Mae Duw yno
Cofio am Dduw yn ein bywydau prysur
gan K. J. Lacey
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Uwchradd)
Nodau / Amcanion
Ystyried fod Duw yn bresennol hyd yn oed pan fydd ein bywyd yn ymddangos yn brysur.
Paratoad a Deunyddiau
- Fe fydd arnoch chi angen fâs fawr, glir neu gynhwysydd y gallwch chi weld trwyddo; rhai cerrig mawr (i’w rhoi i mewn yn y fâs); rhai dail; rhai ffyn pren bach; petalau blodau a jwg o ddwr.
- Dewisol: Efallai y byddwch yn dymuno chwarae'r gân ‘I smile’ gan Kirk Franklin yn ystod y cyfnod 'Amser i feddwl' yn y gwasanaeth, ac os felly bydd angen i chi drefnu’r modd o wneud hynny. Mae fideo o'r gân ar gael ar:https://www.youtube.com/watch?v=Z8SPwT3nQZ8. Mae’n para am 4.59 munud.
Gwasanaeth
- Os gallwch chi wneud hynny, rhuthrwch i mewn i’r gwasanaeth gan edrych yn brysur a dryslyd. Esboniwch y gall bywyd fod yn brysur iawn ar adegau, a soniwch wrth y myfyrwyr am rai o'r pethau yr ydych wedi gorfod ymdopi â nhw eisoes heddiw – gan or-ddweud, wrth gwrs! Os ydych chi’n cyflwyno'r gwasanaeth i gynulleidfa iau, efallai yr hoffech chi ofyn i’r myfyrwyr am ddisgrifiad nodweddiadol o'u hwythnos nhw a'r pethau sy'n eu cadw nhw’n brysur - clybiau, gweithgareddau ar ôl ysgol, gofalu am berthnasau, gwaith cartref ac yn y blaen. Pwysleisiwch y gall bywyd fod yn brysur iawn yn achos pob un ohonom!
- Dangoswch y fâs neu’r cynhwysydd gwag.
Eglurwch i'r myfyrwyr y gallai’r fâs neu'r cynhwysydd gynrychioli eu bywyd. Ar hyn o bryd, mae’n wag, ond rydyn ni’n mynd i'w llenwi gyda’r pethau rydyn ni newydd fod yn siarad amdanyn nhw.
Rhowch y cerrig yng ngwaelod y fâs.
Eglurwch fod y cerrig yn cynrychioli’r ysgol a dysgu. Maen nhw’n debyg i flociau adeiladu sy'n gosod y sylfeini ar gyfer ein bywyd cyfan.
Rhowch y dail yn y fâs.
Eglurwch fod y dail yn cynrychioli pob un o'r meysydd hynny sy'n rhoi bywyd a mwynhad ni - y clybiau rydyn ni’n aelodau ohonyn nhw, y chwaraeon rydyn ni’n cymryd rhan ynddyn nhw, yr hobïau rydyn ni’n eu mwynhau - y pethau sy'n gwneud bywyd yn gyffrous ac yn hwyl.
Rhowch y ffyn pren yn y fâs.
Eglurwch fod y ffyn cynrychioli'r adegau yn ein bywyd pan fyddwn yn teimlo'n drist - yr adegau pan fyddwn yn cweryla gyda'n ffrindiau, pan fyddwn yn dadlau gyda'n teuluoedd, a phan rydyn ni mewn trafferth neu’n teimlo'n isel ein hysbryd.
Rhowch y petalau yn y fâs (fe ddylai fod yn llawn erbyn hyn).
Eglurwch fod y petalau yn cynrychioli’r amseroedd da rydyn ni’n eu treulio gyda’n ffrindiau ac aelodau ein teulu - yr adegau hynny sy'n gwneud i ni deimlo'n hapus yn ddiogel ac yn saff. - Pwysleisiwch fod ein bywydau’n eithaf llawn. Erbyn i ni fod wedi llenwi ein bywydau â gweithgareddau yn yr ysgol, y gwaith, ein diddordebau, cael hwyl gyda ffrindiau ac yn y blaen, mae'n ymddangos nad oes lle i unrhyw beth arall yn ein bywyd, heb sôn am le i Dduw!
Amser i feddwl
Yn araf, arllwyswch y dwr i’r fâs.
Eglurwch, fod er ei fod yn ymddangos nad oedd mwy o le yn y fâs, pan wnaethoch chi arllwys y dwr i mewn roedd yn llifo i mewn ac yn llenwi pob bwlch. Yn yr un modd, mae Cristnogion yn credu bod Duw yno ym mhopeth a wnawn, ym mhob sefyllfa. Mae'n bresennol yn yr amseroedd da ac ar yr adegau drwg, yn y munudau swnllyd ac yn y distawrwydd. Weithiau, rydyn ni’n anghofio cydnabod Duw, ond mae’n dal i fod yno o hyd. Mae'n gwybod beth fyddwn ni’n ei wneud - pan fyddwn ni’n eistedd, yn sefyll, yn siarad, yn chwerthin, yn crio neu’n cysgu - ac mae'n gwybod pwy ydyn ni.
Mae awdur un o’r salmau sydd i'w cael yn y Beibl yn dweud, ‘Gwyddost ti pa bryd y byddaf yn eistedd ac yn codi; yr wyt wedi deall fy meddwl o bell.’ (Salm 139.2)
Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch am fod yno i ni hyd yn oed pan na fyddwn yn dy gydnabod di.
Diolch i ti am ofalu amdanom ni a’n caru ni, pan fyddwn ni’n gwneud pethau’n iawn a phan fyddwn ni’n gwneud pethau sydd ddim yn iawn.
Helpa ni i deimlo dy bresenoldeb bob dydd.
Boed i ni wenu am ein bod yn gwybod dy fod ti yno.
Amen.
Cân/cerddoriaeth
‘I smile’ gan Kirk Franklin, ar gael ar:https://www.youtube.com/watch?v=Z8SPwT3nQZ8