Tu chwith allan
Peidiwch â barnu llyfr oddi wrth ei glawr
gan Brian Radcliffe
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Uwchradd)
Nodau / Amcanion
Archwilio ein dealltwriaeth a’n gwerthfawrogiad o hunanddelwedd.
Paratoad a Deunyddiau
- Fe fydd arnoch chi angen Arweinydd a dau Ddarllenydd.
- Trefnwch fod gennych chi gopi o’r clip fideo TrueTube, ‘The Perfect Body’ a’r modd o ddangos hwn yn ystod y gwasanaeth. Mae’n para am 6.38munud, ac mae ar gael ar:https://www.truetube.co.uk/film/perfect-body?tab=film
Gwasanaeth
Arweinydd: Beth sy'n gwneud i chi gael eich denu gyntaf oll at unigolyn arall? Fe ddaeth y gomedïwraig, Caroline Aherne, yn enwog am ei rôl fel Mrs Merton, cyflwynydd sioe sgwrsio ar y teledu. Un o'r cwestiynau mwyaf adnabyddus wrth holi pobl oedd hwnnw fel yr un a ofynnwyd i Debbie McGee, a oedd yn briod â'r swynwr, Paul Daniels. Gofynnodd Mrs Merton iddi, ‘Felly, beth wnaeth eich denu gyntaf oll at y miliwnydd, Paul Daniels?’
Oedwch er mwyn rhoi amser i feddwl.
Yr hyn oedd ymhlyg yn ei chwestiwn oedd bod Debbie McGee wedi cael ei denu ato oherwydd yr arian oedd ganddo.
Mae bod yn ddengar i eraill yn gynyddol bwysig wrth i ni fyw trwy flynyddoedd ein llencyndod. Dyna yw thema'r fideo sy’n dilyn.
Chwaraewch y clip fideo TrueTube, ‘The Perfect Body’ sydd i’w gael ar: https://www.truetube.co.uk/film/perfect-body?tab=film
Arweinydd: Faint o'r pethau hynny sydd wedi mynd trwy ein meddyliau ni ar ryw adeg? Gall fod yn hawdd i ni ganolbwyntio'n ormodol ar ein pryd a’n gwedd, yn gymaint fel ei fod yn ein trosfeddiannu, yn union fel y gwnaeth yn hanes y bachgen yn y fideo. Gall drosfeddiannu ein harian, ein hamser a'n perthnasau - weithiau, yn mynd cyn belled â pheri i ni golli'r ffrindiau y bydden ni’n dymuno eu cadw yn fwy na dim. Efallai nad ydyn ni’n obsesiynol ynghylch mynd i’r gampfa, nac yn bwyta dwsin o stêcs i ginio, ond gallwn dreulio oriau o flaen drych, yn pori mewn siopau ffasiwn, neu’n pryderu am y ffasiwn ddiweddaraf a sut yr ydym yn edrych.
Wrth gwrs, does ddim o'i le wrth gymryd ychydig o amser i sicrhau ein bod yn cyflwyno ein hunain yn y ffordd orau. Mae cadw'n heini’n beth arbennig o dda, felly hefyd bwyta'n iach a gwisgo'n drwsiadus, ond mae deniadolwch sy'n seiliedig ar ymddangosiad yn cael ei benderfynu'n aml trwy gydymffurfio â ffasiwn – ffasiwn sy'n gallu newid yn aml. Bu llawer o drafodaeth am hyn yn y blynyddoedd diwethaf. Yn achos rhai pobl, mae gosod gormod o bwysigrwydd ar ymddangosiad wedi arwain at anhwylderau bwyta, ac yn achos rhai eraill, mae wedi arwain at ddefnyddio cyffuriau cryfhau ac ymestyn cyhyrau, fel steroids anabatig. Y cyngor yw y dylem ddysgu hoffi'r ymddangosiad sydd gennym fel ag y mae.
Mae ffactorau eraill, fodd bynnag, yn ein gwneud yn ddeniadol. Mae'r Beibl yn sôn llawer am yr hyn sydd o'r tu allan o'i gymharu â'r hyn sydd o'r tu mewn. Rhywbeth dros dro yw ymddangosiad allanol. Mae ein hymddangosiad yn gallu newid o fis i fis, ac o flwyddyn i flwyddyn. Mae'r hyn sydd ar y tu mewn yn barhaol ac yn bwysicach o lawer.
Amser i feddwl
Arweinydd: Felly, beth allwn ni ei ddarganfod ar y tu mewn sy'n ddeniadol? Mae un detholiad o'r Beibl yn rhestru cariad, llawenydd, tangnefedd, amynedd, caredigrwydd, daioni, ffyddlondeb, tynerwch a hunanreolaeth. Yn seiliedig ar y set honno o rinweddau, pa mor ddeniadol fyddech chi'n ei ddweud yr ydych chi?
Darllenydd 1:A ydych chi'n naturiol serchog?
Darllenydd 2: A oes gennych chi wên bob amser ar eich wyneb?
Darllenydd 1:A ydych chi'n un sydd yn heddychwr mewn sefyllfa pan fydd dadl?
Darllenydd 2:A allwch chi oddef ffaeleddau pobl eraill?
Darllenydd 1:A ydych chi'n sy'n gwneud gweithredoedd da yn ddigymell?
Darllenydd 2:A ydych chi bob amser yn chwilio am y gorau mewn pobl eraill?
Darllenydd 1: A ydych chi'n cefnogi eraill doed a ddelo?
Darllenydd 2:A ydych chi ofalus nad ydych chi’n tramgwyddo yn erbyn pobl eraill?
Darllenydd 1:A oes hir amynedd gennych chi ac yn gallu ymatal heb wylltio?
Arweinydd:Sut y gwnaethon ni sgorio ar y rhestr hon? Yn aml, nid yw agweddau o'n personoliaethau yn amlwg ar yr olwg gyntaf. Maen nhw ar y tu mewn, felly mae’n cymryd amser i bobl ddod i wybod amdanyn nhw. Er hynny, maen nhw'n parhau’n hirach na'r rhai sydd ar y tu allan.
Mae pob un ohonom yn gymysgedd unigryw o atyniadau allanol yn ogystal ag atyniadau mewnol. Gadewch i ni geisio datblygu’r ddwy elfen, ond cofiwch pa nodweddion sydd bwysicaf, ac sy’n mynd i barhau ar hyd y blynyddoedd.
Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch fod pob un ohonom yn berson unigryw.
Helpa ni i fod â hunanddelwedd dda.
Helpa ni i gofio pwysigrwydd y nodweddion sydd gennym o’r tu mewn i ni.
Amen.