Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Don't give up

Peidiwch  Rhoi’r Gorau Iddi

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Gwasanaeth

Flynyddoedd lawer yn ôl roedd melinydd gwledig a chanddo asyn. Byddai’r asyn yn ei helpu i droi’r maen mawr yn y felin. Roedd yr asyn yn mynd yn hen, ac un diwrnod fe glywodd y melinydd fod yr hen asyn wedi disgyn i lawr twll hen ffynnon yn y pentref. Roedd y ffynnon wedi sychu ac nid oedd neb yn ei defnyddio. Er i’r asyn nadu’n dorcalonnus am oriau, roedd y melinydd wedi penderfynu nad oedd fawr o bwrpas gwastraffu amser nac egni yn ceisio’i achub. Doedd yn hen asyn ddim llawer o werth iddo erbyn hynny, beth bynnag. Fe fyddai’n haws iddo brynu asyn newydd ifanc. Roedd yr hen ffynnon wedi bod yn wag a sych ers rhai blynyddoedd. A dweud y gwir, roedd hi’n syndod nad oedd neb wedi syrthio i mewn iddi cyn hyn, meddyliodd. Beth pe byddai plentyn bach wedi syrthio i mewn iddi? Ac wrth feddwl fel hyn, cafodd y melinydd syniad.

Gofynnodd i’w ffrindiau a’i gymdogion ddod i’w helpu i lenwi’r hen ffynnon â cherrig a rwbel, a thrwy hynny fe allen nhw gladdu’r hen ful hefyd. Wedi’r cyfan dyna’r peth mwyaf ymarferol y gallen nhw’i wneud dan yr amgylchiadau. Daeth pawb â’i raw a dechrau llenwi’r twll â cherrig a phridd. Roedd yr asyn yn deall beth oedd yn digwydd, a dechreuodd nadu’n dorcalonnus eto. Yna, yn sydyn, ac er syndod i bawb fe beidiodd y nadu. Credai’r bobl fod yr asyn wedi rhoi’r gorau iddi gan wybod nad oedd pwrpas iddo nadu rhagor.

Daliodd y bobl i rofio’r pridd i mewn i’r hen ffynnon, ac ymhen ychydig edrychodd y melinydd i lawr i weld faint rhagor o waith llenwi oedd ar y twll. A dyna syndod gafodd pan welodd beth oedd yn digwydd. Gyda phob llond rhaw o bridd a ddisgynnai ar ei gefn, fe wnâi’r asyn beth rhyfeddol. Roedd yn ysgwyd y pridd oddi ar ei gefn ac yna’n sefyll arno.

Daliai’r bobl i rofio’r pridd ar ei gefn, a daliai’r hen asyn i’w ysgwyd i ffwrdd a chamu arno, fesul cam yn uwch ac yn uwch. Ymhen amser yr oedd swm anferth o bridd wedi’i daflu i mewn ac roedd yr hen ffynnon bron â’i llenwi. Ac ymhen ychydig, er mawr syndod i bawb oedd yno, fe ddaeth yr asyn i’r golwg, ac fe neidiodd allan yn fyw ac yn iach a cherdded oddi yno’n llawen!

Trwy gydol ein bywydau, fe fydd rhywun yn debyg o daflu pridd a baw tuag atom ninnau hefyd. Y peth pwysig i’w wneud yw goresgyn hyn trwy ei daflu i ffwrdd oddi ar ein cefnau a’i ddefnyddio i gymryd cam yn uwch bob tro. Meddyliwch am y pethau sy’n ein poeni fel cerrig camu sy’n ein helpu i fynd yn ein blaenau. Fe allwn ni ddod o hyd i’r ffordd allan o’r ffynhonnau neu’r pydewau dyfnaf trwy ddal ati a pheidio â rhoi’r gorau iddi!

Dyddiad cyhoeddi: Chwefror 2005    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon