Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Cytuno i Anghytuno

Mae’r Wythnos Weddi dros Heddwch Byd yn cael ei chadw ar Hydref 8-16

gan Brian Radcliffe

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Archwilio ein dealltwriaeth o bwysigrwydd goresgyn ein gwahaniaethau er gwell.

Gwasanaeth

Arweinydd:Edrychwch o’ch cwmpas. Ym mha ffyrdd ydych chi'n wahanol i eraill sy'n eistedd yn agos atoch chi?

Oedwch i ganiatáu amser i feddwl.

Darllenydd 1:Un gwahaniaeth amlwg yw ai merch ai bachgen yw’r person . . .

Darllenydd 2:. . . neu faint yw eu hoedran. Mae rhai ohonom bron i bum mlynedd yn hyn nag eraill sydd yma.(Newidiwch fel bo’n briodol.)

Darllenydd 1:Mae rhai ohonom â gwallt golau, rhai eraill â gwallt brown, rhai â gwallt syth ac eraill â gwallt cyrliog.

Darllenydd 2:Mae rhai ohonom i'n cefnogi tîm pêl-droed Caerdydd (enwch dîm pêl-droed lleol ),  eraill ohonom yn cefnogi Abertawe (enwch eu cystadleuwyr),  a llawer ohonom â dim o gwbl, efallai!

Darllenydd 1:Mae rhai ohonom yn optimistiaid, bob amser yn edrych ar yr ochr dda i bethau da mewn bywyd.

Darllenydd 2:Mae eraill yn besimistiaid sy'n dueddol o or-bwysleisio problemau bywyd.

Arweinydd: Mae cymaint o wahaniaethau'n bod. Detholiad bychan sydd yma. Mewn gwirionedd, mae'n wir dweud nad oes dau fyfyriwr yn union yr un fath, ddim hyd yn oed gefeilliaid unfath (efallai y byddwch yn dymuno cyfeirio at barau o efeilliaid sy'n bresennol yn y gwasanaeth).

Weithiau, gall ein gwahaniaethau fod wrth wraidd ymryson.  Yn aml, pan fydd hyn yn digwydd hyn fe all fod yn chwareus ac yn ddiniwed, ond weithiau, fe all ddatblygu i fod yn rhywbeth mwy niweidiol: yn rhagfarn neu hyd yn oed yn gasineb gwirioneddol. Gall gwahaniaethau esgor ar anghytgord yn hawdd iawn.

Ond fe allwn ni edrych ar y sefyllfa mewn ffordd arall. Ym mha ffordd yr ydych chi'n debyg i'r rhai sydd o'ch cwmpas chi?

Oedwch i ganiatáu amser i feddwl.

Y peth cyntaf i'w gydnabod yw ein bod i gyd yn fodau dynol. Yna, mae'r ffaith bod llawer o ohonoch chi yn eich arddegau. Mae pob un ohonom yn rhan o gymuned yr ysgol hon. Rydyn ni i gyd yn byw mewn rhan o'r wlad sy'n gyffredin i ni. Mae'r rhain yn nodweddion rydyn ni’n eu rhannu, ac maen nhw'n ffactorau sy'n ein cynnal ynghyd.

Amser i feddwl

Arweinydd: Un o'r gwahaniaethau na chafodd ei grybwyll yn gynharach yw'r un yn ymwneud â chrefydd. Mae'n hollol debygol fod yn y gwasanaeth heddiw rai fyddai'n disgrifio'i hunain fel bod yn Gristnogion, yn Fwslemiaid, yn Iddewon, yn Sikhiaid, yn Hindwiaid, yn Rastaffariaid, yn Hindwiaid, neu’n Fwdhyddion, neu’n arddel crefydd arall. Mae llawer yn honni nad ydyn nhw'n arddel unrhyw ffydd. Mewn gwirionedd, rwy'n siwr y byddai rhai pobl yn awgrymu mai crefydd yw achos y gwrthdaro sydd yn y byd ac mai gwell fyddai ei osgoi.

Mae'r wythnos o 8 i 16 Hydref yn Wythnos Weddi dros Heddwch y Byd. Trwy'r wlad yn gyfan gwbl, bydd cynrychiolwyr o'r mwyafrif, os nad y cyfan, o brif grefyddau'r byd yn dod ynghyd. Bydd pobl gyffredin yn dod ynghyd i ddangos yr hyn sy'n gyffredin iddyn nhw fel bodau dynol ac i weddïo dros heddwch y byd. Caiff y syniad, sydd yn gefndir i'r wythnos hon, ei egluro orau gan eiriau un o'r sylfaenwyr, Dr Edward Carpenter.

Darllenydd 1:Rhaid i grefyddau'r byd weddïo dros heddwch y byd.

Darllenydd 2:Rhaid i grefyddau'r byd weddïo dros heddwch y byd.

Arweinydd: Yr hyn sydd dan sylw gan Carpenter yw, os mai prif grefyddau'r byd yw un o achosion yr anghytgord a rhyfel sy'n bodoli yn y byd, yna mae'n gyfrifoldeb ar y crefyddau hynny i wneud rhywbeth yn ei gylch. Y peth cyntaf i'w wneud yn syml yw i ni ddod ynghyd, i rannu ein dynoldeb cyffredin, i chwalu'r rhagfuriau sydd rhyngom. Yr ail yw gwneud yr hyn y mae pobl y ffydd yn credu yw'r weithred fwyaf grymus sy'n bod, sef gweddïo, gan wahodd Duw i ymyrryd yn ein byd a dod â heddwch iddo. Mae hynny'n deillio o gred a rennir sef bod yr hyn yr ydym yn cytuno arno yn bwysicach na'r hyn yr ydym yn anghytuno arno, a'n bod yn dyheu am heddwch i'r byd.

Yr ystod y dyddiau nesaf hyn, gall fod rhai ohonom yn cynllunio i gymryd rhan mewn digwyddiad sydd â chyswllt â'r Wythnos Weddi dros Heddwch y Byd. Ond mae gwerth hefyd mewn gweithredu geriau Carpenter yn ein bywyd gyda'n gilydd yn y gymuned ysgol hon. Gyda'n gilydd, mae'n ofynnol i ni gymryd y cyfrifoldeb am les cymuned ein hysgol, oherwydd yr ydym i gyd mor wahanol. Gadewch i ni ystyried a ydym yn gofalu bod y rhai sy'n fregus yn cael eu hamddiffyn, ein bod yn dod yn gyfaill i'r rhai unig, a bod y rhai sy'n wangalon yn cael eu calonogi. Gadewch i ni ystyried y gwahaniaeth y gallwn ni eu gwneud.

Gadewch i ni wneud yn siwr nad yw’r gwahaniaethau sydd rhyngom yn rhwystr i ni dynnu at ein gilydd o gwmpas yr hyn sy'n gyffredin gennym a'r dyhead sydd gennym am heddwch.

Gyda'n gilydd, os ydyn ni'n wirioneddol angen hynny, fe allwn ni greu cymuned sy'n heriol, sy'n gallu cyflawni pethau, ond sy'n bennaf yn un heddychol. Mae’n bosib i’r gwersi a ddysgwn ni yn yr ysgol hon gael eu trosglwyddo yn gyffredinol i'n byd.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch am yr amrywiaeth sydd i’w gael yn yr ysgol hon.
Boed i ni ganolbwyntio ar y pethau gwych yr ydym i gyd yn eu rhannu.
Boed i ni fod yn hapus yn ein gwahaniaethau.
Gadewch i ni wneud cymuned ein hysgol yn lle heddychol, sy'n fodel i'r byd yr ydym yn byw ynddo.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Hydref 2017    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon