Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Rydw I’n Rhoi Tra Rydw I’n Dal Yn Fyw

Cymell haelioni.

gan The Revd Guy Donegan-Cross

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Cymell haelioni.

Paratoad a Deunyddiau

  • Dim angen paratoi.

Gwasanaeth

  1. Ydych chi wedi clywed am Bob Bradley? Dyn 83 mlwydd oed, fu’n filwr yn yr Ail Ryfel Byd yw Bob Bradley, a enillodd £3.5 miliwn ar y Loteri Genedlaethol ym mis Mawrth 2006. Yr hyn sy’n rhyfeddol am yr hanes yw bod Bob Bradley wedi rhannu’r cyfan o’r arian. Mae wedi cyfrannu at elusennau sy’n ymwneud â phlant, ac wedi gwario’r gweddill ar aelodau ei deulu a’i ffrindiau.

  2. Dywedodd Mr Bradley, sy’n dod o Lanelli: ‘Dydw i ddim wedi cadw dim o’r arian fy hun. Ond rydw i wedi gallu rhoi’r pethau roedden nhw eu heisiau i aelodau fy nheulu.’ Rhai o’r pethau a roddodd iddyn nhw oedd car Mercedes gwerth £70,000 i’w fab, cwningen fach yn anifail anwes i’w orwyres. Fe ddywedodd, ‘Rydw i eisoes wedi cael fy mywyd i, felly mae’r enillion yma o fudd iddyn nhw.’

  3. Mae wedi symud o’i dy cyngor yn Llanelli i dy pum llofft, gwerth £500,000 a brynodd i’w wyr. Eglurodd fod y pleser o ennill yn dod wrth wylio ei berthnasau yn mwynhau eu hunain. ‘Roeddwn i’n teimlo fy mod i wedi cael fy ngwobr cyn ennill yr arian yma. Roeddwn i wedi cael iechyd da a theulu ardderchog, a does dim unrhyw swm o arian yn gallu prynu hynny. Dywedodd aelod o’i deulu, ‘Mae gan Bob galon garedig, ac rydyn ni i gyd yn ei garu’n fawr. Mae’n ddyn hynod o hael a hawddgar, ac roedd yn benderfynol o ofalu am ei elusennau.’ Hefyd, mae Mr Bradley wedi rhoi cyfran fawr o’r arian a enillodd ar y Loteri tuag at elusennau yn ymwneud â phlant yn fyd-eang.

  4. Rwy’n gwybod am nifer o bobl sy’n dweud y bydden nhw’n rhannu’r holl enillion pe bydden nhw’n ennill y Loteri, ond dyma rywun sydd o ddifrif wedi gwneud hynny. Ydi Mr Bradley yn gyfoethocach erbyn hyn, neu’n dlotach?

    Dywedwch y stori yma: 

    Roedd gwraig ddoeth yn teithio dros fynyddoedd gwlad bell a daeth o hyd i garreg werthfawr mewn nant. Y diwrnod canlynol, daeth teithiwr arall i’w chyfarfod. Roedd y teithiwr hwnnw’n newynog ac fe agorodd y wraig ddoeth ei bag, a rhannu ei bwyd â’r teithiwr.

    Pan welodd y teithiwr newynog y garreg werthfawr ym mag y wraig, gofynnodd iddi a fyddai’n fodlon ei rhoi iddo. Er mawr syndod iddo, fe roddodd y wraig ddoeth hi iddo heb ddim gwrthwynebiad. Aeth y teithiwr yn ei flaen yn llawen gan fethu credu ei fod wedi cael y fath garreg werthfawr, a hynny mor ddiffwdan. Fe wyddai y cai arian da amdani, ac na fyddai’n dlawd nac yn newynog eto am weddill ei oes. 

    Ond ymhen diwrnod neu ddau, synnodd y wraig wrth weld y teithiwr yn dod yn ei ôl, ac yn galw arni. Pan ddaeth ato, fe roddodd y teithiwr y garreg yn ôl iddi. ‘Rydw i wedi bod yn meddwl,’ meddai. ‘Rydw i’n gwybod pa mor werthfawr yw’r garreg yma, ond rydw i eisiau ei rhoi yn ôl i ti yn y gobaith y galli di roi rhywbeth sydd hyd yn oed yn fwy gwerthfawr i mi. Rho i mi yr hyn sydd gen ti yn dy galon oedd yn caniatáu i ti roi’r garreg yma i mi.’

  5. Dywedodd Iesu ei bod hi’n well i chi roi na derbyn. Pam y dywedodd hynny? Am fod y math o gyfoeth a gawn ni mewn calon hael yn parhau’n hirach nag arian.

  6. A dyma stori fach arall i orffen. Un tro roedd mochyn a buwch yn byw ar yr un fferm. Roedd y fuwch yn boblogaidd iawn. Ond doedd y mochyn, am ryw reswm, ddim yn boblogaidd. Roedd y mochyn yn methu deall pam. ‘Mae pobl yn siarad yn glên amdanat ti,’ meddai wrth y fuwch un tro. ‘Maen nhw’n hoffi dy natur garedig di a dy lygaid mawr dengar. Maen nhw’n meddwl dy fod ti’n hael oherwydd dy fod ti’n rhoi llefrith a hufen iddyn nhw bob dydd. Beth amdanaf fi? Rhyw ddydd, rydw i’n mynd i roi’r cyfan sydd gen i iddyn nhw. Fe fydda i’n rhoi porc a bacwn a ham iddyn nhw. Fe fydda i’n rhoi gwrychyn iddyn nhw wneud brwshys. Fe fyddan nhw hyd yn oed yn berwi fy mhen ac yn piclo fy nhraed! Ond eto, does neb yn fy hoffi i. Beth wyt ti’n feddwl yw’r rheswm am hynny?’ Dyma’r ateb a gafodd gan y fuwch, ‘Wel, efallai mai oherwydd fy mod i’n rhoi iddyn nhw tra rydw i’n dal yn fyw.’

Amser i feddwl

Gweddi
Arglwydd,
Dysga ni i roi o’n calonnau
i fod yn ddigon rhydd i fod yn hael,
ac i roi tra rydyn ni’n dal yn fyw.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Tachwedd 2006    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon