Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Ai dim ond lwc dda?

Gwneud ein lwc dda ein hunain

gan Helen Redfern (addaswyd, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2009)

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Herio cred mewn lwc ac ofergoeliaeth, a’n hysbrydoli ni i wneud ein ffawd dda ein hunain.

Gwasanaeth

  1. Tybed faint ohonoch chi fyddai’n ystyried eich hun fel bod yn berson ffodus, a faint ohonoch chi sy’n teimlo bod lwc ddrwg yn eich dilyn ble bynnag y byddwch chi'n mynd.

Dangoswch y symbolau sy’n gysylltiedig â lwc dda a lwc ddrwg.

Efallai y bydd rhai ohonoch chi’n cario eitem arbennig gyda chi, fel darn arian, darn o risial, neu hyd yn oed droed cwningen. Efallai eich bod chi'n gwisgo'ch hosanau lwcus ar gyfer arholiad, neu'n cusanu'r dywarchen ar y cae cyn i chi chwarae gêm bêl-droed.

Ar y llaw arall, mae yna lawer o ofergoelion sy’n cael eu hystyried yn gysylltiedig â dod â lwc ddrwg, fel cerdded dan ysgol, drych wedi torri, rhif 13 ac agor ambarél dan do, i enwi dim ond ychydig.

A oes gennych chi rif lwcus yr ydych chi bob amser yn ei ddewis, neu efallai liw sy’n lliw lwcus i chi? Ydych chi'n cyffwrdd pren neu’n taflu halen dros eich ysgwydd?

Gwahoddwch y myfyrwyr i dreulio moment yn trafod gyda'r person sydd nesaf atyn nhw am yr hyn maen nhw'n ei feddwl ynghylch y syniad o lwc dda a lwc ddrwg.

  1. Cynhaliodd seicolegydd, yr Athro Richard Wiseman, astudiaeth wyddonol dros ddeng mlynedd ar effeithiau lwc ar fywydau pobl. Hysbysebodd am bobl a oedd yn credu eu bod yn arbennig o lwcus, neu'n arbennig o anlwcus, i'w helpu. Fe wnaeth miloedd o bobl ymateb, ac fe edrychodd ar eu bywydau, gan ymchwilio i ddylanwad ofergoeliaeth, dylanwad dramatig achosion o gyfarfod ar siawns, ac effaith eu cred bersonol ynghylch lwc ar eu bywydau o ddydd i ddydd.

    I ba gasgliad y daeth? Daeth yr Athro Wiseman i'r casgliad bod pobl, i raddau helaeth, yn gwneud eu lwc dda, a’u lwc ddrwg, eu hunain. Nid yw eitemau fel ‘lucky charms’ ac ofergoelion yn peri i sefyllfaoedd da neu wael ddigwydd; meddylfryd yr unigolyn sy'n gwneud gwahaniaeth o ddifrif. 

  2. Felly, sut y gallwn ni gynhyrchu ein lwc dda ein hunain? Yn gyntaf, gallwn fod yn barod i dderbyn pob cyfle a manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd hynny. Pwy â wyr pwy y byddwn yn cwrdd â nhw heddiw: rhywun a allai fod yn ffrind am oes. . . yr un y byddwn ni’n syrthio mewn cariad ag ef neu hi. . . neu rywun a fydd yn dylanwadu ar ein dewis o yrfa?

    Mae cyfleoedd ar hap yn digwydd. Rydyn ni’n dod wyneb yn wyneb â rhywun yn y coridor. Rydyn ni’n sefyll yn ymyl rhywun wrth aros am y bws. Rydyn ni'n gollwng darn arian ac mae rhywun yn ei godi i ni. Gallwn ddewis cerdded ymlaen neu ymgymryd â'r cyfle. Tybed beth fydd y cyfle hwnnw?

  3. Yn ail, fe allwn ni wneud penderfyniadau da trwy ymddiried yn ein greddf ein hunain. Os byddwn yn dysgu gwrando ar y llais dwfn y tu mewn i ni, fe fyddwn ni’n dysgu gwneud dewisiadau da. Weithiau, mae'n rhaid i ni anwybyddu beth y gallai ein ffrindiau feddwl ohonom, neu beth mae ein rhieni neu ein hathrawon yn ei ddisgwyl gennym ni. Efallai nad dyma'r dewis hawdd, ond pan fyddwn yn penderfynu gwneud y peth iawn mewn sefyllfa, bydd y canlyniad yn aml yn gadarnhaol.

  4. Yn drydydd, mae proffwydoliaethau hunangyflawn yn realiti ym mywydau pobl lwcus. Drwy gael disgwyliadau cadarnhaol am yr hyn y gallwn ei gyflawni, byddwn yn symud tuag at eu cyflawni gam wrth gam. Fe allwch chi feddwl eich hun i fod yn ffit. Fe fyddwch chi’n cyflawni mwy os ydych chi'n credu y gallwch chi fod yn llwyddiannus.

  5. Yn olaf, mae pethau drwg yn digwydd i bobl lwcus hefyd. Dim ond eu bod yn well wrth drawsnewid y lwc ddrwg yn rhywbeth da. Serch hynny, waeth pa mor wael yw sefyllfa, fel arfer mae yna rywfaint o dda a all ddod allan ohoni. Mae pobl lwcus yn credu, o ddifrif, bod ymyl arian i bob cwmwl – ‘Every cloud has a silver lining’.

Amser i feddwl

Gadewch i ni gymryd amser i fyfyrio ar y ffaith bod pethau da a phethau drwg yn digwydd i bawb. Mae'n ymddangos fel pe byddai rhai pobl yn cael yr holl lwc. Ac mae'n ymddangos fel pe byddai rhai pobl eraill yn denu troeon anffodus.

Meddyliwch yn ôl dros yr wythnos ddiwethaf. Allwch chi feddwl am enghreifftiau o droeon da ac am enghreifftiau o droeon drwg?

Yn y Beibl, pan fydd Iesu yn dysgu ei ddilynwyr, mae'n nodi bod Duw yn ‘yn peri i’w haul godi ar y drwg a’r da, ac yn rhoi glaw i’r cyfiawn a’r anghyfiawn’. (Mathew 5.45)

Ni all unrhyw un ohonom ddianc rhag amseroedd gwael. Mae amseroedd da ac amseroedd gwael yn digwydd i bawb ohonom. Y cyfan y gallwn ni ei newid yw ein hagwedd tuag atyn nhw.

Mewn moment o dawelwch, gadewch i ni feddwl am sut y gallwn ni ddylanwadu ar ein lwc ein hunain.

-Sut y gallwn ni wneud y gorau o'r cyfleoedd sydd ar gael i ni?
-Sut y gallwn ni wneud y penderfyniadau iawn?
-Sut y gallwn ni feithrin disgwyliadau cadarnhaol?
-Sut y gallwn ni weld y da ym mhob sefyllfa?

Oedwch i ganiatáu amser i feddwl.

Felly, y tro nesaf mae rhywbeth anffodus yn digwydd i chi, a'ch bod chi'n meddwl, 'Dyna fy hanes i!’ neu’n meddwl, ‘Just my luck!’, meddyliwch eto.

Dyddiad cyhoeddi: Medi 2017    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon