Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Mae Hyn Yn Aruthrol

Darganfod beth yw ystyr y gair ‘aruthrol’.

gan Helen Bryant (addaswyd, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2010)

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 3

Nodau / Amcanion

Darganfod beth yw ystyr y gair ‘aruthrol’.

Paratoad a Deunyddiau

  • Trefnwch i gael tri llais i lefaru’r llinellau agoriadol – llinellau yw’r rhain y gallech chi eu newid fel y mynnwch i gyd-fynd â’r ffasiwn ddiweddaraf. Os yw’r llefarwyr yn cael eu gosod yma ac acw yn yr ystafell, fe fydd y cyflwyniad yn fwy effeithiol.

  • Er mwyn dod o hyd i’r clip y cyfeirir ato yn yr ‘Amser i feddwl’, edrychwch ar https://www.youtube.com/watch?v=HEheh1BH34Q (gwiriwch yr hawlfraint i’ch ysgol).

Gwasanaeth

  1. Gwrandewch ar y tri datganiad canlynol:

    Darllenydd 1  Roedd y band oedd yn chwarae neithiwr yn aruthrol!

    Darllenydd 2  Rydw i wrth fy modd efo Taylor Lautner, mae o’n wirioneddol aruthrol.

    Darllenydd 3  Edrychwch ar y ffordd y mae'r bydysawd wedi cael ei ffurfio, mae’r peth yn aruthrol yn wir.

    Mae'r gair ‘aruthrol’ yn ymddangos ym mhob un o'r tri gosodiad yma.  Ym mha un y ceir y gwir ystyr o'r gair ‘aruthrol’?

    Wel, mewn ffordd o siarad, mae'r tri yn gywir. Mae'r Cambridge Dictionary yn rhoi'r dyfyniad hwn i ni am ystyr y gair ‘awesome’: ‘a feeling of great respect sometimes mixed with fear or surprise’ – sef teimlad o barch mawr weithiau gyda chymysgedd o ofn a syndod.

  2. Gall 'aruthrol' fod yn syniad eithaf cymhleth i'w ddeall, ond fe allwch chi fod yn agos at gael dealltwriaeth ohono pan gewch chi'r teimlad hwnnw a gewch wrth edrych i fyny at y sêr, gweld machlud haul hardd neu olygfa hynod arall. Fe fyddwch yn gwybod bod rhywbeth draw yn y fan honno sy'n fwy o lawer na chi, ac rydych yn rhyfeddu at hynny, ac yn ei dyrchafu’r cyfan gyda pharch.  

    Neu, fe allwch chi feddwl am 'aruthrol' fel hyn. Oes rhywbeth sydd yn eiddo i’ch rhieni na chawsoch chi erioed ei gyffwrdd? Neu, a gawsoch chi rywbeth arbennig i'w ddal neu i'w warchod gan rywun? (Efallai yr hoffech chi dderbyn awgrymiadau.

    Efallai bod gennych chi deimlad o barch mawr tuag at y gwrthrych hwnnw, neu fod edrych arno’n creu teimlad o ryfeddod ynoch chi.

  3. Dyna'r teimlad o barch a rhyfeddod yr ydych yn ei deimlo pan ydych chi’n meddwl am y peth hwnnw fel bod yn 'aruthrol'. (Efallai yr hoffech chi newid yr enghraifft ganlynol gydag un o'ch profiad personol.)

    Er enghraifft, mae gan fy mam gasgliad mawr o ffigyrau tsieina Royal Doulton o ferched ar ei bwrdd-gwisgo. Pan oeddwn i'n blentyn roedden nhw ymhlith y pethau hynny nad oeddwn yn cael eu cyffwrdd. Fe fyddwn i'n edrych arnyn nhw mewn rhyfeddod. Hyd yn oed yn awr (a minnau'n 30 oed) rydw i'n parhau i fod ychydig yn nerfus o'u cwmpas, a does gen i ddim syniad beth fyddaf i'n ei wneud â nhw pan fyddan nhw'n dod yn eiddo i mi!   

    Neu, dychmygwch o ddifrif sut deimlad fyddai hwnnw pe byddech chi’n cael cyfarfod â'ch hoff berson enwog, neu gyfarfod â rhywun y mae gennych barch mawr ato ef neu hi.  Rwy’n siwr y byddai rhai ohonoch chi’n mynd yn hollol fud pe byddai rhywun fel Taylor Lautner neu Cheryl Cole yn cerdded i mewn trwy'r drws yma heddiw.

    Fedrwch chi roi unrhyw enghreifftiau o adegau pan ydych chi wedi teimlo'n 'aruthrol' am rywun neu rywbeth?

  4. Y tro nesaf y byddwn yn meddwl am rywbeth sy'n 'aruthrol', gadewch i ni gadw mewn cof ystyr y gair a meddwl am y peth hwnnw neu'r person hwnnw, boed yn real neu'n ddychmygol, fel pethau sydd yn cael effaith arnom yn nhermau parch a syndod, a hyd yn oed efallai yn codi ofn arnom.  

    Teimlad da, fodd bynnag, yw hwnnw a gawn wrth feddwl am y gair 'aruthrol'. Felly, er fy mod i’n teimlo ychydig yn betrusgar wrth feddwl am y ffigyrau Royal Doulton, alla' i ddim ond meddwl eu bod yn hardd ac y byddaf yn cael mwynhad wrth edrych arnyn nhw. Fe fydd yn rhaid i mi fod yn ofalus iawn pan fyddaf i’n tynnu'r llwch oddi arnyn nhw!

Amser i feddwl

(Dewisol) Gwyliwch y clip ffilm oddi ar YouTube, a chwiliwch a yw’n cyfleu’r math o deimladau rydyn ni wedi bod yn sôn amdanyn nhw heddiw (gwelwch yr adran ‘Paratoad a deunyddiau’).

(Derbyniwch ymateb y myfyrwyr ynghylch sut roedd y clip fideo wedi gwneud iddyn nhw deimlo.)

(Neu) Mewn cyfnod o ddistawrwydd, canolbwyntiwch ar olygfa ym myd natur sy’n gwneud i chi deimlo bod rhywbeth yn aruthrol.

Cân/cerddoriaeth

Cerddoriaeth ychwanegol a argymhellir

Chwaraewch un o’r traciau o The Planet Suite gan Holst: https://www.youtube.com/watch?v=Isic2Z2e2xs

Dyddiad cyhoeddi: Rhagfyr 2017    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon