Daliwch i bedalu!
Dathlu 200 mlwyddiant y beic
gan Claire Law
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Uwchradd)
Nodau / Amcanion
Ystyried hanes y beic ar adeg dathlu ei ddeucanmlwyddiant.
Paratoad a Deunyddiau
- Fe fydd arnoch chi angen y sleidiau PowerPoint sy’n cyd-fynd â’r gwasanaeth hwn (Keep On Pedalling!) a’r modd o’u dangos yn ystod y gwasanaeth.
- Trefnwch hefyd bod y clip fideo YouTube, ‘Queen: Bicycle Race (I Want to Ride My Bicycle)’ gennych chi, a’r modd o’i ddangos. Mae’n para am 3.02 munud ac mae ar gael ar:https://www.youtube.com/watch?v=KwvWtZl2ICY
- Cewch fwy o wybodaeth am yr elusen, Re-Cycle, sy’n anfon beiciau wedi eu hadfer i Affrica, ar y wefan: http://www.re-cycle.org/
Gwasanaeth
- Chwaraewch y fideo YouTube, ‘Queen: Bicycle Race (I Want to Ride My Bicycle)’ wrth i’r myfyrwyr ddod i mewn i’r gwasanaeth.
- Gofynnwch i'r myfyrwyr amcangyfrif pa mor bell yn ôl y cafodd y beic cyntaf ei ddyfeisio. Casglwch ambell amcangyfrif cyn rhoi’r ateb cywir: yr ateb yw 200 mlynedd yn ôl, yn 1817.
- Eglurwch y bydd y gwasanaeth hwn yn ystyried hanes y beic ond, yn gyntaf, rydych chi am weld faint mae'r myfyrwyr yn ei wybod am feiciau o'r gorffennol.
Dangoswch Sleidiau 1-4 fesul un, yn eu tro, gan holi’r myfyrwyr ydyn nhw’n gallu enwi’r gwahanol fathau o feics.
- Mae Sleid 1 yn dangos llun beic ‘penny-farthing’.
- Sleid 2 yn dangos llun tandem, sy’n feic wedi ei lunio ar gyfer dau berson.
- Sleid 3 yn dangos llun beic un olwyn. Yn fanwl gywir, nid yw hwn yn feic yn yr ystyr sy’n cael ei gyfleu gan y rhagddodiad 'bi' yn y gair ‘bicycle’ (a hynny’n cyfeirio at ddwy olwyn). Yma un olwyn yn unig sydd gennym ar y beic un olwyn neu’r ‘unicycle’.
- Sleid 4 yn dangos llun beic Raleigh Chopper, a oedd yn feic poblogaidd iawn yn yr 1970au. Efallai yr hoffech chi ofyn i rai aelodau o’r staff godi eu dwylo os ydyn nhw’n cofio bod yn berchen ar un o'r rhain pan oedden nhw’n blant! - Gadewch i ni ystyried hanes y beic.
Dangoswch Sleid 5.
Cafodd y beic cyntaf ei ddyfeisio yn y flwyddyn 1817 gan y Barwn Karl von Drais yn yr Almaen. Cafodd yr enw ‘Laufmaschine’, sydd ynn golygu ‘peiriant sy'n rhedeg’. Roedd Von Drais yn gobeithio y byddai ei ddyfais yn helpu llawer o bobl trwy ddarparu modd o deithio iddyn nhw os nad oedden nhw’n gallu fforddio ceffyl. - Dangoswch Sleid 6.
Yn y flwyddyn 1868, cafodd beic a oedd â phedalau iddo ei ddyfeisio. - Dangoswch Sleid 7.
Rai blynyddoedd yn ddiweddarach, cafodd y beic 'penny-farthing', gyda'i olwyn flaen fawr ac olwyn gefn fach, ei ddyfeisio. Roedd y math yma o feic yn boblogaidd gyda'r gwyr bonheddig a chyfoethogion Oes Fictoria, roedd yn rhoi reid esmwythach na beiciau a gynlluniwyd yn flaenorol. - Dangoswch Sleid 8.
Yn fuan wedi hynny, fe ddyfeisiwyd beiciau sy'n debycach i'r modelau yr ydyn ni’n fwy cyfarwydd â nhw'r dyddiau hyn ac yn mwynhau eu reidio. Nodwedd neilltuol a oedd yn perthyn i’r rhain oedd bod ganddyn nhw deiars rwber yn llawn o aer. - Dangoswch Sleid 9.
Roedd gan fersiynau o feiciau cynnar ar gyfer merched ffrâm lle'r oedd modd iddyn nhw gamu trwyddyn nhw, yn wahanol i'r ffrâm siâp diemwnt a oedd yn perthyn i feiciau ar gyfer dynion. Roedd hyn yn galluogi i ferched a oedd yn gwisgo dillad ffasiynol y cyfnod hwnnw reidio'u beiciau yn hawdd er eu bod yn gwisgo ffrogiau a sgertiau llawn. - Dangoswch Sleid 10.
Yn y flwyddyn 1903, fe ddechreuodd y 'Tour de France', sef y ras feiciau enwog dros 3,500-cilometr o amgylch Ffrainc. Y dyddiau hyn, bydd 12 miliwn o wylwyr yn sefyll ar hyd ymyl y strydoedd yn cefnogi a chymeradwyo'r beicwyr sy'n cymryd rhan yn y ras, gan wneud y 'Tour de France' yn un o ddigwyddiad chwaraeon mwyaf yn y byd. Yn y flwyddyn 2012, fe enillodd Bradley Wiggins, beiciwr o Brydain, y ras a beiciwr arall o Brydain, Chris Froome, sydd wedi ei hennill yn y ddwy flynedd ddiwethaf. - Felly, sut y mae cymdeithas wedi elwa o ddyfeisio'r beic? Yn ystod blynyddoedd cynnar yr ugeinfed ganrif, roedd y ffaith bod merched yn gallu reidio beiciau yn golygu eu bod yn gallu cael mwy o ryddid nad oedd hyd hynny wedi bod ar gael iddyn nhw. Roedd hyn hefyd yn ffactor arwyddocaol a newidiodd yr opsiynau a oedd ar gael i ferched ym myd ffasiwn. Yn hytrach na chael eu cyfyngu i ddewis staesiau gyda sgertiau aml-haenog, trwm, hir dros beisiau, neu gylchyn, gallai merched ddewis gwisgo gwisg fwy ymarferol, yn cynnwys trowsusau llac. Diolch i’r ddyfais hon, sef y beic, roedd gan ferched fwy o ryddid wedyn i deithio ychydig ymhellach ac ymwneud â phethau tu hwnt i ffiniau'r cartref.
- Ond nid merched yn unig wnaeth elwa o ddyfeisio'r beic. Erbyn blynyddoedd cynnar yr ugeinfed ganrif, golygai poblogrwydd beiciau fod gan lawer o bobl yn awr yn berchen ar fodd eu hunain o deithio. Cynyddodd hyn yn ddramatig y pellteroedd y gallai pobl deithio ac amrediad o leoedd y gallan nhw ymweld â nhw.
- Felly, beth fydd dyfodol beiciau? Fel dull 'gwyrdd' o deithio, mae gan feiciau botensial i helpu ein hamgylchfyd.
Dangoswch Sleid 11.
Dydyn nhw ddim yn cynhyrchu allyriadau carbon, felly dydyn nhw ddim yn cyfrannu at gynhesu byd eang. Maen nhw hefyd yn ein helpu i gadw'n iach ac yn heini. - Mewn rhai gwledydd, mae beiciau yn parhau i fod o gymorth amhrisiadwy er mwyn galluogi pobl i deithio pellteroedd a fyddai fel arall yn dasg rhy anodd ei chyflawni. Er enghraifft, mewn rhai rhanbarthau, lle nad oes ceir neu fath arall o gludiant ar gael, gall beic alluogi meddyg, bydwraig neu nyrs i gyrraedd at bentrefi y bydden nhw fel arall yn rhy ddiarffordd. Gall beic helpu teulu i deithio er mwyn casglu dwr glân neu goed tân yn gynt nac wrth gerdded, a gall hyd yn oed helpu plant i bresenoli eu hunain yn yr ysgol, a chaniatáu amser wedyn yn ystod y dydd ar gyfer gweithgareddau eraill.
Dangoswch Sleid 12.
Mae elusen o'r enw 'Re-Cycle' yn anfon beiciau nad oes mo'i hangen nhw mwyach yn y wlad hon i Affrica i gael eu hadnewyddu a'u defnyddio er budd cymunedau mewn angen.
(Efallai y byddwch yn dymuno sefydlu gweithgaredd elusennol i annog myfyrwyr sydd â beiciau sy’n rhy fach iddyn nhw bellach i'w rhoi i'r elusen hon. Mae mwy o wybodaeth i'w gael ar:http://www.re-cycle.org/)
Amser i feddwl
Felly i ddiweddu, mae dyfais y Barwn Karl von Drais yn y flwyddyn 1817 yn parhau i gael effaith bositif 200 mlynedd yn ddiweddarach. Mae'n dda gwybod bod syniad a chreadigrwydd un unigolyn yn gallu rhoi budd i gymdeithas a'i helpu am flynyddoedd i ddod.
Tybed a oes unrhyw fyfyriwr yma'n bresennol fydd ryw ddiwrnod yn creu rhywbeth neu’n dyfeisio rhywbeth sydd yn debygol o gael dylanwad mor arwyddocaol?
Gweddi
Annwyl Dduw,
Mae'n dda gwybod bod dyfeisio’r beic yn 1817 wedi cael cymaint o effaith ar ein byd.
Mae'r beic wedi bod yn gyfrwng i bobl deithio, archwilio, dysgu a chael ymarfer corff.
Rydyn ni’n diolch i ti am y creadigrwydd a’r dyfeisgarwch a oedd y tu ôl i ddyfais Karl von Drais.
Pan fyddwn ni’n meddwl am ein hamgylchedd, a sut y gallwn ni ofalu am ein byd, gad i ni ddewis opsiynau sy'n helpu i ofalu am y byd - ac mae hyn yn cynnwys dewis beiciau neu gerdded, ar adegau, yn lle teithio mewn car.
Rydyn ni hefyd yn gweddïo dros elusennau fel yr elusen Re-Cycle. Boed i’r elusen hon allu cefnogi pobl mewn angen drwy ddarparu beiciau i'w helpu yn eu bywyd.
Amen.