Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Pwy Ydych Chi’n Feddwl Ydych Chi?

gan Helen Levesley (addaswyd, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2008)

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Ydi’r myfyrwyr yn gwybod pwy ydyn nhw o ddifrif?  Os nad ydyn nhw, pwy maen nhw’n feddwl ydyn nhw, ac a yw hynny’n newid yn dibynnu ar bwy sydd o’u cwmpas?

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fyddwch chi angen un darllenydd.
  • Efallai yr hoffech chi chwarae cerddoriaeth un o ffilmiau Harry Potter wrth i’r myfyrwyr adael y gwasanaeth.  Mae’r rhain ar gael i’w llwytho i lawr.

Gwasanaeth

  1. Tybed sawl un ohonoch chi sydd wedi gwylio rhaglen Who Do You Think You Are? y BBC, sy’n dilyn taith pobl enwog amrywiol wrth iddyn nhw chwilio drwy hanes eu teulu?  Mae’r rhaglen yn eu dilyn wrth iddyn nhw ddarganfod pob math o ddatguddiadau a/neu gyfrinachau’r teulu.

    Pwy fyddai wedi dyfalu bod Boris Johnson, maer Llundain, yn perthyn o bell i’r Brenin Siôr III?  Neu fod rhieni cu Jerry Springer wedi cael eu lladd yn geto Lodz yn ystod y rhyfel?  Neu fod cysylltiad rhwng Barbara Windsor a’r arlunydd enwog William Turner?  Neu fod hen, hen daid Ainsley Harriott yn fasnachwr caethweision gwyn yn Barbados?

  2. Dangoswyd nifer o enwogion eraill yn ymchwilio eu coeden deulu.  Roedden nhw’n mynd ar daith a oedd yn aml yn llawn rhyfeddodau ac weithiau’n emosiynol, wrth iddyn nhw ddod o hyd i deulu nad oedden nhw erioed yn gwybod eu bod nhw’n bodoli, a dod o hyd i gyfrinachau nad oedd ganddyn nhw syniad eu bod nhw yno.  Yn amlach na pheidio, roedden nhw’n darganfod nad y bobl roedden nhw’n meddwl eu bod oedden nhw.

  3. Mae’r rhaglenni hyn yn cael effaith ryfedd ar y gwyliwr.  Rydym yn gwylio pobl y credwn ein bod ni’n eu hadnabod (o’r hyn a welwn ar y teledu), ond maen nhw’n rhywun cyfan gwbl wahanol mewn gwirionedd.  Mae ein rhagfarnau a’n safbwyntiau am yr unigolyn hwnnw neu honno yn cael eu rhoi ar brawf, ac yn aml mae’n ein gadael ni yn gofyn yr un cwestiwn.  Pwy ydw i?

  4. Hwn yw un o’r cwestiynau mwyaf i’w ofyn.  Pwy ydw i?  Meddyliwch am y cwestiwn hwnnw am eiliad.  Mae’n un y mae’r ddynolryw wedi pendroni yn ei gylch ers dechrau amser.  Dywedodd yr athronydd enwog, Descartes: ‘Rwy’n meddwl, felly rwy’n bodoli.’  Ond sut mae hynny’n ein helpu ni?

    Yr hyn roedd o’n ei ddweud oedd, oherwydd ei fod yn meddwl, yna mae’n rhaid ei fod yn bodoli.  Mae’n rhywbeth y gallwn ni dreulio amser hir yn meddwl amdano.  Yr wyf yr hwn wyf fi.  Ond ai fy ngwedd allanol rydw i’n ei dangos i’r byd, ynteu a oes rhagor o’r hunaniaeth fewnol yn rhan o’r peth?

    Ai sut rydw i’n edrych yw’r hyn ydw i?  Ai fy nheulu ydw i, a’r holl ddylanwadau sydd ganddyn nhw arna i?
    Ai fy mherthynas â phobl eraill, a’r ffordd rydw i’n ymwneud â nhw, yw’r hyn ydw i?
    Ai'r hyn ydw i’n ei wneud yw’r hyn ydw i?  Ac a yw hynny yn fy niffinio i?  Rydw i’n amau’n fawr y gwelwch chi lun ohonof i os ewch chi i chwilio am y gair ‘athro’ yn y geiriadur!
    Neu, ai ein penderfyniadau ni sy’n ein gwneud ni'r hyn ydym ni, neu hyd yn oed ein crefydd?

  5. Mae crefyddau yn rhoi enghreifftiau da i ni o bobl sydd wedi ymboeni am bwy ydyn nhw.  Cafodd Sant Paul brofiad a newidiodd ei fywyd ar y ffordd i Ddamascus, ac yn hytrach na bod yn rhywun a erlidiai Gristnogion, daeth yn un o’u pobl mwyaf dylanwadol, yn lledaenu’r efengyl yn eang ac ymhell.

    Yn yr un modd, bu’n rhaid i Abraham, a ddaeth yn sylfaenydd tair o’r prif grefyddau - Iddewiaeth, Cristnogaeth ac Islam - wneud rhai penderfyniadau a dewisiadau a fyddai’n newid pwy oedd o.  Yn nodedig, bu’n rhaid iddo fod yn barod i gynnig ei fab Isaac fel aberth.

  6. Mae dewiniaid, hyd yn oed, yn cael problemau.  Gadewch i mi dynnu eich sylw at y darn hwn yn Harry Potter and the Chamber of Secrets.

    Gofynnwch i’ch darllenydd ddarllen y darn canlynol o dudalen 245 y rhifyn clawr meddal (ISBN 0-7475-3848-4): llinell 11 (‘So I should be in Slytherin …’) hyd at linell 24 (‘… far more than our abilities.’).

Amser i feddwl

Ein penderfyniadau sy’n dangos i ni pwy ydym mewn gwirionedd, yn llawer mwy na’n galluoedd.  Tybed a yw hynny’n gwneud synnwyr i chi?  Pa ddewisiadau ydych chi wedi eu gwneud?  Maen nhw i gyd wedi eich arwain chi at y fan lle’r ydych chi, ac yn y pen draw, hynny sy’n eich gwneud chi'r hyn ydych chi.

Mae pob dewis rydw i wedi ei wneud, pa un ai rhai da neu rai drwg, wedi fy arwain i at fan hon, ac ar y cyfan fe fyddwn i’n dweud fy mod i’n eithaf bodlon â hynny.

Felly, petawn i’n gofyn i chi eto, pwy ydych chi’n feddwl ydych chi?, does gen i ddim amheuaeth y byddem yn cael nifer o atebion gwahanol, yn union fel y bobl enwog ar y rhaglen deledu.  Ac eto, bydd yr ateb hwnnw yn gynhenid i chi.  Oherwydd, pwy bynnag ydych chi’n feddwl ydych chi, a’r holl ffasedau sydd ynghlwm â hynny, chi ydych chi, a phetawn i’n chi, fe fyddwn i’n falch o fod yr unigolyn unigryw a disglair hwnnw.

Gweddi neu fyfyrdod
Pwy ydw i?  Rydw i’n nifer o bethau.
Fy rhieni, fy ffrindiau, hyd yn oed y gerddoriaeth rydw i’n ei chanu.
Pwy ydych chi?  Gyda’r gyfrinach hon y tu mewn i chi, helpwch i sylweddoli, ac agor y drws yn llydan, fel y gallaf weld, y fi sy’n ffantastig a hudol.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Gorffennaf 2018    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon