Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Y Neges

Ystyried pwysigrwydd dal ati , a gwerth cyfathrebu.

gan Stuart Yeates

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Ystyried pwysigrwydd dal ati , a gwerth cyfathrebu.

Paratoad a Deunyddiau

  • Efallai yr hoffech chi ymarfer y Cod Morse.

Darlleniad o’r Beibl

Numeri 23.23

Gwasanaeth

  1. Dychmygwch fyd heb deledu, ffôn, e-bost na rhyngrwyd.  Yr unig ffordd o gyfathrebu â phobl eraill yng ngwahanol wledydd y byd fyddai trwy lythyr neu drwy siarad wyneb yn wyneb â nhw.

  2. Yn 1830, fe gymerai 5–8 mis i lythyr o Brydain gyrraedd India! Dychmygwch hynny – erbyn y byddech chi’n clywed newyddion am rywbeth oedd wedi digwydd ym mhen arall y byd, doedd y digwyddiad hwnnw’n ddim ond atgof bron gan y bobl oedd yn ymwneud â’r peth.  Erbyn 1879, fe allech chi anfon telegram fyddai’n cyrraedd Bombay mewn 5 awr.  Roedd hynny’n welliant sylweddol iawn, ond eto doedd y neges ddim yn cyrraedd ar ei hunion yn hollol.

  3. Y ddyfais a’i gwnaeth hi’n bosib i ni gael negeseuon oedd yn cael eu trosglwyddo’n gyflym oedd y telegraff, a’r un a ddyfeisiodd y telegraff oedd Samuel Morse, yn 1844.  Dyfeisiodd Morse fath o god arbennig hefyd, wedi’i wneud o ddotiau a llinellau toriad, yr oedd yn bosib ei anfon ar hyd gwifren delegraff, a’r cod yn cael ei ddatgodio, neu ei ddatrys, ar y pen arall.

  4. Er enghraifft:
    (tapiwch y neges Cod Morse yma: . . . .   .   .–. .    .–. .   – – –  ). 
    ‘Hello’ yw’r neges yma, mewn Cod Morse.

  5. Mab i weinidog Cristnogol oedd Samuel Morse, a byddai wrth ei fodd yn astudio’r Beibl. Sefydlodd Samuel un o ysgolion Sul cyntaf America, ac ef oedd ei harweinydd.

  6. Yn 1818, pan oedd yn 27 oed, fe briododd â merch o’r enw Lucretia. Saith mlynedd yn ddiweddarach aeth i Washington DC i weithio fel arlunydd. Ond, oherwydd diffyg cyfathrebu cyflym, roedd Lucretia wedi marw ac wedi’i chladdu cyn i Samuel Morse dderbyn y llythyr oedd yn rhoi gwybod iddo bod ei wraig yn wael. Sbardunodd y drasiedi hon Samuel i ddod o hyd i ffordd gyflym o drosglwyddo newyddion.

  7. Ond cyn gallu cyflawni ei ddyfais, bu sawl peth yn rhwystr i Morse.  Er enghraifft, yn ystod ei arddangosiad cyntaf o’r telegraff, yn 1842, roedd wedi gosod gwifren ar draws harbwr yn Efrog Newydd, ond cyn iddo allu cwblhau ei drosglwyddiad, fe fachodd angor llong yn y wifren a’i thorri.

  8. O'r diwedd, yn 1844, fe gododd Morse gyfres o wifrau oedd yn rhedeg uwchben, rhwng Washington DC a Baltimore, a  throsglwyddo’r neges: ‘What hath God wrought!’ Dyma eiriau wedi’u cymryd o lyfr Numeri yn y Beibl, ‘Gwaith Duw yw hyn.’ Dywedodd  Morse mai gwaith Duw oedd y telegraff. Dywedodd fod Duw wedi ei gynnal a’i gario bob cam trwy ei holl dreialon ac wedi ei alluogi i orchfygu pob math o anawsterau, ffisegol a moesol, oedd yn ei rwystro rhag cyflawni ei waith.’

  9. Dyma sut y swniai’r neges honno gafodd ei throsglwyddo gyntaf erioed trwy gyfrwng y telegraff (tapiwch y neges):
    .– –   . . . .   . –   –  / . . . .   .–   –  . . . .  /  – –.   – – –   –. .  /  .– –   .–.    – – –   . .–   – –.   . . . .   –    . .– –. .

  10. Wedi clywed neges Morse, sef ‘Gwaith Duw yw hyn’  neu ‘What has God wrought’, fe wnaeth y bobl ymateb mewn sawl ffordd.  Ar y pryd, roedd rhai yn hyderus mai rhodd gan Dduw oedd y telegraff er mwyn datblygu cyfathrebu mwy effeithiol yn gymunedol ac yn fyd-eang, roedd rhai eraill yn amheus ac yn sinigaidd iawn.

  11. Er hynny, tra roedd rhai yn hyderus a rhai yn amheus, roedd nifer fach o rai oedd yn gallu gweld ymhell yn ymwybodol o botensial y dechnoleg newydd.

  12. Trwy ymdrechion pobl fel Samuel Morse, oedd yn parhau yn ffyddiog ac a ddaliodd ati yn wyneb llawer iawn o anawsterau, rydyn ni’n gallu mwynhau defnyddio pob math o ddulliau cyfathrebu ac yn gallu cael mynediad at ffynonellau gwybodaeth di ben draw. Mae enghreifftiau o rieni yn dod o hyd i atebion meddygol doedd eu meddyg teulu ddim yn gwybod amdanyn nhw. Gall pobl gysylltu â gwasanaethau brys, dod o hyd i ffrindiau neu aelodau o’u teuluoedd roedden nhw wedi colli cysylltiad â nhw,  a hefyd addysgu pobl eraill sy’n byw mewn ardaloedd anghysbell yn y byd.

  13. Heddiw mae’r posibiliadau wrth ddefnyddio ffonau symudol a’r rhyngrwyd yn codi’r un math o ymateb mewn pobl ag a gafwyd yng nghyfnod Samuel Morse.  Yr unig wahaniaeth yw nad yw pobl heddiw yn debyg o ddiolch i Dduw am y ddyfais. Yn achos Cristnogion, wrth gwrs, mae cyfathrebu’n beth canolog iawn. Yn y dechreuad yr oedd y ‘Gair’, sef Duw yn cyfathrebu â ni.

Amser i feddwl

Gweddi:
Annwyl Dduw,
Fe greaist ti bopeth trwy dy Air,
Helpa ni i ddefnyddio’r dechnoleg sydd gennym ni
i gyfathrebu ag eraill,
ac i gysuro’r rhai sy’n unig,
Rho obaith i’r rhai sy’n anobeithio,
a rhanna dy gariad ledled y byd.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Gorffennaf 2005    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon