Stiwardiaeth
Ystyried ein cyfrifoldeb tuag at y Ddaear.
gan Dan Rogers (addaswyd, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2008)
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Uwchradd)
Nodau / Amcanion
Ystyried ein cyfrifoldeb tuag at y Ddaear.
Paratoad a Deunyddiau
- Fe allech chi drefnu bod un darllenydd yn paratoi ar gyfer darllen Salm 24.1.
- Llwythwch i lawr y gân ‘Fragile’, gan Sting.
- Fe fyddai hefyd yn ddefnyddiol pe byddech wedi gallu llwytho i lawr luniau o’r eitemau y byddwch chi’n eu trafod, a’u taflunio ar yr adeg y byddwch chi’n siarad amdanyn nhw.
Gwasanaeth
- Mae’r gwasanaeth heddiw’n ymwneud â stiwardiaeth. Oes rhywun yn gwybod beth yw ystyr y gair ‘stiwardiaeth’?
Mae stiwardiaeth yn hen air. Mae mor hen, doedd dim gair yn golygu’r un peth yn y thesawrws sydd gennyf ar fy nghyfrifiadur! A dyma’r ystyr yn y gwasanaeth hwn heddiw:
Os oes rhywun yn berchen ar ystâd fawr, ac ef neu hi ddim yno i ofalu am y lle ac i reoli’r ystâd eu hunain, fe fyddan nhw’n cyflogi rhywun y bydden nhw’n ei alw’n stiward, i ofalu am yr ystâd fel petai’n eiddo iddo ef neu hi ei hun. Stiwardiaeth yw sut rydyn ni’n gofalu am y pethau sydd mewn gwirionedd yn perthyn i rywun arall. - Er enghraifft: fyddech chi’n rhoi benthyg eich X-BOX 360 i rywun arall? Sut byddech chi’n teimlo pe bai’r unigolyn hwnnw ddim yn gofalu amdano’n iawn ar ôl i chi roi ei fenthyg iddo?
Pe bai chi’n berchen ar gar, VW Polo, er enghraifft, fyddech chi’n rhoi ei fenthyg i rywun? Sut byddech chi’n teimlo pe bai’r unigolyn hwnnw ddim yn gofalu amdano’n iawn?
Sut byddech chi’n teimlo pe byddech chi’n rhoi benthyg eich nodiadau cwrs i rywun, a bod hwnnw neu honno’n ysgrifennu drostyn nhw i gyd? Neu, sut byddech chi’n teimlo pe byddech chi’n rhoi benthyg dillad i rywun a’u bod yn fudr pan gewch chi nhw’n ôl? Neu efallai y byddech chi wedi gofyn i rywrai ofalu am eich cath tra byddech chi ar eich gwyliau, a hwythau wedi anghofio rhoi bwyd iddi? - Pe byddai’r Ddaear yn eiddo i chi, fyddech chi wedi rhoi’r cyfrifoldeb ar fodau dynol i ofalu amdani? Sut byddech chi’n teimlo am y cyflwr y mae’r byd ynddo erbyn hyn o ganlyniad i fodau dynol yn ei thrin yn anghyfrifol?
Amser i feddwl
Myfyrdod
Darllenwch Salm 24.1: ‘Eiddo’r Arglwydd yw’r ddaear a’i llawnder, y byd a’r rhai sy’n byw ynddo.’
Mae Cristnogion yn credu bod hyn yn wir. Rydyn ni’n dangos parch at ein ffrindiau trwy ofalu am y pethau sy’n perthyn iddyn nhw, ac mae Cristnogion yn credu ein bod yn dangos parch at Dduw trwy ofalu am y ddaear y mae ef wedi’i rhoi i ni i fyw ynddi.
Ydyn ni’n ofalgar? Am eraill, ac am Dduw? Dydyn ni ddim yn hapus pan fydd pobl eraill yn esgeulus wrth ein trin ni a’n heiddo, am eu bod methu dangos parch tuag atom ni. Gadewch i ni benderfynu rhoi’r math o barch i eraill yr hoffem ni iddyn nhw ei roi i ni, a rhoi i Dduw’r parch y mae’n ei haeddu.
Gweddi
(Efallai yr hoffech chi chwarae’r gerddoriaeth cyn y weddi.)
‘Eiddo’r Arglwydd yw’r ddaear a’i llawnder, y byd a’r rhai sy’n byw ynddo.’
Helpa ni i barchu’r ddaear:
I ofalu amdani a gofalu am ein gilydd.
I ddefnyddio dim ond yr hyn y mae arnom ni ei angen, nid yr hyn rydyn ni ei eisiau.
I ystyried anghenion pobl sy’n byw ymhell oddi wrthym a’r bobl sy’n byw’n agos atom.
Helpa ni i gofio mai dy eiddo di yw’r ddaear, ar fenthyg gennym ni.
Amen.