Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Gwyl Sukkot

Mae Gwyl Sukkot ar 4-11 Hydref 2017

gan Helen Bryant (addaswyd, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2010)

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Archwilio pwysigrwydd gwyl Sukkot i’r bobl Iddewig.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen dau ddarllenydd.
  • Dewisol: efallai yr hoffech chi ddangos delweddau o wersylloedd ffoaduriaid yn ystod y rhan 'Amser i feddwl', ac os felly bydd angen i chi drefnu modd o wneud hynny. Gallai enghreifftiau o’r delweddau gynnwys:

    - rhesi o bebyll mewn gwersyll ffoaduriaid, ar gael ar:https://tinyurl.com/gms5us2
    - llun o wersyll mawr o ffoaduriaid, ar gael ar:https://tinyurl.com/ybp5w43f

Gwasanaeth

  1. Meddyliwch am yr holl bethau sy’n eich amddiffyn chi rhag yr elfennau. Wrth i ni gyrraedd mis Hydref, gyda’r dydd yn byrhau, a’r tywydd yn mynd yn fwy gaeafol, rwy’n siwr eich bod i gyd yn falch bod gennych chi got gynnes, yn falch o ambarél i gysgodi oddi tani pan fydd hi’n arllwys y glaw, ac yn ddiolchgar am gartref clyd.

  2. Mae gwyl Iddewig, y Sukkot, sydd hefyd yn cael ei galw’n Wyl y Tabernaclau, neu wyl y Pebyll, yn coffau’r blynyddoedd a dreuliodd yr Iddewon yn yr anialwch ar eu ffordd i Wlad yr Addewid.

    Roedd y bobl wedi bod yn gaethweision yn yr Aifft, ond roedd Moses wedi eu harwain allan o’r Aifft: hon oedd y ddihangfa fawr a elwir yr Exodus. Ar ôl yr Exodus, fe dreuliodd y bobl 40 mlynedd yn yr anialwch, heb gartrefi parhaol. Roedd yn rhaid iddyn nhw adeiladu cartrefi dros dro allan o unrhyw ddefnyddiau y gallen nhw ddod o hyd iddyn nhw yn yr anialwch. Llochesi sylfaenol syml iawn oedd y llochesi hyn. Rhywbeth tebyg yn ein hoes ni fyddai gwersyll ffoaduriaid, neu bentrefi pebyll sy’n cael eu codi ar ôl trychineb naturiol fel daeargryn, er enghraifft.

    Roedd angen lloches ar yr Iddewon hyn i’w hamddiffyn, nid yn unig rhag y tywydd ond hefyd rhag eu gelynion, ysbeilwyr ac anifeiliaid gwyllt. Yr enw a roir ar y llochesi dros dro hyn ywsukkot(enw Hebraeg lluosog ywsukkot; y gair unigol ywsukkah) a dyna pam y gelwir yr wyl hon, sy’n cofio ac yn dathlu’r adeg hon yn hanes yr Iddewon, yn Wyl y Sukkot.

    Nid yw llochesi dros dro yn adeiladau cryf iawn, fel y bydd llawer ohonoch chi sydd wedi bod yn gwersylla ryw dro yn gwybod, neu’r rhai ohonoch chi fu adeiladu ‘den’ i chi eich hunain, pan oeddech chi’n iau. Bydd y glaw yn diferu trwy’r to, bydd y gwynt yn gallu eu chwalu, ac mae’n anodd cadw’r oerni allan ohonyn nhw. Ond roedd yr Iddewon yn gwybod bod Duw yno gyda nhw i roi amddiffyniad ychwanegol iddyn nhw.

  3. Mae teuluoedd Iddewig modern yn dathlu Gwyl Sukkot er mwyn gofalu eu bod yn cofio’r amser a dreuliodd eu hynafiaid yn yr anialwch. Un ffordd y maen nhw’n gwneud hyn yw trwy adeiladu sukkotmodern neu lochesi yn eu gerddi. Neu, os nad oes gardd ganddyn nhw, na lle y tu allan i’r ty, mae’n bosib iddyn nhw ddewis helpu i adeiladusukkahyn y synagog.

    Mae rheolau caeth ynghylch pa ddefnyddiau gaiff eu defnyddio i adeiladu’rsukkah, a sut yn union y mae’n cael ei adeiladu. Bydd ein darllenwyr yn awr yn nodi’n union, gam wrth gam, sut mae adeiladusukkah.

    Darllenydd 1:Yn ddelfrydol dylaisukkahfod â phedair wal, ond mae’n bosibl cael dim ond tair. Gallai wal adeilad arall gyfrif fel un, ac felly bydd rhai Iddewon yn adeiladu eusukkahar wal gefn eu cartref.

    Darllenydd 2:Dylai’r waliau gael eu hadeiladu o unrhyw ddefnydd sy’n gallu gwrthsefyll gwynt arferol. Mae canfas yn enghraifft dda o ddefnydd modern. Fe all y defnydd hwn fod wedi ei fenthyca ond ddim wedi ei ddwyn.

    Darllenydd 1:Dylai’rsukkahfod yn ddigon mawr i chi a’ch teulu fyw ynddo.

    Darllenydd 2:Rhaid i’r to neu’r gorchudd fod wedi ei wneud o ddefnydd sydd wedi tyfu o’r ddaear. Bydd hyn yn cynnwys canghennau a brigau. Mae’n bosib hefyd defnyddio lledr ac unrhyw fath o fetel. Nid yw’n bosib defnyddio coeden sy’n tyfu, felly nid yw’n bosib codi eich lloches o dan goeden fawr sy’n tyfu yn eich gardd, er enghraifft, ac nid yw’n bosibl defnyddio unrhyw ran o’r goeden honno.

    Darllenydd 1:Rhaid gosod y to yn olaf. Rhaid hefyd gadael y to yn rhydd. Rhaid i wead y to fod yn ddigon llac i chi allu gweld y sêr trwyddo, ond ddim mor llac fel bod mwy o olau haul yn dod trwyddo nag sydd o gysgod.

  4. Mae Iddewiaeth yn grefydd y disgwylir i chi fod yn weithredol ynddi; rhaid i chi ‘fyw’ eich crefydd. Mae Gwyl y Sukkot yn enghraifft dda o hynny. 

    Mae’r arferiad o ail fyw neu ailberfformio’r gorffennol yn golygu bod yr Iddewon yn gallu deall a dangos empathi tuag at eu hynafiaid a’r anawsterau a ddaeth i’w rhan wrth iddyn nhw deithio trwy’r anialwch.

    Mae’r Torah (y gyfraith Iddewig) yn gorchymyn i’r Iddewon fyw yn y sukkot neu’r lloches am saith diwrnod o’r wyl.

    Darllenydd 2: Yn Lefiticus 23.42-43 mae’n nodi: ‘Yr ydych i fyw mewn pebyll am saith diwrnod; y mae holl frodorion Israel i fyw mewn pebyll, er mwyn i’ch disgynyddion wybod i mi wneud i bobl Israel fyw mewn pebyll [sukkot]  pan ddeuthum â hwy allan o wlad yr Aifft. Myfi yw’r Arglwydd eich Duw.’

    Yng ngwlad Israel, bydd Iddewon yn gweithredu’r gorchymyn hwn yn llythrennol, ac yn byw yn eu sukkot am saith diwrnod. Ond mae mis Hydref yn ein gwlad ni yn wahanol iawn i fis Hydref yng ngwlad Israel, sef y mis pryd y caiff gwyl y Sukkot ei chynnal. Felly, fe ganiateir eithriadau: os yw’r tywydd a’r hinsawdd yn ei gwneud hi’n anodd i’r bobl fyw yn eu sukkot, yna mae’r Iddewon yn cyflawni eu gorchymyn trwy o leiaf fwyta eu holl brydau bwyd yn y lloches. 

  5. Defod arall sydd ynghlwm â’r Sukkot yw’r ddefod a elwir y Pedwar Rhywogaeth. Yn y seremoni hon, mae tri math o gangen ac un math o ffrwyth yn cael eu clymu gyda’i gilydd (sef ffrond o balmwydden datys; cangen gyda dail arni oddi ar y planhigyn myrtwydd; cangen gyda dail arni oddi ar y pren helyg; ac etrog, sef math o ffrwyth sitraidd). Bob dydd, yn ystod yr wyl, mae Iddewon yn ymuno mewn gorymdaith, gan chwifio eu canghennau a’r ffrwyth. Tra bydd gweddïau’n cael eu hadrodd, fe fyddan nhw’n chwifio’r canghennau i fyny ac i lawr, ac i gyfeiriadau pedwar ban y byd - gogledd, de, dwyrain, gorllewin - i ddangos bod Duw ym mhob man. 

  6. Mae’r syniad bod Duw ym mhob man yn hanfodol i’r wyl, ac yn ganolog iddi. Mae’r rhan fwyaf o bobl y dyddiau hyn yn byw mewn tai neu fflatiau sydd â waliau cryf a tho cadarn iddyn nhw. Mae Gwyl y Sukkot, a’r gorchymyn i fyw neu dreulio amser allan mewn adeilad dros dro, sy’n lloches ddigon bregus, yn rhoi’r profiad a’r ddealltwriaeth o fod yn agored i’r byd. Mae hefyd yn atgoffa’r bobl o’r amddiffyniad y mae Duw’n ei roi iddyn nhw. Duw yw’r un sydd â’r unig amddiffyniad gwir a real, ac sy’n ein gwarchod rhag pob peth.

Amser i feddwl

Meddyliwch am y bobl hynny sy’n byw fel ffoaduriaid ar hyn o bryd. (Dewisol: dangoswch y delweddau o wersylloedd ffoaduriaid.)

Treuliwch foment neu ddwy yn bod yn ddiolchgar am y cartrefi sydd gennym ni.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Ti sydd wedi gwneud y byd a phopeth sydd ynddo.
Diolch i ti am roi’r amddiffyniad rydyn ni ei angen, yn y lloches y mae ein cartrefi yn eu rhoi i ni.
Diolch am yr hyn y mae gwyl Sukkot yn ein hatgoffa ohono.
Helpa ni i fod yn ddiolchgar, ac i feddwl am y rhai hynny sy’n llai ffodus na ni.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Hydref 2017    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon