Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Symud ymlaen

Gadael y gorffennol ac anelu am y dyfodol

gan Tim Scott (addaswyd, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2010)

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Ein helpu i ddelio ag adegau pan fydd yn rhaid i ni symud ymlaen yn ein bywyd.

Paratoad a Deunyddiau

  • Trefnwch fod gennych chi fynediad at wefan gwerthu eiddo, fel www.rightmove.co.uk, a’r modd o ddangos hon yn ystod y gwasanaeth.

Gwasanaeth

  1. Dangoswch y wefan eiddo i'r myfyrwyr a dangoswch iddyn nhw sut i fynd ati i chwilio am dy  pe bydden nhw'n chwilio am eu heiddo delfrydol. Gwnewch hyn yn rhywbeth rhyngweithiol trwy holi'r gwahanol fyfyrwyr i roi meini prawf i chi ar gyfer chwilio am dy. Soniwch wrthyn nhw am brofiad personol pan oeddech chi'n symud ty, efallai. 

  2. Pa un ai a fyddwn ni'n symud ty, yn symud ysgol neu hyd yn oed yn symud i fyw i wlad arall, mae adegau yn ein bywyd pan fyddwn yn cael y profiad o symud ymlaen? 

    Gofynnwch i'r myfyrwyr, ‘Sut y byddwch chi'n teimlo ynglyn â symud ymlaen? ‘Cynhyrfus? Digalon? Ofnus?’

    Oedwch i roi amser i feddwl.

  3. Mae peidio â symud ymlaen weithiau yn teimlo fel yr opsiwn saff, ond mewn gwirionedd, gall fod yn ddrwg iawn i ni. Gwnaeth gwyddonwyr arbrawf gan osod ameba, organeb ungell fach iawn, mewn amgylchiadau delfrydol o amgylchedd cyfforddus, heb straen. Nid oedd angen iddo newid na gwneud unrhyw addasiadau, eto bu farw. Pam? Oherwydd mae hyd yn oed ameba angen newid a her, yn union fel y mae angen bwyd a diod arnom ni. Gall bod yn rhy gyfforddus ein lladd ni. 

  4. Gallwch fod wedi clywed am grancod cregyn. Maen nhw'n cael hyd i gragen sy'n ffitio, ac yna mae’r cranc yn byw ynddi nes y bydd wedi tyfu’n rhy fawr iddi. Ydych chi'n gwybod beth mae’r crancod cregyn yn ei wneud wedyn? Maen nhw'n gadael y gragen sydd yn rhy fach iddyn nhw erbyn hynny, ac yn rhuthro o gwmpas gwely'r môr er mwyn chwilio am gragen fwy, mor gyflym â phosib, cyn i rywbeth ei fwyta! Mae'r broses hon yn ail-adrodd ei hun sawl gwaith ym mywyd y math hwn o granc. 

  5. A ydych chi'n dal i gadw rhywbeth sydd bellach ddim yn eich ffitio, dim ond oherwydd ei fod yn gyfforddus? Os ydych am dyfu'n bersonol, rhaid i chi fod yn barod i symud o'ch cynefin cysurus a symud ymlaen, hyd yn oed pan fydd hynny’n golygu eich bod yn gorfod teimlo’n anghysurus am ychydig. Efallai eich bod wedi gordyfu eich cyfnod mewn clwb neu wrth ddilyn hobi, efallai fod angen i chi ail ystyried perthynas yr ydych yn rhan ohoni, neu efallai y bydd raid i chi newid ymddygiad sy'n profi'n ddinistriol. Beth bynnag a fo, peidiwch â bod mor fodlon eich byd fel na allwch adael i bethau fynd, a symud ymlaen pan fydd angen i chi wneud hynny.

  6. Mewn bywyd, fe fyddwn weithiau yn wynebu rhwystrau sy'n ein hatal rhag symud ymlaen yn gorfforol, yn feddyliol, yn emosiynol a hyd yn oed yn ysbrydol. Gall fod o ganlyniad i'r ysgytwad o adael rhywle cyfarwydd, marwolaeth un sy’n annwyl gennym, anaf neu waeledd, neu berthynas sydd wedi dod i ben. Cyn y gallwch chi symud ymlaen, bydd yn rhaid i chi            wneud tri pheth:
    - Maddau i'r rhai sydd wedi'ch brifo. Peidiwch â gadael i'r gorffennol eich rheoli’n llwyr. Yn y stori The Lion King, mae'r llew ifanc, Simba, yn gorfod gadael i'w orffennol fynd. Mae'n gweld bai am farwolaeth ei dad, oherwydd bod Scar, ei ewythr drygionus wedi dweud wrtho mai ef oedd yn gyfrifol. Yn y stori, mae Simba yn dianc ac yn gwrthod wynebu ei orffennol. Fodd bynnag, gyda chymorth ei ffrindiau, Timon a Pumbaa, a Nala, ei gariad o adeg plentyndod, mae'n dychwelyd i ddod y llew-frenin y bwriadwyd iddo fod.
    - Cyffesu eich camgymeriadau, dweud bod yn ddrwg gennych chi, a derbyn maddeuant.
    - Rhoi eich hunan trwy helpu eraill i ddelio â'u trafferthion. Bod yn garedig wrth bobl nad ydych o reidrwydd yn eu hoffi: yn oedolion a phlant iau yn ogystal â phobl o'r un oed â chi.

Amser i feddwl

Wrth i ni ddynesu at ddiwedd blwyddyn ysgol arall, adeg a fydd i rai ohonoch chi yn golygu diwedd ar eich amser yn yr ysgol hon, peidiwch â chanolbwyntio'n unig ar y pethau yr ydych yn eu gadael ar ôl.

Meddyliwch am yr hyn y byddwch chi’n mynd gyda chi pan fyddwch chi’n mynd:  rhai atgofion da, gobeithio. Efallai y byddwch yn sylweddoli eich bod wedi ennill hyder, hunanwerth, doethineb a ffydd ar gyfer yr her nesaf o'ch blaen.

Dysgwch o'r hyn sydd wedi digwydd yn flaenorol, a symudwch ymlaen. A ydych chi’n barod ar gyfer pethau mwy o faint?

Pan fydd hi'n amser symud ymlaen, bydd hynny oherwydd, fel yn achos y crancod cregyn, mae cragen arall rhywle gerllaw sydd yn gweddu'n well i chi. Fodd bynnag, allwch chi ddim symud i'r gragen honno hyd nes y byddwch wedi ymadael â'r hen un.

Mae mwy o'ch blaen na sydd y ti ôl i chi – mae'r gorau eto i ddod!

Gweddi
Annwyl Dduw,
Wrth i ni feddwl am y camau nesaf yn ein bywydau, boed yn ddosbarth newydd, ysgol newydd neu gartref newydd,
helpa ni i fod yn barod i symud ymlaen.
Helpa ni i fod yn ddewr.
Helpa ni i ollwng gafael ar y pethau sy’n ein dal ni’n ôl,  
fel y gallwn ni edrych ymlaen ac wynebu’r dyfodol.

Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Awst 2017    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon