angen paratoi deunyddiau.

Gwasanaeth

  1. A wnaethoch chi fwynhau eich diwrnod i ffwrdd o'r ysgol ddoe? Beth fuoch chi'n ei wneud? A wnaeth unrhyw un ohonoch blannu hadau? Gall hynny ymddangos yn gwestiwn od i'w ofyn, ond mae'n un hollol addas wrth feddwl am Wyl Mai. Yn y dyddiau hynny pan oedd y rhan fwyaf o boblogaeth Prydain yn ymwneud ag amaethyddiaeth, byddai Gwyl Fai yn nodi cyfnod pwysig o'r flwyddyn. Byddai Mawrth ac Ebrill wedi bod yn fisoedd prysur, yn aredig a llyfnu'r tir, er mwyn ei baratoi ar gyfer y gweithgaredd pwysicaf oll: hau'r had. Roedd heulwen a chawodydd y gwanwyn wedi cynhesu a dyfrhau'r pridd, a oedd yn barod ar gyfer plannu cnwd y tymor newydd. Roedd yr hadau yn cael eu hau, rhywfaint mewn rhesi unionsyth, a rhai eraill yn cael eu gwasgaru. Llafur caled oedd hwn am oriau maith, ond erbyn diwedd Ebrill, roedd y gwaith wedi ei orffen, felly roedd pawb yn haeddu diwrnod o wyliau.

  2. Yn hanesyddol, roedd Gwyl Fai wedi cael ei chadw ar gyfer ymlacio a mwynhad. Yn y gorffennol, roedd dathliadau Gwyl Fai wedi cynnwys pobl leol a dawnswyr Morris yn dawnsio o gylch bedwen Fai. Byddai Brenhines Fai yn cael ei dewis o blith y genethod, byddai llawer o fwyd a diodydd, ac wrth i'r diwrnod fynd yn ei flaen, byddai popeth yn bywiogi. Adeg parti oedd hi i gydnabod bod gweithgaredd pwysig wedi cael ei gwblhau. Roedd yr had yn y ddaear, yn egino a thyfu. Gallai pawb yn awr edrych ymlaen at y cynhaeaf yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

  3. A oes gennych chi obeithion a breuddwydion ar gyfer y dyfodol? Tybed beth allen nhw fod. Efallai fod gennych rywbeth yr ydych yn awyddus i'w gyflawni. Efallai eich bod eisiau teithio neu efallai eich bod yn dymuno cwblhau tasg neilltuol. Efallai eich bod am gael canlyniadau arholiad rhagorol neu wella rhywbeth aeth o'i le. Efallai eich bod â'ch bryd ar gyfarfod â rhywun enwog, priodi, mynd am swydd neilltuol . . . mae'r rhestr yn ddiddiwedd.

    Caiff yr hyn sy'n ein haros yn y dyfodol gael ei ddylanwadu i ryw raddau gan yr hyn a wnawn yn awr. Yn union fel yr oedd angen i'r gweithwyr fferm blannu’r had fel y bod modd iddyn nhw fwynhau'r cynhaeaf yn ddiweddarach yn y flwyddyn, felly hefyd y mae gofyn i ninnau weithredu'n awr os ydym yn mynd i fwynhau'r profiadau y byddwn yn edrych ymlaen atyn nhw yn y dyfodol. Enghraifft dda o hyn yw rhywun sydd eisiau cwblhau marathon. I redwr o'r math yma, nid yr wythnos cyn y ras sy'n cyfrif. Yr hyn sy'n gwneud y gwahaniaeth yw'r oriau hir o redeg yn nyddiau tywyll y gaeaf, fisoedd lawer cyn y digwyddiad. Os ydych am redeg marathon yr haf hwn, fe ddylai'r ymarfer fod wedi dechrau eisoes.

  4. Felly, sut y gallwn ni hau had yn awr ar gyfer rhywbeth a fydd yn ein helpu ni i gyflawni ein gobeithion a'n breuddwydion? Fe ddefnyddiodd Iesu ddelwedd o hadau i roi cyngor ar sawl achlysur.

    Yn gyntaf, fe awgrymodd pa mor bwysig yw hau'r had yn y lle iawn. Pe byddai'r had yn cael ei hau ar dir caregog, ar y llwybr, ymhlith y chwyn neu mewn tir bas, ni fyddai'n debygol o lwyddo. Dim ond trwy hau'r had mewn tir da y byddai'n gweithio. Felly, pa beth bynnag yw ein cynlluniau, fe ddylem ystyried yn ofalus beth fyddai fwyaf buddiol er mwyn ein helpu i'w cyflawni. Fe ddylem ystyried pwy ddylai fod yn rhan o'r cynlluniau gyda ni, faint o amser ac arian y dylen ni eu buddsoddi, ac ystyried y profiadau y mae pobl eraill wedi eu cael wrth ddilyn llwybrau tebyg. Bydd gosod ein hymdrech yn y lle iawn yn awr yn gwarantu canlyniad gwell i ni yn y dyfodol.

    Yn ail, fe rybuddiodd Iesu na fyddem o reidrwydd yn cael canlyniadau ar unwaith. Fe ddisgrifiodd sut y mae hedyn yn edrych fel pe byddai'n farw cyn i'r egin ymddangos. Caiff ei gladdu yn y ddaear, o'r golwg, yn farw i bob golwg cyn iddo ddod yn fyw. Felly mae cynlluniau tymor-hir angen amynedd a dyfalbarhad. Gall deimlo fel amser hir cyn y byddwn yn gallu gwireddu unrhyw un o'n breuddwydion. Gallwn gael ein temtio i roi'r ffidil yn y to, neu geisio newid pethau, fel plant bach sy'n plannu hadau yn cael eu temtio i chwilio amdanyn nhw yn y pridd er mwyn gweld a ydyn nhw'n dal yn fyw. Y cyfan a wna hynny yw lladd yr hadau. Rhaid caniatáu amser neilltuol i'r hadau gael datblygu.

Amser i feddwl

Awgrymodd Iesu ein bod yn cadw ein gobeithion a'n breuddwydion yn bethau mawr. Rhoddodd enghraifft o'r hedyn mwstard bychan iawn sy'n tyfu'n blanhigyn mawr, digon mawr i adar glwydo arno. Gall breuddwydion bach fod yn hawdd i'w cyflawni, ond y breuddwydion mawr sy'n gallu dod â'r boddhad mwyaf i rywun.

Ble mae hynny'n ein gadael ni heddiw? Fe allwn ni edrych tua'r dyfodol gan obeithio'n unig fod rhywbeth yn mynd i ddigwydd, neu fe allwn ni benderfynu gweithio'n galed tuag at gyrraedd ein hamcanion. Wrth i ni wneud hynny, gallwn fwynhau rhai adegau penodol i ymlacio ar hyd y ffordd, yn union fel Gwyliau Mai'r dyddiau a fu.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch bod gennym ni i gyd freuddwydion ar gyfer y dyfodol.
Atgoffa ni o’r hyn rydyn ni wedi ei gyflawni yn ein bywyd hyd yma.
Helpa ni i weithio’n galed er mwyn plannu had ar gyfer y dyfodol.
Amen.

Cân/cerddoriaeth

Ain’t no stoppin’us now’ gan McFadden & Whitehead

Dyddiad cyhoeddi: Mai 2017    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon