Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Camu ymlaen

Gwasanaeth ar gyfer ‘Wythnos Gwirfoddoli,’ 1–7 Mehefin 2017

gan Claire Law

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Ystyried natur gwirfoddoli a'r manteision sy’n dod o wneud hynny.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen copi o’r sleidiau PowerPoint sy’n cyd-fynd â’r gwasanaeth hwn (Stepping Forward) a’r modd o’u dangos.

Gwasanaeth

  1. Dangoswch Sleid 1.

    Holwch y myfyrwyr, ‘Pwy fyddai’n hoffi gwirfoddoli i fy helpu i?’

    Dangoswch Sleid 2.

    Crynhowch yr ymateb i'r cwestiwn hwn drwy ddweud rhywbeth tebyg i hyn, ‘Mae hynny'n ddiddorol, mae tua 30 y cant ohonoch wedi codi eich llaw i wirfoddoli.’

  2. Siaradwch drwy'r rhesymau posibl pam yr oedd rhai pobl yn awyddus i wirfoddoli, a rhai eraill ddim mor barod i wneud hynny.

    - Yn achos y rhai a gododd eu dwylo: mae hynny'n ddiddorol. Rydych chi wedi gwirfoddoli ar gyfer swydd neu dasg dydych chi’n gwybod dim amdani. Pam tybed y gwnaethoch chi hynny? Ai oherwydd eich bod yn awyddus i helpu? Ai am fod helpu eraill yn rhoi teimlad da chi? Ai oherwydd eich bod yn hoffi cael eich gweld fel delfryd ymddwyn i eraill?

    - Yn achos y rhai nad oedd yn awyddus i wirfoddoli: pam tybed? Ai oherwydd eich bod angen mwy o wybodaeth? Ai oherwydd nad ydych yn sicr a fyddech chi’n cael unrhyw beth allan ohono, neu pa fath o aberth o ran amser ac egni y byddai angen i chi ei wneud? Ai am fod yn well gennych chi gadw eich hun i chi eich hun? Ai am fod eich ffrindiau neu’r rhai rydych chi’n eistedd agosaf atyn nhw ddim wedi codi eu dwylo?

  3. Yn y gwasanaeth heddiw, rydyn ni’n mynd i drafod gwirfoddoli. Fe fyddwn yn ystyried pam a sut y mae pobl yn gwirfoddoli, a pha fudd sy’n dod o wirfoddoli. Bob blwyddyn yn y DU, mae'r wythnos gyntaf ym mis Mehefin yn cael ei chydnabod fel Wythnos Gwirfoddolwyr. Mae'r wythnos yn ddathliad blynyddol o'r cyfraniad gwych y mae miliynau o wirfoddolwyr yn ei wneud ledled y D.U. Mae’r wythnos yn cael ei threfnu gan NCVO, yNational Council for Voluntary Organizations.

  4. Wrth i ni ddechrau meddwl am fanteision gwirfoddoli, gadewch i wylio’r clip fideo byr hwn.

    Dangoswch y clip fideo YouTube, ‘The Simpsons S08E08 Hurricane Neddy - Rebuilding Ned’s House’o’r dechrau hyd at tua 1.07 munud. Stopiwch y fideo pan fydd Ned yn cerdded drwy’r drws ffrynt.

    Yn y clip fideo hwn, gwelsom sut y daeth cymuned Springfield at ei gilydd i wirfoddoli eu hamser, eu sgiliau a'u gwasanaethau er mwyn ailadeiladu ty Ned Flanders ar ôl iddo gael ei ddinistrio gan gorwynt. Roedd y canlyniad ar y diwedd sef y ty ar ei newydd wedd, diolch amlwg Ned, a'r teimlad cadarnhaol a deimlwyd gan y gwirfoddolwyr, i gyd wedi dod o ganlyniad i’r ffaith bod unigolion wedi bod yn barod i roi eu hunain.

  5. Dangoswch Sleid 3.

    Mae’n bosib diffinio gwirfoddoli fel 'unrhyw weithgaredd sy'n golygu treulio amser, yn ddi-dâl, yn gwneud rhywbeth sydd â'r nod i fod o fudd i rywun (unigolion neu grwpiau) heblaw neu'n ychwanegol i berthnasau agos, neu er lles yr amgylchedd'.

  6. Mae'r diffiniad hwn am wirfoddoli yn sôn am fod o fudd i'r gymuned. Fe allai fod yn brosiect fel casglu sbwriel neu blannu coed newydd; gwirfoddoli fel arweinydd ieuenctid gyda mudiadau fel Sgowtiaid, Geidiaid neu sefydliadau ieuenctid eraill; neu weithredu fel mentor cyfoedion yn yr ysgol. Wrth wirfoddoli rydych chi’n helpu pobl eraill ac, wrth wneud hynny, yn adeiladu cymuned gryfach a chymdeithas. Mae pob crefydd y byd - Cristnogaeth, Iddewiaeth, Islam, Bwdhaeth, Hindwaeth a Siciaeth - i gyd yn cynnwys addysgu y dylem 'drin pobl eraill fel y bydden ni’n dymuno cael ein trin ganddyn nhw'. Mae gwirfoddoli’n ffordd o ddangos gofal, consyrn a charedigrwydd tuag at eraill. Mae’r fideo canlynol gan NCVO yn pwysleisio’r pwynt hwn.

    Dangoswch y fideo ‘Where volunteering begins’. Mae’n para am 1.06 munud.

  7. Yn ogystal â'r manteision y gallai gwirfoddoli fod yn ei roi i eraill, mae bod yn wirfoddolwr hefyd gael gallu bod â chanlyniadau cadarnhaol ar gyfer y gwirfoddolwr ei hun.

    -Mae gwirfoddoli yn ein cysylltu â phobl eraill, ac yn ein helpu i adeiladu perthnasoedd cadarnhaol.
    -Mae gwirfoddoli’n beth da ar gyfer ein meddwl a’n corff. Mae ymchwilwyr yn y London School of Economicswedi canfod y mwyaf yr oedd pobl yn gwirfoddoli, mwyaf hapus yr oedden nhw. Roedd y tebygolrwydd o fod yn 'hapus iawn' yn uwch 16 y cant ar gyfer pobl sy'n gwirfoddoli yn wythnosol.
    -Mae gwirfoddoli’n dda ar gyfer ein gyrfaoedd, gan ein helpu i ddysgu sgiliau newydd. Mae dros 70 y cant o gyflogwyr yn credu bod y rhai sy'n gwirfoddoli yn fwy tebygol o gael gwell cyfle o ennill cyflog uwch ac ennill dyrchafiad.

Amser i feddwl

Gadewch i ni dreulio moment i fyfyrio ar sut y gallem ymrwymo i helpu pobl eraill a’n cymuned drwy wirfoddoli ein hamser a'n sgiliau.

Gadewch i ni nodi’r sgiliau sydd gan bob un ohonom i'w rhannu ag eraill.

- Ydych chi’n dda am helpu gyda phlant ifanc?
- Oes gennych chi sgiliau ym myd chwaraeon?
- Oes gennych chi sgiliau i ymwneud â threfnu a chynllunio?
- Ydych chi’n un sy’n dda am wrando?

Oedwch i roi amser i feddwl.

Nawr, gadewch i ni ystyried y cyfleoedd a'r adegau hynny pan fydden ni’n gallu gwirfoddoli, efallai.

- Un gyda’r nos bob wythnos?
- Yn ystod gwyliau ysgol?
- Yn ystod y penwythnos?
- Yn yr ysgol: amser egwyl, amser cinio neu ar ôl yr ysgol?

Oedwch i roi amser i feddwl.

Yn olaf, gadewch i ni fyfyrio ar y cyfleoedd sydd gennym yn ein cymuned i wirfoddoli. (Os oes modd, enwch neu lluniwch restr o amrywiaeth o gyfleoedd a fyddai’n benodol i'ch lleoliad ysgol chi a'r gymuned leol.)

Oedwch i roi amser i feddwl.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Cofiwn yr egwyddor ysbrydol bwysig sy'n ein hannog ni i drin pobl eraill fel y bydden ni’n dymuno cael ein trin ganddyn nhw.
Heddiw, rydyn ni’n gweddïo am fyd lle mae caredigrwydd, gofal am eraill, a thosturi, yn elfennau a fyddai’n nodweddu ein cymunedau.
Rydyn ni’n gofyn i ti roi cyfleoedd i ni wirfoddoli.
Rydyn ni’n gofyn i ti am y dewrder i ddweud 'iawn' pan fydd y cyfleoedd hyn yn codi
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Mehefin 2017    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon