Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Y Grawys: Profiadau Yn Yr Anialwch

Gwasanaeth ar gyfer Dydd Mercher Lludw

gan Helen Bryant (addaswyd, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2010)

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Ystyried sut y gallwn ni gael nerth o wrthsefyll temtasiwn, trwy esiampl Iesu’n cael ei demtio yn yr anialwch.

Paratoad a Deunyddiau

Paratoi darllenydd i ddarllen y rhan ganlynol yng ngham 5 o’r gwasanaeth:

Mathew 4.1-11: Temtio Iesu
Yna arweiniwyd Iesu i’r anialwch gan yr Ysbryd i gael ei demtio gan y diafol. Wedi iddo ymprydio am ddeugain dydd a deugain nos daeth arno eisiau bwyd. A daeth y temtiwr a dweud wrtho, ‘Os mab Duw wyt ti, dywed wrth y cerrig hyn am droi’n fara.’ Ond atebodd Iesu ef, ‘Y mae’n ysgrifenedig:
“Nid ar fara yn unig y bydd rhywun fyw,
ond ar bob gair sy’n dod allan o enau Duw.”’

Yna cymerodd y diafol ef i’r ddinas sanctaidd, a’i osod ar dwr uchaf y deml, a dweud wrtho, ‘Os mab Duw wyt ti, bwrw dy hun i lawr; oherwydd y mae’n ysgrifenedig:
“Rhydd orchymyn i’w angylion amdanat;
byddant yn dy godi ar eu dwylo
rhag i ti daro dy droed yn erbyn carreg.”’

Dywedodd Iesu wrtho, ‘Y mae’n ysgrifenedig drachefn: “Paid â gosod yr Arglwydd Dduw ar ei brawf.”’

Unwaith eto cymerodd y diafol ef i fynydd uchel iawn, a dangos iddo holl deyrnasoedd y byd a’u gogoniant, a dweud wrtho, ‘Y rhain i gyd a roddaf i ti os syrthi i lawr a’m haddoli i.’ Yna dywedodd Iesu wrtho, ‘Dos ymaith, Satan; oherwydd y mae’n ysgrifenedig:
“Yr Arglwydd dy Dduw a addoli,
ac ef yn unig a wasanaethi.”’

Yna gadawodd y diafol ef, a daeth angylion a gweini arno
.

Gwasanaeth

  1. Fe benderfynodd dyn ifanc, un tro, bod arno angen cyfnod o gael bod ar ben ei hun, encilio oddi wrth gymdeithas, er mwyn gallu ail asesu ei sefyllfa a meddwl yn ddwys am hyn yr oedd yn ei wneud â’i fywyd. Felly, fe aeth i dreulio peth amser i ffwrdd o’i gartref. Does dim y anarferol yn hynny. Mae llawer o bobl yn hoffi cael amser iddyn nhw’u hunain er mwyn cael llonydd i feddwl.

  2. Ond yr hyn allai ymddangos yn od yn hanes y dyn ifanc yma oedd y man lle dewisodd fynd: yr anialwch, a’r amser y bu i ffwrdd: 40 dydd a 40 nos. A, mwy na hynny, doedd y dyn yma ddim wedi mynd â bwyd na diod iddo’i hun. Mae’n debyg y byddech chi’n pryderu am ei ddiogelwch, ac yn amau a fyddech chi’n ei weld yn dal yn fyw ar ôl y 40 diwrnod. Wedi’r cyfan, lle anodd iawn i fyw ynddo yw’r anialwch: poeth iawn yn  ystod y dydd, ac oer iawn yn ystod y nos.

  3. Dychmygwch wedyn, mae’r dyn yn dod yn ei ôl ar ddiwedd y cyfnod, mae’n dal yn fyw. Mae’n edrych yn llwydaidd iawn, ac yn deneuach o bosib, ond mae’n dal yn fyw. Ond, mae rhywbeth arall hefyd yn ei gylch sy’n wahanol. Mae wedi newid rhywfaint, mae rhyw sicrwydd ac argyhoeddiad mewnol newydd yn perthyn iddo. Mae’n llawn brwdfrydedd i wneud rhywbeth rhyfeddol a gwneud gwahaniaeth. Mae’n dweud wrthych chi hefyd bod rhywbeth wedi digwydd iddo tra bu yn yr anialwch. Fe ddaeth rhywun ato dair gwaith, rhywun y mae yn ei alw’n ddiafol, ac fe wnaeth y diafol ei demtio dair gwaith. Er hynny, fe lwyddodd i wrthsefyll y demtasiwn. Fyddai neb yn gweld bai arnoch chi am feddwl bod y dyn ifanc yma wedi colli ei bwyll, a bod y gwres a’r diffyg bwyd wedi amharu arno. Sut y gallai hwn fod wedi cael ei demtio gan y diafol?! Allai neb brofi bod yr hyn yr oedd yn ei ddweud yn wir.

  4. Ac eto - yn dilyn profiadau fel hyn, unwaith adeg ei fedydd a’r tri thro yma yn yr anialwch, fe aeth Iesu ar draws ei wlad, ac yn y pen draw i’r brif ddinas, Jerwsalem, i bregethu ac addysgu’r bobl. Fe wnaeth hyn gan roi ei hun mewn perygl a arweiniodd yn y diwedd at ei farwolaeth arswydus ar y groes. Felly, beth oedd y profiadau hyn, a pham yr oedden nhw mor bwysig? Gadewch i ni atgoffa ein hunain o’r hanes.

  5. Darllenydd yn darllen yr adnodau: Mathew 4.1–11 (a nodwyd uchod).

  6. Dyna stori fawr! Rwy’n siwr y byddai’r rhan fwyaf ohonom wedi newid, hyd yn oed ar ôl un o’r digwyddiadau yma. Nid pa un ai ydych chi’n credu a ddigwyddodd y pethau hyn yn llythrennol ai peidio sy’n bwysig, ond y ffordd y gwnaeth Iesu ymateb i’r demtasiwn a oedd yn cael ei gosod o’i flaen, a sut y gweithredodd wedyn ar ôl hynny.

  7. Nid Iesu oedd yr unig un i gael ei demtio. Cyn hynny, fe ddigwyddodd y temtiad enwocaf un yng Ngardd Edern, ac efallai eich bod yn cofio pa mor drychinebus oedd y canlyniad bryd hynny. Doedd Adda ac Efa ddim wedi gallu gwrthsefyll y demtasiwn: fe wnaethon nhw fwyta’r ffrwyth a gynigiwyd iddyn nhw gan y sarff, ac fe arweiniodd hynny at gadwyn o ddigwyddiadau a oedd y tu hwnt i’w rheolaeth. Fe ddigiodd Duw wrthyn nhw am fod yn anufudd iddo, ac fe barodd hynny i ddynoliaeth suddo i bechod, cyflwr pryd y byddwn ni’n gwneud rhywbeth o’i le yn rhy aml. Adda ac Efa, felly, yn ôl y traddodiad, a ddaeth â drygioni a dioddefaint i’r byd. Ac eto, mae Cristnogion yn credu bod Duw wedi anfon Iesu i’r byd. Heddiw, rydyn ni’n gweld Iesu yn yr anialwch a’r diafol yn ei demtio, nid gyda ffrwyth y tro yma ond gyda bara, cyfoeth a grym y tu hwnt i bob dychymyg. Tybed faint ohonom ni fyddai wedi ildio i’r demtasiwn gyntaf, heb sôn am yr ail a’r drydedd waith!

  8. Dydi Iesu ddim yn ildio. Dyma sy’n ei wneud yn rhywun arbennig, ac yn ei wneud y dewis iawn ar gyfer y digwyddiadau sydd o’i flaen. Mae’n gwrthwynebu temtasiwn ac yn dod allan yr ochr arall yn gwybod ei fod yn barod i wneud gwaith Duw. Beth bynnag a ddigwyddodd, fe fu yn yr anialwch dros y 40 diwrnod. A wnaeth y diafol ymddangos iddo ai peidio, neu ai rhywbeth yn ei ddychymyg oedd hyn? Chawn ni byth wybod yn iawn. Yr hyn rydyn ni’n bendant yn ei wybod yw bod Iesu wedi newid ar ôl y profiad a gafodd yn yr anialwch, a bod y newid hwnnw wedi ei arwain i fynd yn ei flaen a gwneud pethau mawr a rhyfeddol  iawn. Felly, yn ystod cyfnod y Garawys eleni, meddyliwch am y profiadau hynny sydd wedi dod i’ch rhan chi, profiadau sydd wedi eich galluogi chi i wneud pethau rhyfeddol, ac yna meddyliwch am yr hyn yr arweiniodd profiadau Iesu iddo’u gwneud wedyn.

Amser i feddwl

Treuliwch foment neu ddwy yn meddwl am y temtasiynau rydych chi’n eu cael yn anodd eu gwrthsefyll.

Sut y gallech chi ddelio â nhw’n well?

Sut y gallech chi helpu eich ffrindiau i ddelio â’r pethau sy’n eu temtio nhw?

Allech chi gydweithio â ffrind i helpu eich gilydd pan fydd pethau’n anodd?

Dyddiad cyhoeddi: Chwefror 2018    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon