Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Cymryd a rhoi

Beth sydd orau rhoi neu dderbyn?

gan Claire Law

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Archwilio ystyr y dywediad, 'Yn y rhoi yr ydym yn  derbyn'

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen y sleidiau PowerPoint sy'n cyd-fynd â’r gwasanaeth hwn (Give and Take)a’r modd o ddangos y sleidiau yn ystod y gwasanaeth.
  • Trefnwch fod y clip fideo YouTube, ‘Mr Burns versus the donation basket’ ar gael gennych chi, a’r modd o ddangos y clip yn ystod y gwasanaeth. Mae’n para am 0.25 munud, ac mae ar gael ar:https://www.youtube.com/watch?v=8VYaZGo18lI
  • Dewisol: efallai yr hoffech chi ddangos y fideo YouTube,‘Inspiring Acts of Everyday Kindness’, ac os felly fe fydd angen i chi drefnu’r modd o wneud hynny. Mae’n para am 2.23 munud, er fe allech chi ei stopio ar 2.00 funud, ac mae ar gael ar:https://www.youtube.com/watch?v=-pYuSSP5Wls

Gwasanaeth

  1. Gofynnwch i'r myfyrwyr ydyn nhw’n ei chael hi’n hawdd ymadael â'u harian.

    - Ydyn nhw'n ei chael hi'n hawdd pan fyddan nhw’n prynu dillad neu bethau felly?
    - Ydyn nhw'n ei chael hi'n hawdd pan fyddan nhw’n rhoi arian at elusen?

    Tynnwch sylw at unrhyw enghreifftiau diweddar o roi i elusen o fewn cymuned yr ysgol neu yn yr ardal leol.

    Dangoswch y fideo, ‘Mr Burns versus the donation basket’.

    Nodwch mai’r gobaith yw y bydd y rhan fwyaf o’r bobl yng nghymuned yr ysgol ychydig yn fwy hael na Mr Burns. Mae Mr Burns yn y diwedd yn rhoi arian at elusen, ond yn anfoddog, a dim ond dan bwysau y mae’n gwneud hynny. Efallai y gallech chi ddweud nad oedd yn rhoi â chalon barod. Mewn gwirionedd, mae’n adnabyddus fel cymeriad yn The Simpsons am ei grintachrwydd a’i amharodrwydd i rannu yr hyn sydd ganddo ag eraill.

  2. Gofynnwch y cwestiynau canlynol, gan oedi ar ôl pob un er mwyn caniatáu amser i feddwl.

    - A oes unrhyw fudd o roi?
    - All rhoi fod yn beth da i ni?
    - A yw rhoi yn ein gwneud ni’n hapus?

    Mae adnod yn y Beibl sy’n dweud, ‘Bendithir yr un hael.’

    Dangoswch Sleid 1.

    Mae hyn yn awgrymu, fel y rhoddwn ni, yr ydym ni hefyd yn derbyn. Efallai y byddwn yn rhoi amser, arian neu gariad, ond wrth wneud hynny, byddwn yn ennill rhywbeth yn ôl. Efallai ein bod ni'n syml yn caru ac yn derbyn rhywun; efallai ein bod ni'n rhoi rhodd o wên, yn cofleidio neu’n cydnabod bod rhywun arall yn bwysig. Wrth wneud hynny, efallai y byddwn yn cael y boddhad o wybod ein bod wedi helpu ac wedi gwneud gwahaniaeth. Fe fyddwn ni wedi dangos bod y caredigrwydd, y cariad a'r haelioni yn gryfach nag ofn, casineb a brifo teimladau. Fel y dywedodd Gandhi, trwy ein gweithredoedd bach o haelioni, fe allwn ni ‘fod y newid hwnnw rydyn ni am ei weld yn y byd' - (we can ‘be the change [we] want to see in the world’through our small acts of generosity).

  3. Dewisol: dangoswch y fideo YouTube, ‘Inspiring Acts of Everyday Kindness’, gan ei stopio ar ôl 2.00 funud.

    Anogwch y myfyrwyr i feddwl am y bobl y maen nhw’n dod ar eu traws bob dydd sy'n rhoi iddyn nhw heb gwyn na gwrthwynebiad.

    Anogwch y myfyrwyr hefyd i feddwl am y bobl y maen nhw’n dod ar eu traws bob dydd y gallen nhw eu hunain roi rhywbeth iddyn nhw.

  4. Mae'r cysyniad o roi yn bwysig iawn mewn unrhyw grefydd. Fel y clywsom, mae'r Beibl yn sôn am y rhinwedd o fod yn hael. Yn y grefydd Islam, un o Bum Piler y ffydd yw rhoi i elusen. Yn y grefydd Sikhiaeth, mae gwasanaethau gweddi yn y gurdwara (y deml) yn cynnwys prydau am ddim ac sy’n cael eu rhoi i unrhyw un.

    Dangoswch Sleid 2.

    Yn wir, mae rhai cymunedau Sikhaidd yn y DU yn gweini prydau bwyd hefyd i bobl ddigartref.

    Dangoswch Sleid 3.

    Mae'r sleid hon yn dangos y gymuned Sikhaidd yn Northampton yn darparu prydau i bobl sy'n byw ar y strydoedd, fel ffordd o ddangos cariad a charedigrwydd tuag atyn nhw. Mae pobl y gymuned yn rhoi eu hamser i wasanaethu eraill ac yn rhoi arian i brynu bwyd i'w rannu â'r rhai sydd mewn angen. Maen nhw hefyd yn rhoi eu hunain drwy sgwrsio â’r bobl a bod yn gyfeillgar tuag atyn nhw, pobl a allai fel arall deimlo'n ddieithr ac unig. Mae hon yn enghraifft wych o roi.

Amser i feddwl

Gadewch i ni feddwl am ddau ddyfyniad enwog sy'n dysgu ychydig mwy i ni am bwysigrwydd rhoi.

Geiriau gan Sant Fransis o Assisi yw'r dyfyniad cyntaf, pregethwr Catholig a aned yn yr Eidal tua diwedd y deuddegfed ganrif. Fe ddywedodd ef, 'Yn y rhoi yr ydym yn  derbyn'- ‘It is in giving that we receive.’

Dangoswch Sleid 4.

Daw'r ail ddyfyniad o waith dyn o’r enw Kahlil Gibran, bardd Libanus-Americanaidd a aned yn Libanus tua diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Dywedodd, 'Dim ond ychydig y byddwch chi’n ei roi pan fyddwch chi’n rhoi o'ch eiddo. Pan fyddwch chi'n rhoi ohonoch eich hun yr ydych chi’n rhoi mewn gwirionedd.' - ‘You give but little when you give of your possessions.It is when you give of yourself that you truly give.’

Dangoswch Sleid 5.

Gadewch i ni ystyried y ddau ddyfyniad yma er mwyn ein helpu i feddwl.

Gofynnwch y cwestiynau canlynol, gan roi amser i feddwl ynghylch pob un yn eu tro.

- Beth sydd gennych chi y gallech chi ei roi i eraill?

  • Amser?
  • Y rhodd o chwerthin a llawenydd?
  • Cyfeillgarwch?
  • Creadigrwydd?
  • Arian?
  • Gwên?

- Sut byddai rhannu’r hyn sydd gennych chi yn llesol i chi?

- Sut byddwch chi’n teimlo pan fyddwch chi’n garedig ac yn hael tuag at bobl eraill?

- Ydych chi’n gallu meddwl am rywun sy’n garedig ac yn hael?

- Fyddech chi’n hoffi bod ychydig yn debycach iddo nef neu hi?

- Beth fyddech chi’n gallu ei wneud i ddilyn eu hesiampl dda?

Gweddi
Annwyl Dduw,
Rydyn ni’n meddwl ddim ond amdanom ni ein hunain yn aml.
Mae'n anodd peidio â bod yn hunanol.
Helpa ni heddiw i feddwl am eraill, i roi, ac i fod yn hael.
Helpa ni i rannu ein hamser, ein doniau a’n heiddo materol gydag eraill.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Medi 2017    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon