Rosh Hashanah
gan Helen Levesley (addaswyd, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2009)
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Uwchradd)
Nodau / Amcanion
Deall pwrpas yr wyl Iddewig Rosh Hashanah, ac ystyried y cwestiynau y bydd Iddewon yn eu gofyn yr adeg hon o’r flwyddyn.
Paratoad a Deunyddiau
- Fe allwch chi ddefnyddio darllenwyr, neu arwain y gwasanaeth eich hun.
Gwasanaeth
- Rwy’n siwr y byddwch i gyd yn cofio ble roeddech chi Nos Galan, neu noson olaf y flwyddyn, y llynedd. Efallai eich bod yn dechrau meddwl eisoes lle byddwch chi am dreulio’r Noswyl Galan nesaf. Yn achos y rhan fwyaf o bobl, mae’r noson yn golygu aros ar eu traed yn hwyr, naill ai mewn parti neu gartref, er mwyn croesawu’r Flwyddyn Newydd am hanner nos.
Allwch chi gofio pa addunedau wnaethoch chi? Faint ohonyn nhw wnaethoch chi lwyddo i’w cadw hyd yma? (Pe byddech chi’n holi - ychydig iawn, mae’n debyg.) Allwch chi gofio beth oeddech chi am geisio’i wneud yn well? Mae’n bosib na fydd llawer o’r myfyrwyr yn cofio, ac mae’n debygol iawn na chafodd yr addewidion eu cadw’n hir. - Heddiw, fe hoffwn i siarad am y Flwyddyn Newydd Iddewig, Rosh Hashanah, sy’n llythrennol yn golygu, ‘Pen y Flwyddyn’. Mae Rosh Hashanah yn digwydd yn ystod y mis Iddewig, Tishri, sy’n digwydd o gwmpas mis Hydref neu Dachwedd yn ein calendr ni.
Mae’n wyl Iddewig bwysig iawn oherwydd, er ei bod yn ddathliad, mae’n ymwneud ag addewidion difrifol ac ystyriaeth ddifrifol am y flwyddyn a aeth heibio. Mae’n darparu adeg er datblygiad a myfyrdod personol, ac mae’n rhoi amser i bobl aros a ‘bod’ - rhywbeth y mae ein cymdeithas ni heddiw yn rhoi ychydig iawn o gyfle i bobl ei wneud. - Bydd Iddewon ledled y byd yn treulio’r amser o gwmpas eu Blwyddyn Newydd mewn cyfnodau o fyfyrdod. Mae’n adeg i bobl feddwl am beth o ddifrif yw eu blaenoriaethau. Mae’n adeg i ofyn cwestiynau difrifol am eu gweithredoedd trwy’r flwyddyn flaenorol.
Rwy’n mynd i ddarllen pum cwestiwn y mae’r Iddewon yn eu gofyn iddyn nhw’u hunain. Wrth i mi ofyn y cwestiynau, fe hoffwn i chi gymryd peth amser i’w hystyried ar eich lefel bersonol eich hun. Fe fyddaf yn gadael cyfnod byr o ddistawrwydd rhwng pob cwestiwn.
– Beth yw’r peth mwyaf ystyrlon yn fy mywyd i?
– Pwy yn fy mywyd sy’n golygu mwyaf i mi? Pa mor aml yr ydw i’n gadael i’r unigolyn hwnnw wybod hyn?
– Beth yw’r pethau mwyaf arwyddocaol rydw i wedi eu cyflawni yn ystod y flwyddyn ddiwethaf?
– Beth ydw i’n gobeithio ei gyflawni yn ystod y flwyddyn nesaf, ac yn fy mywyd yn gyffredinol? - Yn ystod Rosh Hashanah bydd Iddewon yn treulio llawer o’u hamser yn y synagog. Mae’r gwasanaethau’n canolbwyntio, nid yn unig ar Dduw a’i frenhiniaeth, ond hefyd fe fydd y bobl yn treulio’u hamser yn meddwl yn dawel am yr hyn y maen nhw wedi ei wneud dros y flwyddyn flaenorol, ac yn gofyn am faddeuant am eu pechodau.
Oes unrhyw beth y gallwch chi feddwl amdano, a wnaethoch chi yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, yr hoffech chi gael maddeuant amdano. Fe allai fod yn weithred gas neu’n air cas a ddywedwyd wrth rywun. Allwch chi ddweud ei bod hi’n ddrwg gennych chi? Gadewch i ni gymryd amser i wneud hynny’n awr. - Er bod Rosh Hashanah yn amser i fyfyrio. Nid yw’n amser trist drwyddo draw. Mae’r Flwyddyn Newydd yn adeg o obaith, ac ar ôl bod yn y synagog, mae’r teuluoedd Iddewig yn mynd yn ôl adref i fwynhau pryd o fwyd. Maen nhw’n trochi darn o afal neu fara mewn mêl, fel arwydd o flwyddyn newydd felys i ddod, a’r gobaith sydd i ddod gyda hi.
Meddyliwch am ddechrau’r flwyddyn ysgol hon - pa obeithion sydd gennych chi ar gyfer y flwyddyn?
Yn achos pobl Iddewig, o fewn eu holl ystyriaethau mae yno’r gobaith y byddan nhw’n ceisio gwneud yn well yn y flwyddyn sydd i ddod nag a wnaethon nhw yn y flwyddyn flaenorol. Mae hynny’n rhywbeth y gallai pob un ohonom anelu ato.
Amser i feddwl
Gweddi
Gan gofio’r cwestiynau a ofynnwyd ar y dechrau:
Gad i mi weld beth yw’r peth mwyaf ystyrlon yn fy mywyd, a gad i mi fod yn ddiolchgar amdano.
Gad i mi ddweud wrth yr unigolyn, neu’r bobl bwysicaf yn fy mywyd, faint rydw i’n eu caru a’u gwerthfawrogi. Atgoffa fi i ddweud hynny wrthyn nhw mor aml ag y gallaf.
Helpa fi i weld fy nghyflawniadau fel rhai arwyddocaol, ac i fod yn falch ohonyn nhw, oherwydd mai fy llwyddiannau i ydyn nhw.
Rho obaith i mi ar gyfer y dyfodol, ac am fywyd yn gyffredinol, gan obeithio y bydd yn felys ac y byddaf yn gallu edrych yn ôl arno gyda hoffter.