Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Ffrindiau A Chyfeillgarwch

Ystyried gwir natur cyfeillgarwch.

gan The Revd Guy Donegan-Cross

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 3

Nodau / Amcanion

Ystyried gwir natur cyfeillgarwch.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen copi o’r ffilm Shrek.

  • Fe ddylech chi fod yn sensitif wrth ymdrin â’r ail stori, am ei bod yn ymwneud â materion fel anabledd a hunanladdiad.

Gwasanaeth

  1. Dechreuwch y gwasanaeth trwy ddweud bod gennych chi dair stori am gyfeillgarwch, heddiw. Mae’r stori gyntaf o’r ffilm Shrek.

  2. Dangoswch yr olygfa lle mae Shrek yn gwrthod cynnig yr asyn i fod yn gyfaill iddo, pan fyddan nhw’n cwrdd, tua dechrau’r ffilm.

  3. Does ar Shrek ddim eisiau ffrindiau, oherwydd ei fod yn meddwl na fyddai neb yn ei hoffi beth bynnag, ac felly mae’n well ganddo osgoi pawb. Weithiau pan fyddwn ni’n canfod pobl sydd ddim yn gyfeillgar iawn tuag atom ni, efallai nad oherwydd bod rhywbeth yn bod arnom ni y mae hynny. Mae rhai pobl â meddwl yn isel ohonyn nhw eu hunain ac yn berchen ar elfen o ddiffyg hunan-barch, a dyna sy’n peri’r anhawster. Mae’r rhan fwyaf ohonom ni’n pryderu beth mae pobl eraill yn ei feddwl ohonom ni, ac mae hynny’n gallu ei gwneud hi’n anodd weithiau i sefydlu cyfeillgarwch.

  4. Mewn cylchgrawn rhyngrwyd yn ddiweddar, roedd yn nodi mai dim ond un o bob pum merch oedd yn teimlo’n fodlon â’r ffordd y maen nhw’n edrych, tra dywedodd un o bob pedair a holwyd fod eu hunan-barch yn gallu amrywio yn ystod wythnosau pob mis. ‘Mae’r canlyniadau yma’n fy mrawychu i,’ meddai un. ‘Alla i ddim credu fod mwy na hanner y merched a holwyd yn anfodlon â’r ffordd maen nhw’n edrych. Beth ddigwyddodd i’r ‘harddwch sydd o’r tu mewn’?’

  5. Dywedwch fod yr ail stori gennych chi sy’n ymwneud â chyfeillgarwch yn stori am filwr Americanaidd oedd yn dod adref i’w gartref yn San Ffransisco ar ôl bod yn brwydro yn y rhyfel yn Fietnam. 

    Cyn cyrraedd adref, fe ffoniodd y milwr ei rieni. ‘Rydw i’n dod adref,’ meddai wrthyn nhw. ‘Ond mae gen i eisiau gofyn cymwynas i chi. Fe hoffwn i ddod â ffrind i mi adref efo fi.’

    ‘Iawn, wrth gwrs,’ meddai ei rieni, ‘fe fyddwn ni’n falch o’i gyfarfod.’

    ‘Mae rhywbeth y dylwn i ei egluro i chi,’ ychwanegodd y mab. ‘Mae wedi ei anafu’n ddrwg yn y rhyfel, fe safodd ar ffrwydryn tir ac mae wedi colli un o’i goesau ac un o’i freichiau. Does ganddo unman arall i fynd iddo. Rydw i eisiau iddo gael dod i fyw efo ni.’

    ‘Mae’n wir ddrwg gennym ni glywed hynny,’ meddai ei rieni wedyn. ‘Efallai y gallwn ni ei helpu i ddod o hyd i rywle i fyw.’

    ‘Na, na, rydw i eisiau iddo gael dod i fyw efo ni.’

    ‘Wyt ti’n sylweddoli beth fyddai hynny yn ei olygu,’ meddai ei dad. ‘Fe fyddai gofalu am rywun sydd â chymaint o anabledd â hynny’n faich mawr arnom ni. Mae gennym ni ein bywydau ein hunain, allwn ni ddim rhoi’r gorau i bopeth er ei fwyn. Fe fyddai’n well i ti anghofio am y bachgen yma, pwy bynnag ydi o. Mae’n siwr o allu ymdopi rywsut.’

    Daeth y sgwrs ffôn rhyngddyn nhw i ben, a chlywodd ei rieni ddim oddi wrtho wedi hynny. Ond ychydig o ddyddiau’n ddiweddarach daeth heddlu San Ffransisco â newydd drwg iddyn nhw. Roedd eu mab wedi marw ar ôl disgyn o adeilad  uchel. Roedd yr heddlu yn credu mai wedi cyflawni hunanladdiad yr oedd y mab. Yn eu galar fe aeth y rhieni gyda’r heddlu i’r ysbyty yn San Ffransisco i adnabod yn ffurfiol gorff eu mab. Roedden nhw’n gallu ei adnabod. Ie, hwn oedd eu mab. Ond fe’u brawychwyd nhw yn fwy fyth pan wnaethon nhw ganfod rhywbeth arall, na wydden nhw cyn hynny, wrth edrych ar y corff - un fraich ac un goes oedd gan eu mab.

  6. Mae’r rhieni yn y stori yn debyg iawn i lawer un arall ohonom ni. Rydym yn ei chael hi’n hawdd bod yn ffrindiau â rhywun sy’n olygus, neu rywun sy’n hwyl i fod yn ei gwmni. Ond dydyn ni ddim yn hoffi pobl sy’n gwneud bywyd yn anghyfleus i ni, neu sy’n gwneud i ni deimlo’n anghyfforddus. Fe fyddai’n well gennym ni gadw draw oddi wrth bobl sydd heb fod mor iach neu mor olygus â ni.

  7. Mae’r drydedd stori yn stori am ddyn byr oedd heb ffrindiau:

    Roedd pawb yn y dref lle'r oedd yn byw yn ei osgoi. Pam? Wel, nid yn unig oherwydd ei fod yn ddyn bach byr (ac mae gan rai pobl, sydd yn barnu yn ôl yr olwg, broblem ynglyn â hynny), ond roedd y dyn byr neilltuol yma yn dwyllwr hefyd ac yn grintachlyd. Beth bynnag, un diwrnod, roedd cynnwrf yn y dref, roedd rhywun pwysig yn dod yno. Roedd y dyn byr yn awyddus i gael cip ar yr ymwelydd a chlywed beth oedd ganddo i’w ddweud. Ond am ei fod yn fyr, roedd yn cael anhawster i weld yng nghanol y dyrfa fawr oedd wedi dod ynghyd. Roedd pawb yn ei wthio o’r ffordd ac yn ei anwybyddu, beth bynnag. Felly, fe redodd yn ei flaen a dringo i ben coeden. Roedd y dyrfa yn dilyn yr ymwelydd pwysig trwy’r dref, a phan ddaethon nhw at y goeden fe arhosodd pawb. Iesu oedd yr ymwelydd, ac fe ofynnodd i’r dyn byr ar ben y goden a gai wahoddiad i’w dy, roedd yn awyddus i fod yn ffrindiau ag ef. Sacheus oedd ei enw, ac fe newidiodd bywyd Sacheus o’r diwrnod hwnnw, newid am byth.

  8. Mae pawb ohonom angen ffrindiau. Er, weithiau, efallai bod rhai ohonom yn teimlo fel roedd Shrek yn teimlo - yn meddwl na fyddai pobl eisiau bod yn ffrindiau â ni mewn gwirionedd. Mae llawer o Gristnogion yn cael eu hannog wrth glywed y geiriau a ddywedodd Iesu: ‘Nid wyf mwyach yn eich galw yn weision … Yr wyf wedi eich galw yn gyfeillion.’ (Ioan 15.15)

  9. Mae Cristnogion yn credu, os ydych chi eisiau gwybod sut un yw Duw, edrychwch ar Iesu. Fe wnaeth Iesu bobl yn gyfeillion iddo’i hun, a dyna beth mae Duw eisiau i ni ei wneud. Yn wir, mae â diddordeb arbennig mewn pobl sy’n unig, pobl sydd heb fod yn hardd a pherffaith yr olwg ar y tu allan, a phobl sy’n tueddu i gadw draw oddi wrth bobl eraill - pa un ai ar ben coeden maen nhw, neu yn rhywle arall. A’r peth gwych ynglyn â chyfeillgarwch fel yma yw ei fod yn fythol. Mae ein ffrindiau o ddydd i ddydd yn mynd ac yn dod. Ambell ddiwrnod fe allwn ni deimlo’n boblogaidd, ac ambell ddiwrnod fe allwn ni deimlo’n amhoblogaidd. Ond mae Cristnogion yn credu fod cyfeillgarwch Duw yn mynd yn ei flaen am byth, yn dragywydd.

Amser i feddwl

Myfyrdod:
Gofynnwch i’ch cynulleidfa gau eu llygaid a pharhau i feddwl yn dawel. Gofynnwch iddyn nhw ystyried pwy yw eu gwir gyfeillion. Yna, meddwl am bobl rydych chi’n eu hadnabod, sydd heb ffrindiau, ac a oes bosib i chi wneud rhywbeth ynglyn â hynny. Oedwch am foment cyn diolch i’ch cynulleidfa am wrando.

Gweddi
Annwyl Dduw, diolch i ti am dy gyfeillgarwch.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Tachwedd 2006    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon