Beth Yw Amser?
gan Helen Bryant (addaswyd, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2010)
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Uwchradd)
Nodau / Amcanion
Ystyried beth yw natur amser, a meddwl am y ffordd rydym yn defnyddio’r amser sydd wedi ei roi i ni.
Paratoad a Deunyddiau
- Llwythwch i lawr lun y cloc newydd sydd i’w weld yn Corpus Christi, Caergrawnt, ar gyfer rhan 5.
- Paratowch sleid o’r llinell amser y mae cyfeiriad ati yn rhan 8.
- Paratowch rai o’r myfyrwyr i ddarllen rhannau o’r Beibl.
Gwasanaeth
- Peth rhyfedd yw amser - mae’n gallu mynd yn gyflym neu’n araf, yn dibynnu ar beth fyddwch chi’n ei wneud. (Oedwch am ysbaid rhwng 30 eiliad a munud.)
- Ambell dro, gall dyddiau deimlo fel eiliadau, munudau fel oriau, misoedd fel blynyddoedd neu flynyddoedd fel wythnosau. Roed yr ysbaid o dawelwch gawson ni nawr, er yn ymddangos yn hir, yn ysbaid fer iawn mewn gwirionedd - gorfychanyn! Yn wir, mae’n fychan iawn o’i gymharu â’r ystod o amser y mae’r bydysawd wedi bodoli, yn fach hyd yn oed mewn achos o un diwrnod sydd yn 24 awr, 1,440 munud, neu 86,400 eiliad.
- Pe byddem yn meddwl am sut mae’r ffordd o fesur amser wedi newid fe allai hynny wneud i ni ystyried sut yr ydyn ni’n gwerthfawrogi ein hamser. Arferai diwylliannau hynafol fesur amser trwy wylio’r haul yn croesi’r awyr, neu trwy ddefnyddio deial haul ar ei ffurf symlaf fel ffon a’i chysgod. Erbyn hyn, mae’r rhan fwyaf ohonom yn gwisgo wats, neu fe allwn ni weld faint o’r gloch yw hi trwy edrych ar y cloc ar y wal. Mae rhai clociau ar gael sy’n gallu rhoi’r amser cywir i ni hyd at ganfed rhan o eiliad. Mae’r amser yn cael ei rannu’n fomentau lleiaf posib.
- Mae amser yn rhywbeth cyson ond sy’n newid yn barhaus. Am 45 miliwn o ganrifoedd, yn union fel mae’r haul wedi codi a machlud dros wyneb y Ddaear, mae amser wedi cerdded ymlaen yn ddidostur, ac fe fydd yn parhau i wneud hynny ymhell ar ôl i’n diwylliant ni ddod i ben, fel y gwnaeth gyda’r diwylliannau Minoaidd, a’r Hen Aifft, y diwylliant Groegaidd a’r Ymerodraethau Rhufeinig. Fe fydd yn parhau ymhell ar ôl eich dyddiau chi a dyddiau eich plant. Nid yw amser yn aros i neb.
- Yn ddiweddar, mae cloc newydd, nodedig iawn wedi ei osod yng Ngholeg Corpus Christi, Caergrawnt. Cylch dur di-staen wedi’i orchuddio ag aur 24-carat yw wyneb y cloc, tua 1.5 metr (4 tr 11 mod) mewn diamedr. Does dim bysedd ar y cloc na rhifau, ond mae’n arddangos yr amser trwy agoriadau unigol ar wyneb y cloc, sydd a’u cefnau wedi’i oleuo â goleuadau glas LED; mae’r agoriadau wedi eu trefnu mewn tri chylch consentrig yn arddangos yr oriau, y munudau a’r eiliadau.
- Prif nodwedd weledol y cloc yw’r cerflun metel o bryfyn difäol milain yr olwg, tebyg i geiliog y rhedyn neu locust. Y cerflun yw cilfa’r cloc mewn gwirionedd - ffynhonnell y swn ‘tician. Rhoddodd yr un a ddyfeisiodd y cloc, sef John C. Taylor, enw iddo a galw’r anghenfil yn Chronophage (sy’n llythrennol yn golygu ‘un sy’n bwyta amser’). Mae ceg y pryfyn yn symud fel pe byddai’n bwyta’r eiliadau wrth iddyn nhw fynd heibio, ac weithiau mae’n ‘blincio’ fel petai’n fodlon ei fyd. Mae symudiadau parhaus y creadur yn cynhyrchu seiniau crafu iasol sy’n gweddu i’r pwrpas. Caiff pen yr awr ei seinio gan swn cadwyni’n disgyn i arch bren sy’n guddiedig y to ôl i’r cloc. O dan y cloc mae arysgrif o adnod o’r Beibl o Lythyr cyntaf Ioan 2.17 lle mae’n dweud bod y byd a’i drachwant yn mynd heibio: mundus transit et concupiscentia eius - ‘the world passes away’. Dim ond unwaith bob pum munud y mae’r cloc yn dangos yr amser yn hollol gywir. Am weddill yr amser mae’r pendil fel petai’n cael ei ddal, neu yn aros yn llonydd, ac mae’r goleuadau’n gwanhau. Wedi hynny mae’r cloc yn rasio fel pe byddai’n ceisio dal i fyny ag ef ei hun. Yn ôl Taylor, y cynllunydd, mae’r symudiadau ansicr hyn yn adlewyrchu ‘afreoleidd-dra’ bywyd. Mae’r Chronophage yn atgoffa’r rhai sy’n edrych arno fod amser yn mynd heibio ac yn gwneud hynny mewn ffordd ddramatig iawn. Mae’r cloc wedi’i gynllunio’n fwriadol i gyfleu’r syniad bod rhywbeth yn frawychus yn hynny. Mae’n awgrymu nad yw amser ar ein hochr ni, a bod amser yn bwyta pob munud o’n bywyd. Nododd: ‘Basically I view time as not on your side. He’ll eat up every minute of your life.’
- Fodd bynnag, wrth i ni siarad am amser, mae rhywun y gallwn ni ei ddisgrifio fel un sydd o’r tu allan i ofod ac amser, sef Duw. Mae’n anodd amgyffred rhywbeth sydd y tu allan i ofod ac amser, ond fe geisiaf roi enghraifft i chi.
- Fe hoffwn i chi ddychmygu llinell amser enfawr. Os yw hynny’n haws, dechreuwch ar Sero - 0 - sef adeg y Bang Mawr. O’r pwynt yma y byddwn ni’n mesur amser, ac yna ceisiwch ymestyn y llinell mor bell ag y gallwch chi. Efallai yr hoffech chi ychwanegu rhai dyddiadau er mwyn ei gwneud hi’n haws: 3000 Cyn y Cyfnod Cyffredin pan adeiladwyd y pyramidiau, 1500 Cyn y Cyfnod Cyffredin pan oedd y Bwdha’n byw, 1 Cyfnod Cyffredin adeg croeshoelio Iesu Grist, 1066 blwyddyn Brwydr Hastings, a’r 2il fileniwm. Yna ymestynnwch ymlaen at y flwyddyn 2012 a’r Gemau Olympaidd yn Llundain.
- Nawr, dychmygwch eich bod yn hedfan uwchben y llinell amser a’ch bod yn gallu ei gweld oddi uchod ac yn gweld popeth ar unwaith - y gorffennol, y presennol a’r dyfodol. Rydych chi’n edrych dros y cyfan, ac eto rydych chi’n ddigyfnewid a heb fod o unrhyw oed. Dyna beth y gallwn ni feddwl amdano wrth ddweud bod Duw y tu allan i ofod ac amser. Da ynte!
- Ond, i ddod â ni’n ôl i realaeth eto, pwrpas y gwasanaeth yma yw pwysleisio pa mor bwysig yw amser a pha mor werthfawr; mae pob munud ac eiliad yn werthfawr ac ni ddylem eu gwastraffu. Meddyliwch eto am y Chronophage – dydi amser ddim ar ein hochr ni, ac yn y pen draw fe fyddwch heb ddigon ohono. Fe ddylem wneud yn fawr o’r amser sydd gennym. Ar yr un pryd mae amser yno fel cyfrwng i ni ddeall bod hefyd amser i bopeth.
Amser i feddwl
Pawb i gau eu llygaid a myfyrio ar y darn; fe allech ei ddefnyddio fel gweddi os dymunwch chi
Llyfr y Pregethwr 3.1-8: Amser i Bopeth
Y mae tymor i bopeth,
ac amser i bob gorchwyl dan y nef:
amser i eni, ac amser i farw,
amser i blannu, ac amser i ddiwreiddio’r hyn a blannwyd,
amser i ladd, ac amser iachau,
amser i dynnu i lawr, ac amser i adeiladu,
amser i wylo, ac amser i chwerthin,
amser i alaru, ac amser i ddawnsio,
amser i daflu cerrig, ac amser i’w casglu,
amser i gofleidio, ac amser i ymatal,
amser i geisio, ac amser i golli,
amser i gadw, ac amser i daflu ymaith,
amser i rwygo, ac amser i drwsio,
amser i dewi, ac amser i siarad,
amser i garu, ac amser i gasáu,
amser i ryfel, ac amser i heddwch.
Gweddi
Gad i mi ddefnyddio fy amser yn ddoeth, heddiw a thrwy gydol fy mywyd.
Cân/cerddoriaeth
‘We have all the time in the world’, Louis Armstrong
‘Speed of Sound’, Coldplay
‘Turn, Turn, Turn’, The Byrds