Derbyn a rhoi
Meddwl am y cynhaeaf
gan Claire Law
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Uwchradd)
Nodau / Amcanion
Archwilio traddodiad yr wyl gynhaeaf ac ystyried gwaith yr ymddiriedolaeth ‘The Trussell Trust’.
Gwasanaeth
- Wrth i’r myfyrwyr ddod i’r gwasanaeth, trefnwch fod y fideo a’r gerddoriaeth ‘Harvest for the World’ gan The Christians yn chwarae, mae ar gael ar: <https://www.youtube.com/watch?v=6s-SHrzXbU8>
Croeso i'n gwasanaeth. Heddiw, byddwn yn ystyried gwyl y cynhaeaf. - Dangoswch Sleid 1.
Tybed beth yw'r peth diwethaf y gwnaethoch chi ei fwyta heddiw. Ceisiwch feddwl!
Efallai yr hoffech chi holi ambell un o’r myfyrwyr. - A fyddwn ni’n oedi weithiau i feddwl o ble y daw'r bwyd hwnnw atom, neu i feddwl am y gwaith sydd ynghlwm wrth ei gynhyrchu? Rwy'n credu mai'r ateb tebygol fyddai na, mae’n debyg! Efallai ein bod yn awchu cymaint am y bwyd, neu'n rhy brysur, i oedi a meddwl sut y mae ein bwyd yn cyrraedd ein platiau.
- Mewn oes a fu, roedd yn amlwg o ble roedd y bwyd y dod. Cyn cyfnod y Chwyldro Diwydiannol, roedd y mwyafrif o bobl Prydain yn gweithio ar y tir. Adeg y cynhaeaf, roedd angen llawer o gymorth i gasglu'r cnwd ynghyd. Roedd gwyl y cynhaeaf yn adeg i ddathlu ac i ddiolch am y bwyd a oedd wedi cael ei dyfu ar y tir.
Dangoswch Sleid 2.
Roedd y gymuned yn dod ynghyd i gasglu'r cnwd, ac yna i ddathlu bod y cnwd wedi cael ei gasglu ynghyd. Fe fyddai gwledd hael, o'r enw swper cynhaeaf, i ddathlu. Canolbwynt y pryd bwyd yn yr hen amser fyddai gwydd wedi cael ei stwffio ag afalau, a honno’n cael ei gweini gyda digonedd o lysiau. Roedd yn adeg ar y flwyddyn pan fyddai digonedd o fwyd da i bawb ei fwynhau! - Yn ddiweddar, cafodd y traddodiad o ddathlu gwyl y cynhaeaf mewn eglwysi ei ddatblygu. Fe ddaeth hyn yn hynod o boblogaidd nghyfnod y Frenhines Victoria. Fe gaiff gweddïau o ddiolchgarwch eu hoffrymu a chaiff emynau yn dathlu'r cynhaeaf eu canu. Yn aml, caiff eglwysi eu haddurno â chnydau cartref ar gyfer gwasanaeth gwyl y cynhaeaf.
Dangoswch Sleid 3. - Ond, beth am y bobl sydd ddim yn cael digon i'w fwyta? Beth am y bobl nad oes ganddyn nhw ormodedd o fwyd ar gyfer dathlu a chynnal gwyl?
- Mae'r mwyafrif o grefyddau'n addysgu am bwysigrwydd gofalu am anghenion y tlodion, yn cynnwys sicrhau fod gan bawb ddigon i'w fwyta.
Dangoswch Sleid 4.
Yn y Beibl, mae’n nodi, ‘Pan fyddi’n medi cynhaeaf dy dir, paid â medi at ymylon dy faes, a phaid â lloffa dy gynhaeaf; gad hwy i’r tlawd a’r estron.’(Lefiticus 23.22)
Mae'r darn hwn, sy'n bwysig gan Iddewon a Christnogion, yn dweud wrthym y dylai fod rhywbeth ar gael bob amser i'r tlawd. Pan gaiff y cynhaeaf ei gasglu, dylai fod rhywfaint ar ôl i'r tlawd ei gasglu neu ei ‘loffa’.
Darluniwyd y syniad hwn gan arlunydd Ffrengig,Jean-François Millet.
Dangoswch Sleid 5. - Fe ddywedodd Mahatma Gandhi yr un peth mewn ffordd debyg, ‘The true measure of any society can be found in how it treats its most vulnerable members.’ - Fe welwch chi wir fesur unrhyw gymdeithas yn y modd y mae'n trin ei haelodau mwyaf bregus.
Dangoswch Sleid 6.
Mae'r sleid yma’n ein hatgoffa ni na ddylai’r rhai sydd mewn angen gael eu hesgeuluso gan eraill. - Yn y blynyddoedd diweddar daeth banciau bwyd yn fodd i bobl nad oes ganddyn nhw ddigon o fwyd i'w fwyta ofyn am gymorth i gael bwyd. Efallai eich bod wedi clywed am elusen, sydd i’w chael yng ngwledydd Prydain, o'r enw 'The Trussell Trust', elusen sy'n gweinyddu rhwydwaith o fanciau bwyd.
Dangoswch Sleid 7.
Cafodd 'The Trussell Trust' ei sefydlu yn y flwyddyn 1997. Yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, fe ddarparodd dros filiwn o gyflenwadau bwyd i bobl a oedd mewn angen am amrywiol resymau, yn cynnwys colli gwaith, salwch, oedi cyn derbyn budd-daliadau, trais yn y cartref, tor-priodas, dyled neu gostau ychwanegol ar gyfer tanwydd yn ystod y gaeaf. Mae rhai o'r bobl sy'n defnyddio banciau bwyd yn gyflogedig, ac mewn gwaith, ond maen nhw'n methu â fforddio popeth sydd ei angen arnyn nhw oherwydd bod eu cyflog yn rhy isel. - Er mwyn ein helpu i ddeall dipyn mwy am waith Ymddiriedolaeth Trussell ('The Trussell Trust' ), gadewch i ni edrych ar fideo am Donna, a aeth i ofyn am fwyd gan Ymddiriedolaeth Trussell pan aeth yn wael. Bellach mae hi'n gweithio'n wirfoddol ar ran yr elusen yn helpu i ddarparu bwyd ar gyfer pobl eraill mewn angen.
Dangoswch ‘Donna’s Story’, ar gael ar:http://tinyurl.com/y9nk2nlt
Amser i feddwl
Wrth i ni feddwl am thema'r gwasanaeth heddiw, gadewch i ni blygu pen a neilltuo ychydig o amser i fyfyrio.
Gadewch i ni gymryd moment i ddistewi a llonyddu.
Yn gyntaf, gadewch i ni feddwl am y bwyd yr ydyn ni wedi ei fwyta'n ddiweddar.
Gadewch i ni geisio mabwysiadu agwedd o ddiolchgarwch: bod yn ddiolchgar am y bwyd hwnnw.Bod yn ddiolchgar am y bobl sydd yn rhan o'i gynhyrchu. Bod yn ddiolchgar fod gennym fwyd i'w fwyta a'i fwynhau.
Gadewch i ni feddwl am y rhai hynny yn ein cymdeithas sy'n ei chael hi'n anodd cael digon i'w fwyta, neu bobl sy'n methu â darparu diet iachus ar gyfer eu hunain na'u teuluoedd. Rydyn ni’n meddwl am bobl yn ein cymuned ni sy'n wynebu'r angen hwn.
Gadewch i ni oedi am funud a cheisio mabwysiadu agwedd o dosturi tuag at y rhai hynny sydd mewn angen.
Gadewch i ni oedi am funud a cheisio mabwysiadu agwedd o ddiolchgarwch ac anhunanoldeb, gan feddwl nid am ein trachwant ni ein hunain, ond cofio am anghenion pobl eraill.
Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i ti am y bwyd rwyt ti’n ei ddarparu i ni.
Diolch i ti fod gennym y gallu a'r modd i rannu.
Helpa ni i fabwysiadu agweddau o ddiolchgarwch, tosturi a haelioni.
Gweddïwn am waith Ymddiriedolaeth Trussell ac elusennau eraill sy'n cefnogi'r rhai sydd angen bwyd.
Helpa nhw yn y gwaith y maen nhw'n ei wneud. Diolch iti am y bwyd rwyt ti’n ei ddarparu i ni.
Amen.
Cân/cerddoriaeth
‘The Christians “Harvest for the World”’ (3.57 munud), ar gael ar:https://www.youtube.com/watch?v=6s-SHrzXbU8