Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Bywydau Cudd

gan Brian Radcliffe (addaswyd, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2010)

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Annog myfyrwyr i ystyried eu sensitifrwydd eu hunain i’r hyn all fod yn digwydd ym mywydau pobl eraill.

Paratoad a Deunyddiau

  • Dim angen paratoi deunyddiau.

Gwasanaeth

  1. Mae clirio ty a oedd yn perthyn i berson mewn oed sydd wedi marw’n ddiweddar yn dasg drist ond hefyd yn dasg ddiddorol.  Fyddwch chi byth yn siwr beth ddaw i’r golwg.

    Dychmygwch eich hun yn agor bocs ac yn cael hyd i nifer o ddogfennau hen iawn. Mae un set yn cynnwys lluniau manwl o faneri ac arwyddluniau milwrol, wedi eu cynhyrchu ar gyfer bataliynau o fyddin estron.  Mewn set arall, mae cyfres o nodiadau yn sôn am symudiadau milwyr. Yn olaf, mae yno lythyr swyddogol ar bapur ysgrifennu ffurfiol wedi ei arwyddo gan Gadbennaeth y Lluoedd Arfog Cartref, y Cadfridog Syr Harold Franklyn.

  2. Fe ddigwyddodd y profiad hwn o ddifrif i ddyn o’r enw Richard Sluman wrth iddo geisio cael trefn ar bethau a oedd yn perthyn i’w dad, ychydig ddyddiau yn dilyn angladd ei dad. Ficer cefn gwlad o gymeriad distaw oedd tad Richard Sluman, ac un a oedd yn uchel ei barch yn y pentref lle bu’n gwasanaethu am flynyddoedd lawer. Ond, o ddarganfod y dystiolaeth yn y bocs, roedd yn amlwg ei fod wedi byw bywyd dwbl, cyfrinachol. 

    Yn dilyn peth gwaith ymchwil, fe ddarganfu Richard fod ei dad, yn ystod yr Ail Ryfel Byd, wedi bod yn rhan o fudiad mwyaf ei faint o’r Fyddin Gêl yng Ngorllewin Ewrop; mudiad a oedd wedi cael ei sefydlu yn Ynysoedd Prydain. Ei bwrpas oedd gweithredu fel mudiad tanddaearol y Fyddin Gêl pe byddai’r Almaenwyr wedi llwyddo i oresgyn Ynysoedd Prydain. Er na alwyd ar y mudiad hwn o’r Fyddin Gêl i weithredu, yr oedd wedi ei drefnu’n fanwl tu hwnt, gydag ‘Unedau Arbennig’ wedi eu hyfforddi i frwydro a dymchwel, ynghyd â rhwydwaith soffistigedig grwpiau ‘Dyletswyddau Arbennig’ yn casglu gwybodaeth.  Roedd y rhan fwyaf o’i aelodau’n perthyn i garfannau hyn yn y gymuned, pobl a oedd â rhesymau dilys ganddynt dros deithio’n rhydd yng nghefn gwlad. Roedd y Parchedig Sluman yn gyd-gysylltydd un o’r grwpiau ‘Dyletswyddau Arbennig’ hyn. 

  3. Enghraifft ffuglennol o un â bywyd cyfrinachol felly yw’r cymeriad Clark Kent. Y rhan fwyaf o’r amser mae’n ohebydd eithaf bonheddig ei ymarweddiad, sy’n gwisgo sbectol, yn un cyffredin mewn torf.  Hynny yw, nes y bydd y gair ar led fod rhyw drychineb wedi digwydd, neu fod rhywun angen cael ei achub, neu fod y byd ei hun dan fygythiad. Yna, bydd Clark Kent yn gweddnewid ei hun ac yn troi’n ‘Superman’, gwaredwr popeth sy’n dda a llesol. Pan fydd y broblem wedi ei datrys, mae’n newid ei hun yn ôl i fod yn Clark Kent, ac nid oes unrhyw un yn ymwybodol o’r hyn ddigwyddodd.

  4. Rwy’n credu hefyd bod rhai yma, yn yr ysgol hon, yn byw bywydau cyfrinachol.  

    –  Mae rhai sy’n ddistaw lwyddiannus, y rhai sy’n cilio o olwg y cyhoedd ac sy’n naturiol yn hunan-effeithiol.  Nid yw eu cyraeddiadau o bosib yn amlwg ym myd mabolgampau a pherfformiad, ond er hynny, sy’n gallu cyrraedd safonau uchel iawn. (Efallai y byddwch yn dymuno enwi myfyriwr sy’n enghraifft o’r categori yma.)

    –  Mae rhai sy’n ddistaw haelionus, y myfyrwyr hynny sy’n rhoi eu hamser a’u harian i gefnogi achosion arbennig. Yn aml y cyfan fyddan nhw’n ei dderbyn yw gair o ddiolch gan y rhai y maen nhw’n eu helpu. Weithiau, fyddan nhw ddim hyd yn oed yn cael hynny. (Efallai y byddwch yn dymuno enwi myfyriwr sy’n enghraifft o’r categori yma.)

    –  Ac yna, mae’r myfyrwyr hynny sydd, heb grybwyll unrhyw beth wrth unrhyw un, yn gyfrinachol yn byw bywydau anodd ac astrus, ac efallai yn dioddef yn enbyd. Gall hynny fod o ganlyniad i gyflwr meddygol sy’n achosi poen iddyn nhw neu anabledd. Efallai eu bod fel hyn oherwydd eu bod yn ofalwyr, yn edrych ar ôl eu rhieni neu frodyr neu chwiorydd pan nad oes gefnogaeth arall yn amlwg. (Efallai nad yw’n briodol enwi myfyriwr sy’n enghraifft o’r categori yma.)

    Ac mae hyn i gyd yn digwydd yn gyfrinachol.

  5. Un o’r sgiliau roedd Iesu yn meddu arnyn nhw oedd honno a oedd yn ei alluogi i adnabod unigolion mewn tyrfa. Roedd yn gallu adnabod y pryderon cudd a oedd gan lawer o’r rhai fyddai’n dod i wrando arno a’r rhai y byddai’n derbyn iachâd ac anogaeth ganddo. Fe ganmolodd y wraig dlawd honno a offrymodd yn ddirgel y cyfan o’r arian oedd ganddi i drysorfa’r deml. Roedd yn adnabod y bradwr ymhlith ei ddilynwyr ei hun. Mae hon yn sgil ddefnyddiol iawn.

    Rwy’n siwr bod llawer ohonoch yn gwybod am fywydau cyfrinachol eich gilydd. Rydych hefyd yn gwybod pam y mae’n rhaid i’r bywydau hynny gael eu cadw’n gyfrinachol.  Felly, beth tybed fyddai’r ffordd orau i ymateb iddyn nhw?

    Hyd yn oed os yw rhywun yn dymuno aros yn y dirgel, mae hi bob amser yn ysbrydoliaeth i dderbyn llongyfarchiadau’n breifat. Bydd gair bach o ddiolch i'r rhai hynny sy’n hael yn gallu bod yn addas.  Gyda’r rhai sy’n dioddef, neu dan bwysau wrth ofalu am eraill, bydd yn ofynnol ymateb mewn modd mwy sensitif.  Efallai mai cynnig cefnogaeth yn dawel ar adeg neilltuol, neu ddangos arwydd o empathi, yw’r cyfan fyddai ei angen, ond byddwch yn ofalus na fydd hynny’n achosi embaras.

Amser i feddwl

Treuliwch foment yn ystyried y meddyliau canlynol. Efallai yr hoffech chi eu troi’n weddi:

Byddwch yn ddiolchgar am y rhai hynny sy’n cydnabod yr hyn y byddwch chi’n ei wneud, ac yn cynnig eu canmoliaeth, eu cefnogaeth a’u diolch.

(Saib)

Byddwch yn edifar am beidio â bod yn sensitif i’r hyn sy’n digwydd ym mywydau’r rhai sydd o’ch cwmpas.

(Saib)

Cynlluniwch i wneud rhyw weithred sy’n codi o’r gwasanaeth heddiw. Fe allai hynny, mae’n debyg, fod yn rhywbeth fel dweud y geiriau iawn ar yr adeg iawn. (Saib)

Cân/cerddoriaeth

Cerddoriaeth thema’r ffilm The Dam Busters, ar gael yn rhwydd.
Y gerddoriaeth ‘Nimrod’ allan o Enigma Variations gan Elgar (cyfansoddwyd 1899). Bydd  ‘Nimrod’ yn cael ei chwarae bob amser wrth y Gofadail yn Llundain ar Sul y Cofio.

Dyddiad cyhoeddi: Mehefin 2018    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon