Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Canlyniadau

gan Annaliese Renda (addaswyd, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2006)

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Helpu i ddeall sut y gallai ein gweithredoedd effeithio ar bobl eraill a phethau eraill.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen y gêm Jenga, wedi’i gosod yn barod ar fwrdd, a dau wirfoddolwr.  Efallai y byddai’n well peidio defnyddio’r holl flociau rhag mynd â gormod o amser yn y gwasanaeth – mae’n bosib y byddai tua chwarter y blociau’n ddigon am y tro.  Os nad yw’r gêm Jenga gennych chi, fe allai’r gêm, Kerplunk neu Buckaroo wneud y tro yr un fath o fewn cyd-destun y gwasanaeth.

Gwasanaeth

  1. Dechreuwch y gwasanaeth trwy ofyn am ddau wirfoddolwr o’r gynulleidfa.  Eglurwch iddyn nhw a’r gynulleidfa sut mae’r gêm Jenga yn gweithio.  Y syniad yw bod yn rhaid tynnu’r blociau’n ofalus, fesul un o’r pentwr, a’u gosod ar y top wedyn.  Yr un sy’n achosi i’r twr chwalu yw’r un sy’n colli’r gêm.

  2. Tra mae’r ddau wirfoddolwr yn chwarae’r gêm, fe allwch chi sgwrsio â’r gynulleidfa gan egluro mai gêm sy’n dibynnu ar ganlyniadau yw Jenga, ac y gallai unrhyw symudiad neilltuol gan un o’r ddau chwaraewr beri i’r pentwr ddisgyn.

  3. Ewch ymlaen i awgrymu nad mewn gêm fel hon yn unig y mae gweithredoedd neilltuol yn gallu achosi canlyniadau.  Gall gweithredoedd unigol effeithio ar sefyllfaoedd mewn bywyd hefyd.

  4. Er enghraifft, os na fyddwch chi’n edrych i bob cyfeiriad cyn croesi’r ffordd, mae’n bosib y byddwch chi’n cael eich taro gan gar.  Fe allai hynny olygu eich bod yn cael eich anafu’n ddrwg, neu hyd yn oed yn cael eich lladd.  Neu, os na fyddwch chi’n ymdrechu i wneud eich gorau yn eich gwaith, efallai na fydd gennych chi gymaint o ddewis pan ddaw hi’n amser i feddwl am yrfa yn nes ymlaen yn ystod eich bywydau. A beth am yr amgylchedd? - Bob tro y byddwn ni’n teithio taith fer mewn car yn hytrach na cherdded, neu’n methu ailgylchu rhywbeth y mae’n bosib ei ailgylchu, rydyn ni’n cyfrannu at y dirywiad yn ein hamgylchedd.

  5. Cadwch eich golwg ar y ddau sy’n chwarae’r gêm, yna ewch ymlaen i drafod â’ch cynulleidfa pa benderfyniadau unigol eraill sy’n gallu effeithio ar sefyllfaoedd mewn bywyd.

  6. Os yw’r ddau yn dal i chwarae, ceisiwch barhau’r drafodaeth, neu fe allech chi , ‘yn ddamweiniol’ daro yn erbyn bwrdd y gêm gan chwalu’r twr Jenga, a pheri i’r gêm ddod i ben.  Fe fyddwch chi wedyn wedi rhoi eich hunan mewn sefyllfa y mae gweithred benodol wedi effeithio arni hefyd.

Amser i feddwl

Myfyrdod:

‘Mewn natur, does dim gwobr na chosb, dim ond canlyniadau’ - addasiad o ddyfyniad gan Robert Green Ingersoll - ‘In nature there are neither rewards nor punishments; there are consequences.’
 

‘Er ein bod yn rhydd i ddewis ein gweithredoedd, nid ydym yn rhydd i ddewis canlyniadau ein gweithredoedd’ - addasiad o ddyfyniad gan Stephen R. Covey - ‘While we are free to choose our actions, we are not free to choose the consequences of our actions.’

‘Wnaeth neb erioed, a wnaiff neb byth, ddianc rhag canlyniadau ei ddewisiadau’ - addasiad o ddyfyniad gan Alfred A. Montapert - ‘Nobody ever did, or ever will, escape the consequences of his choices.’

Gweddi:
Annwyl Dduw,
Fel mae pob dydd yn mynd heibio, rho i mi'r nerth
a’r dewrder i ddeall pa effaith
y mae canlyniadau fy ngweithredoedd yn ei gael ar eraill neu arnaf fi fy hun.

Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Awst 2018    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon