Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Heddwch – Ffrwythau’r Ysbryd

Anelu at heddwch

gan Helen Bryant (Revised, originally published in 2010)

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Archwilio'r cysyniad o heddwch.

Paratoad a Deunyddiau

Gwasanaeth

  1. Dangoswch y delweddau o Winston Churchill yn datgan heddwch ar ddiwedd y cyhoeddiad fod yr Ail Ryfel Byd ar ben, delwedd o golomen ,ac arwydd o heddwch.
    Nodwch, er bod llawer o bobl yn sôn am yr angen o gael heddwch, mae'n wirioneddol anodd iawn i gynnal heddwch.

  2. Mae'r Beibl yn sôn am ‘ffrwythau’r Ysbryd’. Mae Cristnogion yn credu bod hyn yn cyfeirio at y rhinweddau a ddylai fod yn  amlwg yn eu bywyd os ydyn nhw'n dilyn Duw. Mae naw o ffrwythau'r Ysbryd: cariad, llawenydd, tangnefedd, amynedd, caredigrwydd, daioni, ffyddlondeb, tynerwch a hunanreolaeth. Byddai'r mwyafrif o bobl yn cytuno fod y rhain yn rhinweddau da i'w meddu ym mywyd pob un ohonom. Fodd bynnag, mae heddwch yn beth anodd ei gael, ei gadw a'i gynnal. 

  3. Gallwn edrych ar heddwch mewn amrywiol ffyrdd, ond yn y gwasanaeth hwn fe fyddwn yn ystyried heddwch ynom ni ein hunain, y gwrthdrawiad y gallwn ei gael ag eraill, a'r chwilio ehangach am heddwch oddi mewn i'n cymdeithas a'r byd.

  4. Gadewch i ni ddechrau trwy edrych ar yr hyn oedd gan Ralph Waldo Emerson, athronydd a bardd Americanaidd o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, i'w ddweud:‘Ni all heddwch gael ei gyflawni trwy drais; yr unig ffordd y gellir cyrraedd ato yw trwy ddealltwriaeth.’ (‘Peace cannot be achieved through violence, it can only be attained through understanding.’)

    Dyma le da i ddechrau wrth drafod heddwch, oherwydd er mwyn cael heddwch bydd yn rhaid rhoi terfyn ar anghytundeb, gelyniaeth a rhyfel. Fodd bynnag, mae cael byw trwy gyfnod o heddwch yn rhywbeth nad oes yr un genhedlaeth bron wedi cael profiad ohono.

  5. Ar yr adeg honno, y meddylfryd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf oedd mai dyma’r rhyfel i roi diwedd ar bob rhyfel. Fodd bynnag, ymhen ychydig dros ugain mlynedd, roedd y byd yng nghanol rhyfel arall.

    Yn ddyddiol, rydym yn gweld lluniau o ryfeloedd mewn gwahanol leoedd yn y byd ac yn drist iawn, fe ddaeth gweithredoedd terfysgol yn ddigwyddiadau amlach yn nes adref o lawer. Mae’n hawdd meddwl, tybed a fydd yna fyth heddwch. 

  6. Sut bynnag, ochr yn ochr â rhyfel fe ddaw heddwch: mae’r naill beth a’r llall yn dod gyda’i gilydd. Yn ei nofel,War and Peace,mae Leo Tolstoy yn adrodd stori pump o deuluoedd aristocrataidd Rwsia yng nghyd-destun cyfnodau o ryfel a chyfnodau o heddwch. Mae'n dangos sut y mae pob teulu, a'r cymeriadau eraill sydd yn y nofel, yn newid ac yn datblygu yn ystod yr adegau hynny. Rydym yn debyg iawn iddyn nhw. Mae'n golygu ymdrech ar ein rhan i greu cymod a thawelwch ar derfyn gwrthdaro. Yn ein bywyd ni ein hunain, mae angen creu heddwch â'n gilydd ar ôl i ni fod yn cweryla neu’n anghytuno.

  7. Gall heddwch ymddangos fel rhywbeth y byddwn yn ei drosglwyddo i eraill. Weithiau, mewn addoliad Cristnogol, mae un rhan o'r gwasanaeth Cymun Bendigaid yn annog y gynulleidfa i ‘gynnig arwydd o dangnefedd i'w gilydd’. Maen nhw'n cael eu hannog i ysgwyd llaw'r naill a'r llall, neu efallai, i gofleidio'i gilydd, a throsglwyddo tangnefedd Crist trwy ddweud, ‘Tangnefedd yr Arglwydd a fo gyda chwi bob amser’. 

  8. Roedd Iesu ei hun yn heddychwr amlwg (rhywun sydd ddim yn credu mewn trais). Pan ddaeth yr amser iddo gael ei restio ar noswyl ei farwolaeth, fe aeth yn ddirwgnach a heb gael ei orfodi.  Roedd ei gymdeithion yn barod i ymladd drosto, ond fe ddywedodd, ‘Rho dy gleddyf yn ôl yn ei le, oherwydd bydd pawb sy’n cymryd y cleddyf yn marw trwy’r cleddyf.’ (Mathew 26.52), gan adleisio'r gred os ydych yn byw eich bywyd yn coleddu trais, yna bydd trais yn sicr o'ch dilyn chi. 

  9. Ym marn Iesu, roedd heddwch mor bwysig fel ei fod yn meddwl fod y rhai a oedd yn ymdrechu dros heddwch wedi ei bendithio. Yn ei bregeth ar y mynydd, mae'n dweud, ‘Gwyn eu byd y tangnefeddwyr, oherwydd cânt hwy eu galw’n blant i Dduw’ (Mathew 5.9). Yn y fan hon, fe welwn ni'r gobaith y bydd heddwch, oherwydd bod y rhai sy'n arddel heddwch yn eu bywyd ac yn ei ledaenu ymysg eraill yn elwa. Weithiau mae'n haws dial a tharo'n ôl, ond mae'n cymryd mesur o hunanreolaeth i gerdded ymaith a dilyn y llwybr heddychol. Mae'n cymryd anadl ddofn ac efallai weithred o gyfrif i ddeg er mwyn codi uwchlaw'r galw enwau a'r sylwadau sarhaus. Trwy gynnal ymateb heddychol, byddwch yn gosod eich hun goruwch y rhai fydd yn dreisiol tuag atoch.

  10. Mae heddwch byd-eang yn amcan rhagorol. Mae Diwrnod Rhyngwladol Heddwch yn cael ei gadw'n flynyddol ar 21 Medi. Cafodd y dyddiad hwn ei sefydlu gan y Cenhedloedd Unedig yn y flwyddyn 1981, a chafodd ei gadw drwy'r byd ers hynny. Mae'r diwrnod hwn yn annog pobl i ymrwymo i heddwch yn anad pob gwahaniaeth eraill.

  11. Mark Johnson a Whitney Kroeke yw cyd-sefydlwyr y sefydliad a elwir yn 'Playing For Change', sy'n ceisio sefydlu heddwch trwy uno pobl ledled y byd trwy gyfrwng cerddoriaeth. Pa ffordd well i ddod â phobl ynghyd mewn heddwch, ac i ddeall ei gilydd, na thrwy enwadur cyffredin: grym cerddoriaeth?

Amser i feddwl

Gwyliwch y clip fideo ‘Playing For Change’ oddi ar y wefan:http://playingforchange.com/ac ystyriwch a allwch chi deimlo’r dymuniad am heddwch a ddaw wrth wylio’r clip.

Nodwch fod nifer o fideos ‘Playing For Change’ ar gael os ydych chi’n dewis y tab Videos ar frig y dudalen ar y we.

Fel y dywedodd Emerson, yr unig ffordd y gellir cyrraedd at heddwch yw trwy ddealltwriaeth, – ‘Peace cannot be achieved through violence, it can only be attained through understanding’, a dyna ffordd wych o ddeall ein gilydd!

Gweddi
Annwyl Dduw,
Boed i heddwch fod ar y ddaear, a boed i’r heddwch hwnnw ddechrau gyda mi.
Helpa fi i fod yn araf i farnu ac yn gyflym i greu heddwch.
Amen.

Cân/cerddoriaeth

Stand by me’ oddi ar y wefan Playing For Change, ar gael ar:http://tinyurl.com/yc73xlc8

Dyddiad cyhoeddi: Medi 2017    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon