Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Sut i wneud y gorau o’ch gwyliau

Sut gallwn ni wneud yr haf hyd yn oed yn well?

gan Vicky Scott (addaswyd, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2010)

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Ein hannog i feddwl, yn ystod y gwyliau, amdanom ni ein hunain ac am ein perthynas â phobl eraill.

Paratoad a Deunyddiau

  • Bydd angen i chi feddwl am eich cynlluniau eich hun ar gyfer yr haf, fel mynd ar wyliau teuluol, mynd i nofio neu efallai ysgrifennu nofel, a dewis rhai delweddau perthnasol i ddarlunio eich uchelgeisiau chi. Fe fydd arnoch chi angen y modd o arddangos y rhain yn ystod y gwasanaeth.

  • Efallai y byddwch yn dymuno arddangos map o'r byd gan ofyn i'r myfyrwyr lle mae rhai ohonyn nhw’n mynd am eu gwyliau haf. Yna, fe allech chi nodi’r cyrchfannau ar y map.

Gwasanaeth

  1. Mae gwyliau'r haf yn doriad gwych oddi wrth y boreau o godi’n gynnar ac amserlen brysur o wersi, gwaith cartref a gwaith cwrs. Mae'n cynnig cyfle i brofi rhywbeth gwahanol.

    Dangoswch rai delweddau sy'n cynrychioli eich gobeithion chi eich hunan ar gyfer gwyliau'r haf.

  2. Efallai y bydd rhai ohonoch yn cyfrif y dyddiau tan ddechrau’r gwyliau, tra bydd eraill yn diflasu wrth feddwl am yr amser hir i ffwrdd o gwmni rhai o'ch ffrindiau. Os cewch eich digalonni wrth feddwl am y chwe wythnos hir o wyliau, neu yn syml eich bod yn ansicr ynghylch yr hyn y byddwch yn ei wneud yn ystod yr holl amser, efallai r hoffech chi ystyried y syniadau canlynol.

  3. Dysgwch fwy amdanoch chi eich hun: camwch allan a rhoi cynnig ar bethau newydd.
    Cymerwch olwg dda ar eich bywyd a phenderfynwch eich bod yn mynd i wneud iddo gyfrif. Gall cymryd risgiau a rhoi cynnig ar bethau newydd fod yn beth digon brawychus. Efallai eich bod wedi mynd yn rhy gyfforddus eich byd. Efallai eich bod yn meddwl, 'Beth pe bawn i’n methu?' Ond wedyn, pa wahaniaeth fyddai hynny’n ei wneud? Mae'n debyg nad dyna fyddai’r tro cyntaf - na'r tro olaf, o ran hynny! Waeth pa mor ddifrifol y byddwch yn methu, mae'n debyg na fydd y tro hwn y tro gwaethaf. Beth bynnag fydd yn digwydd, fe fyddwch yn tyfu mewn doethineb, profiad a chymeriad.

    Oni bai eich bod yn barod i gymryd y risg wrth gymryd rhan, dydych chi ddim yn mynd i wybod beth rydych yn dda am ei wneud. Nid yw’r ffordd i lwyddiant yn gwbl rydd o gamgymeriadau. Yn y Beibl (Galatiaid 6.4), fe ysgrifennodd Paul fel hyn, ‘Y mae pob un i farnu ei waith ei hun, ac yna fe gaiff le i ymffrostio o’i ystyried ei hun yn unig, ac nid neb arall.’ Dim risg, dim gwobr!

  4. Buddsoddwch yn y berthynas sydd gennych ag aelodau o’ch teulu.
    Mae pob bywyd yn cyffwrdd â bywydau eraill mewn ffyrdd gweledig ac anweledig. Nid oes rhaid i chi fod yn adnabod rhywun i brofi effaith eu bywyd arnoch chi. Gall dylanwad pobl eraill barhau i gael ei deimlo ymhell wedi iddyn nhw symud ymlaen. Yn y Beibl (Diarhebion 13.22) mae’n dweud, ‘Gedy’r daionus etifeddiaeth i’w blant.’

    Ydych chi am ddechrau creu effaith yn y man lle rydych chi'n byw? Gallwch ddechrau buddsoddi yn awr yn eich perthnasoedd teuluol. Bob dydd, fe allwch chi fuddsoddi caredigrwydd, hwyl, gofal, cariad, cyngor ac ysbrydoliaeth ym mywydau’r bobl sydd o'ch cwmpas.

    Nid yw bywyd teuluol bob amser yn brofiad hawdd. Fel mae dywediad cyfarwydd yn dweud, 'Fe allwch chi ddewis eich ffrindiau, ond allwch chi ddim dewis eich teulu.' Os byddwch chi’n teimlo ei bod yn neilltuol o anodd cyd-dynnu ag aelod neilltuol o'r teulu, pam na wnewch chi roi cynnig ar weithio'n galetach ar y berthynas honno? Drwy fuddsoddi eich amser ac ymdrech mewn bod yn garedig ac yn amyneddgar gyda nhw, fe fyddwch yn sylweddoli’n fuan bod eu hymddygiad nhw tuag atoch chi yn gwella hefyd.

  5. Ceisiwch gryfhau eich cyfeillgarwch.
    Trwy gydol eich bywyd, bydd cyfeillgarwch yn mynd ac yn dod. Efallai eich bod wedi bod â channoedd o ffrindiau wedi’u rhestru ar safleoedd rhwydweithio cymdeithasol, ond faint o'r rhai hynny ydych chi’n eu hadnabod yn dda, ac a fyddai un ohonyn nhw’n sefyll gyda chi ac yn eich cefnogi mewn cyfnodau anodd? Gwnewch yn siwr eich bod yn mynegi eich diolch i'r rhai sydd wedi aros gyda chi dros y blynyddoedd.

    Ceisiwch fabwysiadu geiriau Iesu i 'garu dy gymydog fel ti dy hun' drwy drin y bobl o'ch cwmpas gyda'r parch y maen nhw’n ei haeddu. Fe ddylai cyfeillgarwch fod yn ymwneud gymaint am roi ag y mae am gymryd. Peidiwch â bod yn ffrind sydd bob amser yn disgwyl cael ei ffordd eu hun, ond ceisiwch feddwl am yr hyn y byddai eraill hefyd yn ei hoffi.

    Mae llawer o oedolion yn dal i fod â ffrindiau sy'n mynd yn ôl i’r amser pan oedden nhw yn yr ysgol gyda’i gilydd. Mae hyn yn ôl pob tebyg oherwydd bod gennych chi, fel person ifanc, fwy o amser i fuddsoddi mewn cyfeillgarwch. Fe allech chi ddefnyddio amser yn y ffordd hon yn ystod gwyliau’r haf. Mae cyfeillgarwch yn rhan bwysig o'n datblygiad am fod y rhai o'n cwmpas yn helpu i lunio ein personoliaeth. 

  6. Byddwch yn ddiogel!
    Gall gwyliau ysgol fod yn adeg beryglus i bobl ifanc. Mae rhieni yn aml yn caniatáu i'w plant fentro allan gyda ffrindiau, ac oherwydd bod y tywydd yn well a’r rhyddid ar gael, fe all hyn annog unigolion i fod yn fwy mentrus nag arfer.

    Defnyddiwch synnwyr cyffredin er mwyn cadw eich hunan yn ddiogel. Os ydych chi’n mynd allan, yn cychwyn ar daith gerdded hir neu efallai hyd yn oed i ddringo mynydd, sicrhewch eich bod yn dweud wrth rywun i ble rydych chi’n mynd a nodi pryd y byddwch yn debygol o fod yn ôl. Os ydych chi’n mynd i nofio mewn dwr agored, gwnewch yn siwr eich bod yn gwirio bod y baneri priodol yn weladwy. Hyd yn oed os ydych chi’n ystyried eich hun fel nofiwr cryf, mae'n bwysig peidio â mentro allan yn rhy ddwfn, yn enwedig os ydych yn defnyddio cyfarpar chwythadwy (inflatables) a heb fod yn ymwybodol o ddyfnder y dwr.

Amser i feddwl

Mae gwyliau'r haf bron yma! Ceisiwch gael hwyl, yn mwynhau rhoi cynnig ar bethau newydd, yn treulio amser o ansawdd gyda'ch teulu a’ch ffrindiau, a dysgwch fwy amdanoch eich hun ac am y byd hardd rydyn ni’n byw ynddo.

Byddwch yn ddiogel, a beth am edrych ymlaen at weld rhai o'ch lluniau pan fyddwch yn dod yn eich ôl i’r ysgol y tymor nesaf. (Fe allech chi gychwyn cystadleuaeth llun gyda gwobr am y llun neu’r fideo gorau o wyliau haf y myfyrwyr: bydd hyn yn debyg o ddal eu sylw!)

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i ti  fod pob person yn unigryw: ac nad oes unrhyw un yn union fel ni wedi bodoli erioed o’r blaen, nac a fydd yn bodoli eto ychwaith.
Rydyn ni’n diolch i ti am ein teulu ac am ein ffrindiau,
ac am yr holl rai sydd wedi ein helpu i ddod y bobl yr ydyn ni heddiw.
Helpa ni i ymlacio dros wyliau’r haf,
i fwynhau profiadau newydd, ac i ddarganfod llefydd newydd,
gwneud ffrindiau newydd, efallai, a buddsoddi ein hamser yn ddoeth.
Gyda'n holl gynlluniau ar gyfer yr haf, helpa ni i fod yn ddiogel.

Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Gorffennaf 2017    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon