Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Rydych Chi’r Hyn Rydych  Chi’n Ei Ddweud

Meddwl pa mor bwysig yw dweud geiriau caredig.

gan Joanne Sincock

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 3

Nodau / Amcanion

Meddwl pa mor bwysig yw dweud geiriau caredig.

Paratoad a Deunyddiau

  • Dim angen pethau ychwanegol.

Gwasanaeth

  1. Dechreuwch trwy ofyn y cwestiwn yma, a gofyn i’r plant roi eu dwylo i fyny fel ateb:  Faint ohonoch chi sydd wedi teithio mewn awyren wrth i chi fynd ar eich gwyliau?

  2. Wrth i’r awyren godi, ac wrth iddi lanio, mae’n bwysig fod y criw awyr yn gallu cyfathrebu’n iawn â’r rheolwyr trafnidiaeth awyr.  Rhaid i’r ddwy ochr siarad yn hollol glir rhag achosi dryswch, ac er mwyn osgoi damweiniau.

  3. Heddiw, fe hoffwn i feddwl am beth fyddwn ni’n ei ddweud wrth i ni sgwrsio, a sut mae'r hyn fyddwn ni’n ei ddweud yn effeithio arnom ni ac ar y bobl sydd o’n cwmpas.

  4. Rydych chi i gyd wedi clywed y dywediad, ‘ Rydych chi’r hyn rydych chi’n ei fwyta - You are what you eat’.  Mae’n debyg y gallwn ni ddweud yr un peth am yr hyn rydych chi’n ei ddweud hefyd.  Fe fydd yr hyn rydyn ni’n ei ddweud yn dweud wrth bobl eraill sut rai ydyn ni.

  5. Er enghraifft, os byddwch chi’n dweud anwiredd, mae’n dangos nad yw’n bosib eich trystio. Os byddwch chi’n dweud un peth wrth rywun, ac yn dweud rhywbeth hollol wahanol wrth rywun arall, mae’n dangos eich bod yn ddauwynebog.  Os ydych chi’n ddirmygus, mae’n dangos fod gennych chi lawer iawn o feddwl ohonoch chi eich hun.

  6. Weithiau fe fyddwn ni’n gweld fod gan ein tafodau eu bywydau eu hunain, fel petai, a’u bod ambell dro yn gallu mynd dros ben llestri. 

  7. Mor hawdd yw hi i hel clecs!  (‘Fe fydd y bobl siort orau yn siarad am syniadau, pobl gymedrol yn siarad am bethau, ac fe fydd y bobl ddibwys yn siarad am bobl eraill.’)

  8. Mor hawdd yw hi i ddweud pethau er mwyn creu argraff: rhegi, dweud jôcs di-chwaeth a diawlio pawb er mwyn i rai pobl eich hoffi.

  9. Mor anodd yw hi, ar adegau, i reoli geiriau cas.  Mor wir yw’r dywediad Saesneg: ‘I lose peace of mind when I give someone a piece of my mind.’

  10. Rydych chi’r hyn rydych chi’n ei ddweud, cofiwch!  Mae’n bwysig, ble bynnag rydych chi, a phwy bynnag sydd gyda chi, eich bod chi’n ceisio rheoli’ch tafod.

  11. Pan fyddwch chi ag awydd mawr dweud pethau cas, dweud celwydd neu hel clecs, neu fod yn wawdlyd, rhaid i chi geisio gweld ochr orau pobl. Siaradwch eiriau caredig, a rhowch ganmoliaeth ac anogaeth yn lle beirniadu.

  12. Mae’r Beibl yn dweud, ‘Y mae tafod tyner yn bren bywiol, ond tafod garw yn dryllio’r ysbryd.’

Amser i feddwl

Myfyrdod:
Faint o  gefnogaeth fyddwch chi’n ei roi i bobl trwy eich geiriau?  Ydych chi yn un sy’n annog rhywun, neu’n peri iddo ddigalonni?  Ydych chi’n codi hyder pobl neu’n eu bychanu?  Ai mwytho, neu bigo, fyddwch chi’n ei wneud? Ai helpu neu gecru?  Dychmygwch pe bai Duw’n rhoi her i chi , ac yn dweud, ‘Am bob gair caredig ddywedaist ti yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, fe roddaf bunt i ti.  Ond rydw i am fynd â phunt oddi arnat ti am bob peth cas ddywedaist ti yn ystod y flwyddyn.’ Fyddech chi’n gyfoethog neu’n dlawd?

Gweddi:
Annwyl Dduw,
Rwyt ti’n gwybod pa mor anodd yw hi i ni weithiau
wneud yr hyn sy’n iawn.
Helpa ni bob amser i frwydro yn erbyn yr hyn sydd ddim yn iawn.
Helpa ni i fod yn ddewr pan fydd ofn arnom ni,
I fod yn siriol hyd yn oed pan fyddwn ni’n teimlo’n siomedig,
Ac i fod yn ddymunol hyd yn oed pan fyddwn ni’n teimlo’n ddig.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Medi 2005    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon