Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Diddordebau gyrfa

Cynllunio ar gyfer y dyfodol

gan Tim and Vicky Scott (addaswyd, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2011)

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 4/5

Nodau / Amcanion

Ystyried sut i ddewis gyrfa ac ystyried pa sgiliau mae arnom eu hangen er mwyn cynllunio ein gyrfa.

Paratoad a Deunyddiau

Gwasanaeth

  1. Defnyddiwch y gêm diddordebau gyrfa (ar gael ar: <https://career.missouri.edu/career-interest-game>) er mwyn cael y myfyrwyr i feddwl am y math o yrfa a fyddai’n gweddu iddyn nhw.

    Gofynnwch i’r myfyrwyr ddychmygu eu bod mewn parti lle mae pobl sydd o'r un math wedi ymgasglu ym mhob cornel o'r ystafell. At ba grwp y byddan nhw'n fwyaf tebygol o fynd ato: cyfreithwyr, ymgynghorwyr TG, meddygon, gweithwyr iechyd, bricwyr, plymwyr . . . ?

    Pe byddai pawb yn y grwp hwnnw'n ymadael, pa grwp fyddai'r myfyrwyr yn ymuno ag ef nesaf? Yna, pe byddai'r grwp hwnnw hefyd yn ymadael, pa grwp y bydden nhw'n ymuno ag ef wedyn?

    Sut ydych chi'n mynd ati i ddewis gyrfa? Efallai eich bod eisoes yn gwybod i sicrwydd pa fath o yrfa yr hoffech chi ei dilyn ryw ddydd. Efallai, fel yn achos y mwyafrif o bobl, fe fydd yn cymryd peth amser i ganfod y lle mwyaf addas i chi. A ydych chi'n gwybod beth hoffech chi ei wneud? Beth feddyliwch chi yw'r gwahaniaeth rhwng gwaith a gyrfa? Yn fwyfwy, bydd gan bobl nifer o swyddi gwahanol dros gyfnod eu gyrfa. 

  2. Mae'n syniad da i fod yn rhagweithiol na bod yn adweithiol wrth gynllunio gyrfa. Faint ohonoch chi, hyd yn hyn, sydd wedi bod yn rhagweithiol wrth gynllunio eich gyrfa? A ydych chi wedi neilltuo peth amser i feddwl am eich gyrfa a’i chynllunio? Er enghraifft, efallai eich bod wedi darllen am y mathau o yrfaoedd sydd o ddiddordeb i chi, neu efallai eich bod wedi siarad â phobl yr ydych yn ymddiried ynddyn nhw - pobl sy'n eich adnabod yn dda - am yrfa y maen nhw o'r farn a fyddai'n addas ar eich cyfer chi. Efallai eich bod wedi myfyrio ar eich profiad eich hun, er enghraifft, trwy feddwl am y mathau o weithgareddau yr ydych chi'n eu hoffi a'r rhai yr oeddech chi'n cael y teimlad o gyflawniad gwirioneddol ynddyn nhw. Mae adnoddau i'ch cynorthwyo gyda'r cam hwn, felly gwnewch yn siwr eich bod yn cael gair â chyswllt gyrfaoedd yr ysgol. 

  3. I ba le yr ydych chi wedi cyrraedd erbyn hyn ac ym mha le y byddech chi’n dymuno bod? Mae pum cam sy'n rhan o gynllunio gyrfa.

    1. Archwilio. Dysgwch amdanoch chi eich hun a nodwch ym mha le y mae cryfder eich sgiliau'n amlwg. Beth ydych chi'n dda am ei wneud? Beth sy'n eich cymell chi? Pa fath o bethau ydych chi'n mwynhau eu gwneud? A fyddech chi'n hoffi rôl sy'n delio â phobl, syniadau neu bethau? A fyddai'n well gennych chi weithio mewn mudiad cyhoeddus, neu breifat, bach neu fawr? A ydych chi'n hoffi'r syniad o gael sicrwydd fel rhan o'ch gwaith, neu a fyddai'n well gennych chi gael amrywiaeth? A ydych chi’n hapus yn gweithio mewn amgylchedd dan bwysau neu a ydych chi'n hoffi gweithio ar gyflymdra mwy cymedrol? Pa sector fyddai'n addas ar eich cyfer chi? Academaidd? Cyhoeddus? Masnachol? 
    Fe allech chi ddefnyddio rhestr sgiliau i gael ysbrydoliaeth neu er mwyn nodi eich diddordebau.                                                                                                                                                                                                                     
    2. Darganfod. Er mwyn cael gwell dealltwriaeth o swydd neilltuol neu ddiwydiant penodol, trafodwch â phobl sydd eisoes yn gweithio yn y math o waith y byddai gennych chi ddiddordeb cael gyrfa ynddo. Efallai y gallai hyn ffurfio rhan o brosiect ysgol. Ceisiwch ganfod sut beth fyddai diwrnod o waith arferol iddyn nhw: pa sgiliau y maen nhw'n eu defnyddio bob dydd, a pha fath o bethau y bu rhaid iddyn nhw eu dysgu? Fe allech chi eu holi ynglyn â diwylliant y cwmni y maen nhw'n gweithio iddo. Gofynnwch iddyn nhw pa sgiliau a phrofiad y maen nhw'n credu sydd bwysicaf ar gyfer eu rôl.

    3. Gwyliwch am gyfleoedd. Pan fydd yr amser yn gyfleus, gwyliwch am y cyfleoedd iawn, y rhai sy'n weladwy a'r rhai sy'n anweledig, fel swyddi nad ydyn nhw'n cael eu hysbysebu.

    4. Hyrwyddwch eich hun. Hyrwyddwch eich hun ar gyfer y cyfleoedd hynny trwy ddefnyddio eich CV, cyfweliad, gwefan ac yn y blaen. Byddwch mor ddychmygol ag y mynnwch!

    5. Cyflawnwch lwyddiant. Dechreuwch yn eich swydd ddelfrydol! 

  4. Er mwyn eich helpu i archwilio eich sgiliau, mae angen i chi ystyried y pethau yr ydych yn rhagori ynddyn nhw a'r pethau hynny nad ydych cystal am eu gwneud, y pethau hynny yr ydych yn eu mwynhau a'r pethau nad ydych yn eu mwynhau.

Amser i feddwl

Treuliwch funud yn meddwl am yr hyn yr hoffech chi ei wneud yn y dyfodol.

Gallwn fwynhau meddwl am yr hyn y byddem yn hoffi ei ddilyn fel gyrfa. Wrth i chi feddwl am y dyfodol, ymddiriedwch yn eich teulu a'ch ffrindiau i'ch helpu i ystyried beth yw eich gwir gymhelliant a'ch prif ddoniau, ac ymhle y byddech chi’n profi’r boddhad mwyaf.

Mae Cristnogion yn credu bod gan Dduw ddiddordeb yn eu bywyd. Maen nhw'n credu bod Duw eisiau eu harwain at yr yrfa gywir, lle caiff eu sgiliau a'u doniau eu defnyddio i'r eithaf. Mae Salm 119.105 yn datgan, ‘Llusern yw dy Air i'm traed, a llewyrch i'm llwybr.’ Mae Cristnogion yn credu y bydd Duw yn ganllaw i'w dewisiadau a phob amser yn dymuno'r hyn sydd orau iddyn nhw.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch ein bod yn gallu ymddiried ynot ti i’n helpu ni, ar hyn o bryd ac yn y dyfodol hefyd.
Helpa ni wrth i ni feddwl am ein gyrfa yn y dyfodol.
Helpa ni i ddefnyddio’r sgiliau a’r doniau y cawsom ein bendithio â nhw.
Boed i ni fod yn ddoeth wrth wneud penderfyniadau.
Boed i ni wneud dewisiadau da yn ein bywyd.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Mai 2017    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon