Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Dechrau yma

Gwasanaeth ar gyfer dechrau blwyddyn ysgol

gan Brian Radcliffe

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Ein hannog i ystyried ein gobeithion, ein breuddwydion, ein hofnau a’n targedau ar gyfer y flwyddyn ysgol newydd.

Gwasanaeth

Arweinydd: Fyddwch chi ddim yn synnu bod y gwasanaeth heddiw yn ymwneud â dechreuadau newydd. Fe hoffwn i chi ddychmygu pedair senario.

Darllenydd 1: Mae'n ddiwrnod fy mhriodas. Rydw i'n edrych ymlaen at fywyd priodasol a'r cyfle i wneud penderfyniadau gyda'm partner, wrth sefydlu cartref a chael plant. Ond byddaf yn teimlo rhywfaint o golled ar ôl fy mywyd sengl hefyd, yn enwedig o ran fy annibyniaeth a bod yn rhydd i ganolbwyntio arnaf fi fy hun. Mae'n ddechrau newydd sbon, cyffrous, ond ar yr un pryd fe fydd yn anodd rywsut gadael yr hen fywyd y tu ôl i mi.

Darllenydd 2: Wn i ddim pam rydw i wedi rhoi fy enw i redeg y ras farathon hon. Y cyfan y gallaf ei weld o fy mlaen yw dros 26 milltir o boen. Dydw i ddim wedi hyfforddi digon, ac rydw i'n gwybod y dylwn i fod wedi colli rhywfaint o bwysau. Wrth i mi sefyll yma ar y llinell gychwyn, rydw i wir yn pryderu am yr hyn sydd o fy mlaen.

Darllenydd 3:Rydw i’n teimlo’n hynod o gyffrous. Rydyn ni’n symud i dy newydd, ac rydw i'n cael y cyfle i drefnu fy ystafell yn union fel rydw i’n dymuno. Dim mwy o bapur wal plentynnaidd, a marciau ar y dodrefn oherwydd y ffordd roeddwn i wedi bod yn chwarae â’r teganau oedd gen i. Rydw i'n bwriadu cynllunio'n ofalus, cymryd fy amser a chyflawni'r canlyniad rydw i’n dymuno ei gael, a fydd yn rhywbeth fydd yn adlewyrchu’r math o berson ydw i. Amdani felly.

Darllenydd 4:Dydw i erioed wedi ceisio mynd trwy ddrysfa o'r blaen. Alla i ddim gweld dros ben y llwyni, felly fe fydd hi’n gambl wrth fynd rownd pob trofa. Fe fyddai’n dda gen i gael rhywfaint o syniad o'r ffordd rydw i fod i fynd. Beth os ydw i'n mynd ar goll yn llwyr? A ydyn nhw'n anfon rhywun i mewn ar ddiwedd y dydd i gasglu gweddillion trist y rhai na fydd wedi gallu darganfod eu ffordd allan? Wel, dyma fi'n mynd i mewn.

Arweinydd:Sut ydych chi'n teimlo heddiw? Sut ydych chi'n teimlo ynghylch dechrau blwyddyn ysgol newydd? Bydd rhai ohonoch chi fel ein cymeriad cyntaf. Oes, mae agweddau ar y flwyddyn newydd yr ydych yn edrych ymlaen atyn nhw, ond roedd hi'n hwyl bod ar wyliau hefyd. Heddiw mae diwedd rhyddid, diwedd ar gael gorweddian yn y gwely’n hwyr yn y bore, a phlesio eich hun ynghylch sut rydych chi’n treulio'ch amser.

Bydd rhai eraill ohonoch yn teimlo fel y rhedwr marathon. Mae'n amser hir tan fis Gorffennaf nesaf, ac mae'r misoedd yn mynd i fod yn llawn gwaith caled. Mae’n ymddangos fel petai’r gwaith ysgol yn mynd i fod yn farathon o waith caled diddiwedd, a chithau ddim yn edrych ymlaen at hynny o gwbl.

Gobeithio y bydd rhai ohonoch chi yn teimlo fel ein trydydd cymeriad. Fe fydd gennych chi uchelgais ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod. Rydych chi eisiau cyflawni rhai canlyniadau, efallai mewn arholiadau, efallai mewn chwaraeon, neu gerddoriaeth neu ddrama. Mae rhai arbrofion yr ydych chi’n dymuno eu gwneud, rydych chi am roi cynnig ar rywbeth newydd. Allwch chi ddim aros i gael dechrau arni.

Yn olaf, mae rhai ohonoch chi sydd ddim yn gwybod beth fydd yn eich wynebu. Rydych chi'n newydd i'r ysgol a dydych chi ddim eto wedi cael cyfle i wneud ffrindiau yma. Ble byddwch chi'n ffitio? O bosib, rydych chi'n teimlo ychydig yn bryderus am bob sefyllfa newydd y byddwch chi'n ei hwynebu. Sut bydd y staff yn ymateb i newydd-ddyfodiad? At bwy y dylwn i droi pan fydd gen i broblem? Mae'n ddechrau newydd.

Amser i feddwl

Arweinydd:Y peth cyntaf i'w ddweud yw ein bod ni i gyd ar yr un llinell gychwyn gyda'n gilydd. Mae'n debyg bod llawer ohonom yn rhannu cymysgedd o'r emosiynau hyn: yr ansicrwydd, yr ofn, y cyffro a'r amheuaeth – yr emosiynau y mae ein pedwar cymeriad yn eu darlunio. Felly, rydym ni i gyd yn hyn gyda'n gilydd.

Fe adroddodd Iesu stori (Mathew 25.14-30) am dri chymeriad a oedd â gwahanol agweddau tuag at ddechrau cyfnod newydd yn eu bywydau. Yn y stori, roedd dyn busnes yn mynd i ffwrdd am ychydig, felly fe ymddiriedodd rywfaint o'i gyfoeth i'w dri gwas. Rhoddwyd llawer o’r cyfoeth i un ohonyn nhw, rhoddwyd swm llai i un arall, a rhoddwyd dim ond un rhan i'r trydydd. Mae'n rhaid bod ymateb y tri chymeriad wedi bod yn amrywiol ar ôl iddyn nhw glywed am y rhannu anghyfartal hyn. Serch hynny, fe wnaeth pob un ohonyn nhw eu cynlluniau eu hunain. Fe fuddsoddodd y gwas cyntaf ei gyfran ef, ac fe wnaeth elw enfawr. Fe roddodd yr ail ei gyfran lai ef ar waith, ac fe wnaeth elw cymedrol. Doedd y trydydd gwas ddim yn poeni, a dim ond cuddio ei gyfran o’r golwg a wnaeth ef. Pan ddaeth y dyn busnes yn ei ôl, roedd yn falch iawn gyda'r ddau gyntaf, a gyflwynodd eu helw iddo, ond roedd yn ddig iawn gyda'r trydydd gwas, a oedd wedi bod yn ddiog a heb fod wedi cyflawni unrhyw beth.

Beth sydd gan hyn i’w wneud â ni? Mae gennym ni i gyd rywbeth i'w fuddsoddi yn y flwyddyn ysgol newydd hon. Efallai ei bod yn ymddangos fel petai rhai wedi cael mwy nag eraill o ddoniau, doniau fel gallu academaidd, talentau ym myd chwaraeon, llais canu gwych, sgiliau offerynnol neu ddawn i fod yn arweinydd tîm. Ond, mae pawb yma yn dechrau'r flwyddyn ysgol newydd gyda rhywfaint o allu, sgil, rhodd neu dalent. Nid oes neb yn cychwyn â llaw hollol wag, a’r hyn sy'n bwysig yw sut y byddwn ni’n gorffen. Pan ddaw mis Gorffennaf nesaf, sut byddwn ni’n teimlo ynghylch y ffordd y byddwn ni wedi defnyddio'r amser, yr adnoddau a'r cyfleoedd a gyflwynwyd i ni ym mis Medi 2017?

Felly, os ydych chi'n edrych yn ôl ac yn gofidio bod yr haf drosodd, nawr yw'r amser i chi ddechrau edrych ymlaen. Allwch chi ddim troi'r cloc yn ôl. Os ydych chi'n dychryn wrth feddwl beth sydd o'ch blaen chi, defnyddiwch y gefnogaeth sydd ar gael o ran staff, adnoddau ar-lein, ffrindiau a theulu. Os ydych chi'n gyffrous, gwnewch gynllun sy'n pennu sut rydych chi'n mynd i weithredu fel na fyddwch yn diffodd ar ôl y fflam frwdfrydig gychwynnol. Os ydych chi'n ansicr oherwydd bod popeth yn newydd, cofiwch ein bod ni i gyd yma i'ch helpu chi! Byddwn yn gwneud ein gorau i'ch helpu i deimlo'n rhan o'r gymuned hon fel y gallwn ni i gyd gydweithio tuag at flwyddyn.

Gweddi 
Annwyl Dduw,
Diolch i ti am gyfleoedd newydd.
Atgoffa ni o'r adnoddau sydd gennym i ddechrau’r flwyddyn.
Helpa ni i’w buddsoddi’n ddoeth fel ein bod yn teimlo'n hapus gyda ni ein hunain ar ddiwedd y flwyddyn.
Amen.

Cân/cerddoriaeth

I can see clearly now’ gan Johnny Nash

Dyddiad cyhoeddi: Medi 2017    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon