Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Tirnodau

gan Joanne Sincock (addaswyd, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2005)

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Ystyried yr angen i ddewis yn ofalus beth fydd yn dylanwadu arnom ni.

Paratoad a Deunyddiau

  • Dim angen pethau ychwanegol.

Gwasanaeth

  1. Ydych chi wedi bod ar goll ryw dro?  Efallai eich bod wedi bod yng nghar y teulu ryw dro ar eich ffordd i rywle arbennig, i briodas  neu achlysur tebyg, a’r cyfarwyddiadau roeddech chi wedi’u cael heb fod yn hollol glir.  Efallai eich bod wedi mynd rownd dro ar ôl tro yn chwilio am arwyddion i’ch cyfeirio at y lle, ac wedi gwastraffu amser yn chwilio am nad oedd yr arwyddion yno.

  2. Os bydd rhywun yn rhoi cyfarwyddiadau i chi ar sut i gyrraedd rhywle sy’n anghyfarwydd ichi, fel rheol mae’n haws dod o hyd i’ch ffordd trwy chwilio am dirnodau neilltuol:  ‘Ewch heibio’r Llyfrgell, trowch i’r chwith wrth Westy’r Afr, ac wedyn i’r dde wrth y bocs postio … os cyrhaeddwch chi Neuadd y Dref, yna fe fyddwch chi’n gwybod eich bod wedi mynd yn rhy bell.’

  3. Mae tirnodau’n bwysig iawn pan fyddwn ni ymhell oddi cartref, ond fe allan nhw fod yr un mor bwysig pan fyddwn ni o gwmpas cartref hefyd.  Os byddwn ni wedi cerdded adref o bell, fe fydd gweld adeilad cyfarwydd, neu efallai goeden neilltuol, yn ein cysuro ein bod bron â chyrraedd pen y daith.

  4. Felly, mae tirnodau yn ein helpu nid yn unig gyda chyfarwyddiadau, ac yn rhoi sicrwydd i ni wrth deithio, ond maen nhw hefyd yn ein helpu yn y ffordd rydyn ni’n byw ein bywydau.

  5. Mae arnom ni angen rhywbeth i’n harwain wrth benderfynu ynghylch:

    - sut i ymddwyn
    - sut i drin pobl eraill, a
    - beth sy’n iawn a beth sydd ddim yn iawn.

  6. Os byddwn ni’n dilyn unrhyw dueddiadau a ffasiynau yn anystyriol, fe allen ni golli ein syniad o hunaniaeth, a pha un yw’r ffordd orau i ymddwyn. Mae arnom ni angen rhywbeth neu rywun i fod yn dirnod i ni, tirnod y gallwn ni bob amser edrych arno os yw bywyd weithiau’n mynd yn anodd neu’n ansicr.

  7. Fe allai’r tirnodau yma fod yn aelodau o’n teulu, yn ffrindiau neu athrawon.  Neu fe allen nhw fod yn bethau haniaethol fel ein hatgofion, ein cred a’n cydwybod.  I Gristnogion, mae athrawiaethau’r Beibl yn cynrychioli tirnod pwysig iawn, sy’n eu cyfarwyddo a’u cyfeirio, ac yn eu sicrhau trwy gydol eu bywydau.

  8. Dyma stori sy’n dweud hanes rhywun gollodd ei gyfeiriad oherwydd ei fod wedi methu dewis tirnod addas:

    Yn y dyddiau a fu, pan oedd ffermwyr yn aredig eu tir gydag aradr oedd yn cael ei thynnu gan geffylau, roedd yn bwysig iawn yn eu golwg i geisio troi'r tir mewn llinellau syth.  Roedd hi’n grefft i greu cwysi unionsyth ar hyd y cae.

    Roedd bachgen ifanc o’r enw Tom wedi’i anfon allan i’r cae i aredig am y tro cyntaf.  Ond er trio’i orau glas, ni allai yn ei fyw gadw’r cwysi yn union.  Yn wir, ar ôl awr neu ddwy roedd y cwysi yn ffurfio patrwm tebycach i’r llythyren S, na llinellau unionsyth.

    Ar ôl cinio aeth Tom i chwilio am un o’r hen weision oedd wedi gweithio ar hyd ei oes ar y fferm.  Yr Hen Ned fyddai pawb yn ei alw. Roedd yr Hen Ned wedi dysgu’r grefft o aredig y tir gyda’r aradr yn cael ei thynnu gan ddau geffyl, ac wedi bod wrthi bob gwanwyn, ar hyd y blynyddoedd, yn aredig y tir. Aeth Tom i ofyn ei farn.  Ateb yr Hen Ned i Tom oedd, ‘Chwilia di am rywle neu rywbeth yn y pellter i edrych arno pan fyddi di’n aredig.  Cadw di dy lygad ar hwnnw, ‘ngwas i, a dal di i gerdded tuag ato bob tro.  Wedyn fe fydd dy gwysi di’n syth.’

    Ac i ffwrdd â Tom am y cae i orffen troi’r tir, gan gofio geiriau’r Hen Ned.


    Ond erbyn diwedd y pnawn roedd llinellai Tom yn fwy igam-ogam nag erioed.

    Y noson honno, fe aeth i chwilio am yr Hen Ned unwaith eto, ac egluro iddo, er ei fod wedi dilyn ei gyngor ac wedi gwneud yn union fel roedd Ned wedi awgrymu, roedd wedi methu’n glir â chreu llinellau syth.

    Cododd yr hen was ei aeliau ac edrych yn feddylgar i’r pellter gan ofyn i Tom:

    ‘Wnest ti gadw dy olwg ar y nod?  Ar beth roeddet ti’n edrych Tom?’

    ‘Wel,’ atebodd y bachgen ifanc, ‘roedd yno fuwch ddu yn pori yn y cae nesaf, Ned, ac fe wnes i edrych ar honno.’

    Gwenodd Ned ac ysgwyd ei ben.

  9. Fel Tom druan yn y stori, byddwch yn ofalus pa dirnodau rydych chi’n eu dewis yn eich bywyd.

Amser i feddwl

Myfyrdod:
Dad Hollalluog,
Bydd di yn dirnod i ni ar ein taith trwy fywyd.
Helpa ni i gerdded yn y goleuni
Ac i aredig cwysi unionsyth,
Fel y byddwn ni’n cyrraedd yn ôl yn ddiogel atat ti.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Mehefin 2018    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon