Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Pawb yn wahanol, Pawb yn gyfartal

Mae Wythnos Gwrth-fwlio yn digwydd rhwng 13 a 17 Tachwedd

gan Brian Radcliffe

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Ein hannog i ystyried effeithiau bwlio a strategaethau i'w hatal.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen cangen fechan ddeiliog, potyn blodau mawr a chasgliad o addurniadau coeden Nadolig.

Gwasanaeth

Arweinydd (gan ddangos y gangen ddeiliog): Hen dro na fyddwn i wedi gallu dod o hyd i gangen o goeden ywen, ond fe wnaiff hon y tro yr un fath. Pe bawb i wedi cael cangen ywen – ‘yew’ yn Saesneg – fe fyddai hynny wedi bod yn addas iawn oherwydd fy mod eisio ceisio cyfleu mai CHI neu YOU yw'r gangen hon: ie, CHI. Ta waeth! Ond rydych chi'n edrych yn ddryslyd! Gadewch imi esbonio. Dychmygwch mai chi yw’r gangen hon. Ydw, rwy'n gwybod mai cangen o goeden (math o goeden) yw hi, ond nid dyna'r pwynt. Mae'n symbol, yn ddelwedd, neu’n llun sy’n gyfrwng i mi wneud pwynt. CHI (YOU) yw’r gangen hon.

Sut y bydden ni’n gallu disgrifio'r gangen hon? Mae'n edrych yn iach iawn, yn eithaf cryf, yn llawn dail. A fyddai o bwys mawr pe bawn i'n tynnu un o'r dail?

Tynnwch ddeilen.

Na, dim llawer o wahaniaeth, mewn gwirionedd.

Wrth i chi ddweud y geiriau canlynol, tynnwch bob deilen oddi ar y gangen yn eu tro yn raddol nes eich bod wedi tynnu’r cyfan o’r dail i ffwrdd.

Beth am dynnu un arall, ac un arall, ac ychydig mwy, a llond llaw, a llond llaw arall?

O, diar! Dydi hyn ddim yn edrych yn dda iawn. Dydych chi ddim yn edrych yn iach iawn erbyn hyn. Yn wir, rydych chi'n ymddangos yn wan ac yn noeth. Does dim dail ar ôl arnoch chi.

Oedwch i ganiatáu amser i feddwl.

Mae’r wythnos hon yn Wythnos Gwrth-fwlio. Bwriad y gangen yw ein helpu ni i feddwl am yr effaith y gall bwlio ei gael ar unrhyw un ohonom ni. Dydw i ddim yn sôn am weithredoedd mawr, dramatig; rwy'n siarad am y pethau bach. Ac mae hyn mewn ffordd yn ymwneud ag agwedd o fathemateg.

Fe all bwlio ddechrau'n ddigon diniwed. Fe all fod yn ateb cas, yn edrychiad sbeitlyd, yn sylw sarcastic neu yn chwerthin amhriodol. Yn aml, mae bwlio'n cynnwys geiriau a chamau nad oes neb yn sylwi arnyn nhw ar wahân i'r un person y maen nhw wedi'i anelu ato. Fodd bynnag, bob tro mae rhywbeth o'r fath yn digwydd, mae'n debyg ei fod yn cael gwared â dail oddi ar gangen. Mae'n tynnu rhywbeth oddi wrth y person sy'n darged. Mae'n gwneud y person hwnnw ychydig yn llai a gwannach, yn hau hadau amheuaeth ynddo ef neu hi, ac yn dwyn mesur bach o hunanhyder oddi arno ef neu hi. Yn unigol, efallai nad yw pob digwyddiad ynddo’i hun yn ymddangos yn bwysig iawn, ond mae'r canlyniadau'n tyfu. Fe all tynnu un ddeilen ar y tro gael effaith gronnus yn y pen draw. Wrth i'r bwlio gynyddu - gan gynnwys unigolion eraill hefyd, a dod yn fwy cyhoeddus, a hyd yn oed yn dreisgar hefyd - mae'n gallu bod yn debyg i rwygo’r holl ddail oddi ar y gangen. Dyna beth y mae bwlio’n ei wneud i rywun.

Daliwch y gangen noeth i fyny.

Yn y diwedd, fe all pethau ddod i ben fel hyn. Fe ddywedais fod hyn ymwneud ag agwedd o fathemateg. Pan fydd pobl yn cael eu bwlio, mae eu hyder a'u hunan-barch yn cael eu tynnu i ffwrdd, felly yn y diwedd, does dim byd ar ôl.

Amser i feddwl

Arweinydd: Mae'n hawdd dweud na allwn ni ganiatáu bwlio, ond fe hoffwn i ni fod ychydig yn fwy adeiladol. Peidiwch â phoeni, dydw i ddim yn bwriadu dechrau gludo'r dail yn ôl ar y gangen. Nid dyna’r ffordd y mae bywyd yn gweithio. Fe hoffwn i pe bydden ni’n rhoi cynnig ar ffordd arall o wneud hyn.

Dewch â’r addurniadau coeden Nadolig i’r golwg a rhowch y gangen noeth yn y potyn.

Fe fydd arna i angen rhywfaint o help yma i wneud hyn.

Dewiswch dri neu bedwar o fyfyrwyr a gofyn iddyn nhw ddod ymlaen i’ch helpu.

Fe hoffwn i chi addurno'r gangen. Byddwch mor greadigol ag y dymunwch chi. Rydw i am i'r canlyniad fod yn ddeniadol iawn.

Dylai'r myfyrwyr addurno'r gangen tra bydd yr Arweinydd yn parhau i siarad, gan dorri'r sgwrs yn achlysurol i roi sylwadau ar y canlyniad sy'n datblygu.

Pa mor aml y byddwn ni’n canmol cyflawniadau rhywun arall? Pa mor aml ydyn ni'n diolch i rywun am yr hyn y maen nhw wedi'i wneud neu ei ddweud, neu pan fyddan nhw wedi perfformio gweithred syml o garedigrwydd tuag at rywun?

Mae geiriau a chamau fel y rhain yn debyg i'r addurniadau sy'n cael eu hychwanegu at y gangen noeth yma. Daw'r cyfan yn ôl at fathemateg unwaith eto. Pan fyddwn ni’n gadarnhaol, yn galonogol ac yn ymroddedig i gefnogi ein gilydd, rydyn ni’n ychwanegu rhywbeth at fywyd rhywun, yn adio, yn hytrach nac yn tynnu i ffwrdd. Rydyn ni’n helpu i gynyddu hunanhyder, rydyn ni’n pwysleisio'r da, rydyn ni’n helpu ein gilydd i feddwl mwy ohonom ein hunain, fe fyddwn ni’n gor-redeg y niwed a fydd yn cael ei wneud gan unrhyw fwlio, ac fe fyddwn ni’n cadarnhau popeth sy'n werth ei ddathlu.

Mae hyn yn gweithio gyda'r bwlis hefyd. Mae'r rhan fwyaf o fwlis yn ymwneud â bwlio oherwydd teimlad o annigonolrwydd, a’r awydd i ddangos rhywfaint o rym dros eraill. O bosib, ein bod i gyd yn euog o wneud pethau fel hyn ar ryw adeg heb i ni feddwl. Fodd bynnag, pe bai gennym y profiad o gael ein grymuso gan ganmoliaeth rhywun arall, ac o deimlo ein bod yn cael ein gwerthfawrogi am bwy ydyn ni, byddai'r cymhelliant i fwlio, hyd yn oed yn y ffordd leiaf, yn debygol o ostwng.

Edmygwch y gangen addurnedig orffenedig.

Yr hyn rwy'n ei ddweud yw: gadewch i ni ganolbwyntio ar ddweud a gwneud pethau sy'n helpu i newid ein gilydd er gwell. Yna, efallai y bydd y canlyniad gystal â'r greadigaeth gelfyddydol ogoneddus hon!

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch am gyfleoedd i adfer hunanhyder y naill a’r llall.
Atgoffa ni o hyn pryd bynnag y byddwn ni’n gweld achos o fwlio.
Boed i ni geisio bod yn bobl sy'n llawn cariad a gofal tuag at eraill.
Boed i ni geisio cynnal pobl, yn hytrach na'u tynnu i lawr.

Amen.

Cân/cerddoriaeth

 ‘Beautiful’ gan Christina Aguilera

Dyddiad cyhoeddi: Tachwedd 2017    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon