Yn hyn gyda’n gilydd
Fe allwn ni i gyd wneud gwahaniaeth i’r byd
gan Helen Redfern (addaswyd, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2008)
Addas ar gyfer
- Cyfnod Allweddol 3
Nodau / Amcanion
Amlygu cydgysylltiad pawb yn y byd a dangos ein bod yn gallu gwneud gwahaniaeth.
Paratoad a Deunyddiau
- Trefnwch fod gennych chi belen chwyddadwy ar ffurf glôb a chwe darn o ruban o liwiau gwahanol, pob un tua 1.5 metr o hyd.
- Efallai y bydd y gwefannau canlynol yn ddefnyddiol i chi: www.divinechocolate.com, www.peopletree.co.uk, www.christianaid.org.uk a www.msc.org
Gwasanaeth
- Pan fyddwch chi’n gweld lluniau o blant yn newynu mewn gwersylloedd ffoaduriaid, plant-filwyr sydd â gynnau yn eu dwylo yn hytrach na theganau, neu luniau o deuluoedd yn chwilio ac yn chwalu drwy sbwriel ar safleoedd tirlenwi yn y gobaith o gael hyd i rywbeth a fydd yn gwneud eu pryd nesaf, tybed beth yw eich barn. Efallai y byddwch yn meddwl:
- beth alla i ei wneud am y peth?
- fydd dim bydd y byddaf i’n ei wneud yn gwneud unrhyw wahaniaeth.
- beth sydd â wnelo hyn â fi?
Oedwch i roi amser i feddwl.
Mae'r byd yn mynd yn llai. Na, nid yw’n mynd yn llai o ran maint: nid yw'n crebachu mewn gwirionedd i fod yr un maint â’r glôb sydd gen i yma!
Daliwch y glôb sydd wedi ei chwythu, i’w dangos.
Fodd bynnag, oherwydd adroddiadau teledu, papurau newydd, ffonau symudol, y rhyngrwyd a’r modd o hedfan i wahanol lefydd yn hwylus a rhad, rydyn ni’n gweld mwy ac yn gwybod mwy am ein byd erbyn hyn: rydyn ni’n nes at weddill y byd fel petai.
Pa un a ydyn ni’n hoffi hynny ai peidio, mae’r hyn rydyn ni’n ei wneud yn gwneud gwahaniaeth. - Gwahoddwch 12 o fyfyrwyr i sefyll mewn cylch yn y tu blaen. Fel y bydd pob un o'r datganiadau canlynol yn cael eu llefaru, rhowch bob pen i ddarn o ruban i fyfyrwyr sydd gyferbyn â’i gilydd yn y cylch, gan greu effaith gwe.
Datganiad 1:Drwy brynu siocled Masnach Deg, fe allwch chi helpu rhieni yn Ghana i anfon eu plant i'r ysgol. Nid yw cwmni cydweithredol ffermwyr Masnach Deg yn twyllo’r ffermwyr drwy ddefnyddio clorian anghywir, fel y bydd asiantaethau prynu eraill yn ei wneud yn aml. Mae'r cwmni cydweithredol yn buddsoddi mewn prosiectau i wella safonau byw, iechyd ac addysg y ffermwyr.
Datganiad 2: Drwy wisgo cotwm organig, fe allwch chi leihau effaith amgylcheddol a phroblemau iechyd difrifol sy'n gysylltiedig â ffermio cotwm confensiynol. Mewn rhai gwledydd, gall cotwm confensiynol fod yn cael ei chwistrellu gyda chemegau pryfleiddiad tua 20 gwaith bob tymor. Mae'r rhain yn cynnwys sylweddau a allai fod yn garsinogenig, sylweddau sydd wedi'u gwahardd yn yr Unol Daleithiau a'r Undeb Ewropeaidd (UE). Mae’r sylweddau hyn yn niweidiol i’r plant ifanc sy'n cynaeafu'r cotwm, ac yn llygru’r cyflenwad dwr a'r amgylchedd.
Datganiad 3: Trwy ddefnyddio bylbiau golau ynni isel, fe allwch chi wneud eich rhan i arafu'r newid yn yr hinsawdd, y newid sy'n gyfrifol am y dinistr i gartrefi a bywydau yn Ne Affrica oherwydd llifogydd difrifol. Mae newid yn yr hinsawdd yn digwydd ar hyn o bryd, a'r bobl dlotaf y byd sydd yn talu'r pris.
Datganiad 4: Drwy ailddefnyddio bagiau plastig, fe allwch chi leihau'r nifer helaeth ohonyn nhw sy’n cael eu taflu fel sbwriel ledled ein planed. Mae llawer o siopau bellach yn codi tâl am fagiau siopa, ac mae hynny wedi golygu bod mwy o bobl yn ailddefnyddio rhai sydd ganddyn nhw yn hytrach na phrynu rhai newydd bob tro. Gall hyn gael effaith fawr oherwydd bod bagiau plastig yn fygythiad marwol i fywyd gwyllt, yn enwedig yn y cefnforoedd.
Datganiad 5: Drwy yfed sudd oren Masnach Deg, fe allwch chi wella ansawdd bywyd pobl yng ngwlad Ciwba. Mae un ferch o’r enw Esperanza, o wlad Ciwba, yn dweud, 'Mae wedi bod yn wych cael newid llawr y ty o lawr mwd i un sment. Nawr gallaf gael dodrefn yn fy nghartref, ac mae mor hawdd i'w lanhau. Hefyd, mae'r to yn bwysig iawn, gan fod dim byd yn mynd yn wlyb nawr pan fydd hi’n bwrw glaw. Rwy'n ddiolchgar iawn i Fasnach Deg am wneud hyn yn bosibl.’
Datganiad 6: Trwy fwyta pysgod a ddaliwyd mewn ffordd gyfrifol, fe allwch chi helpu i warantu y bydd digon o bysgod bob amser yn y môr. Mae ein cefnforoedd yn wir yn cael eu gorbysgota, ac oherwydd hynny efallai y bydd rhai cyflenwadau o bysgod yn diflannu'n llwyr oni bydd rhywbeth yn cael ei wneud am y peth. Mae gorbysgota’n niweidio diwydiannau pysgota ac amgylcheddau morol o amgylch y byd. - Trwy chwarae eich rhan, gallwch wneud gwahaniaeth yn y ffordd y mae'r byd yn gweithio.
Taflwch y belen glôb ar y we o rubanau a gofynnwch i'r myfyrwyr ei ddal yno.
Amser i feddwl
Mae'n gymorth gweledol da i gadw’r belen glôb wedi ei dal ar y we yn ystod rhan 'Amser i feddwl' y gwasanaeth. Fodd bynnag, os yw hyn yn debygol o dynnu gormod o sylw, fe allai'r myfyrwyr eistedd i lawr ar y pwynt hwn a gallech osod y glôb yn rhywle amlwg.
Rydyn ni i gyd yn rhan o hyn, gyda'n gilydd: pob person, anifail, aderyn, pysgodyn, yr holl goed, planhigion ac yn y blaen. Mae pob un o’r pethau hyn yn rhan o’r byd rhyfeddol hwn yr ydyn ni i gyd yn byw ynddo.
Gweddi
Annwyl Dduw,
Rydyn ni’n diolch i ti am ein byd rhyfeddol.
Rydyn ni’n diolch i ti am yr harddwch a welwn o’n cwmpas.
Rydyn ni’n diolch ein bod yn rhan o’r byd.
Helpa ni i gymryd ein cyfrifoldeb o ddifrif.
Amen.