Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Yr Aberth Posib

Yn ystod cyfnod y Garawys, caiff myfyrwyr eu hannog i ystyried sut y byddai’n bosib iddyn nhw helpu i newid bywyd plant mewn dinas yn India. Fe fydden nhw’n gallu gwneud hynny trwy ymprydio am 24 awr.

gan Brian Radcliffe

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Yn ystod cyfnod y Garawys, caiff myfyrwyr eu hannog i ystyried sut y byddai’n bosib iddyn nhw helpu i newid bywyd plant mewn dinas yn India. Fe fydden nhw’n gallu gwneud hynny trwy ymprydio am 24 awr.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen bar o siocled, cylchgrawn rhaglenni teledu, a chylchgrawn ffasiwn.

  • Cewch fanylion am ympryd 24 awr World Vision ar www.worldvision.org.uk.

Gwasanaeth

  1. Dangoswch y bar siocled. Holwch, sut beth fyddai bywyd heb siocled?

    Dangoswch y cylchgrawn rhaglenni teledu. Sut beth fyddai bywyd heb deledu?

    Dangoswch y cylchgrawn ffasiwn. Sut beth fyddai bywyd heb ddillad newydd?

    (Saib)

  2. Mae pobl yma ac acw trwy’r wlad yn ceisio darganfod sut beth yw bod heb y pethau hyn sy’n rhan o’n bywydau ni o ddydd i ddydd. Am o leiaf  40 diwrnod. 

    Rydym ni nawr yn y cyfnod y mae Cristnogion yn ei gadw, sef y Garawys. Fe ddechreuodd cyfnod y Garawys ar Ddydd Mawrth Ynyd, neu Ddydd Mawrth Crempog. Yn ystod y Grawys, fe fydd Cristnogion yn rhoi’r gorau i wneud rhai pethau penodol am gyfnod o 40 diwrnod, a daw’r cyfnod i ben ar Sul y Pasg. Yn aml, fe fyddan nhw’n rhoi’r gorau i fwyta rhai pethau neilltuol, moethus. Maen nhw’n gwneud hyn er mwyn cofio am y ffordd y dioddefodd Iesu - yn feddyliol, yn ysbrydol ac yn gorfforol - yn y cyfnod oedd yn arwain at ei groeshoeliad a’i atgyfodiad wedi hynny ar y Pasg cyntaf. Mae’r ymrwymiad hwn gan rai pobl i fyw heb ambell beth moethus yn symbol i’w hatgoffa o ddydd i ddydd am yr hyn a brofodd Iesu.

  3. Mae cadw rhag bwyta rhai o’r pethau hyn trwy’r Garawys yn aml yn gallu bod yn fanteisiol hefyd. Os ydych chi’n rhoi’r gorau i fwyta siocledi a melysion, neu fwydydd llawn braster a chalorïau, fe allech chi wneud hynny’n rhan o ddiet sy’n cadw golwg ar galorïau, a gweld eich bod gymaint â hynny’n iachach wedyn. Hefyd, fe allech chi fod yn gwneud rhyw weithgareddau penodol yn hytrach na gwylio’r teledu. Ac efallai y byddai o fudd i’ch sefyllfa ariannol pe byddech chi’n peidio â gwario ar ddillad yn ystod y cyfnod yma. Ond yn fwy na dim, os ydych chi’n gallu cadw at eich bwriadau da trwy’r cyfnod o 40 diwrnod, fe fydd yn gwneud i chi deimlo’n dda amdanoch eich hun, oherwydd eich bod wedi profi fod gennych chi hunanreolaeth.

  4. Yn achos llawer o blant y byd, wrth gwrs, nid rhyw eithriad achlysurol yw byw heb siocledi a melysion, neu fyw heb deledu, neu ddillad ffasiynol. Ystyriwch, er enghraifft, y plant sy’n byw yn Chennai, yn India. Chennai yw’r bedwaredd ddinas fwyaf yn India. Mae plant yno sy’n cael eu galw gan lywodraeth India’n blant unman,  ‘nowhere children’, am eu bod yn llythrennol ddim yn perthyn i unman. Mae rhai yn blant sydd wedi rhedeg i ffwrdd oddi cartref, wedi dianc o sefyllfaoedd lle’r oedden nhw’n cael eu cam-drin. Mae rhai eraill yn blant o deuluoedd  mewnfudwyr, wedi’u geni heb dystysgrif geni swyddogol, felly nid yw eu henwau ar unrhyw gofrestr. Mae’r plant hyn yn byw ar y strydoedd, yn gorfod begio i gadw’u hunain rhag newynu, neu maen nhw’n cael eu gorfodi i weithio’n galed am oriau hir, gan ddioddef yn gorfforol hefyd, am ychydig iawn o arian (child labour).

  5. Tybed allwn ni, yn ystod y Garawys, feddwl am ‘blant unman’ yn Chennai, a chysylltu hyn ag ymwrthod â rhywfaint o foethusrwydd ein hunain. 

    Mae’r elusen Gristnogol World Vision yn trefnu ympryd 24 awr bob blwyddyn ar gyfer rhai dros 12 oed. Mae’r rhai sy’n cymryd rhan yn casglu noddwyr ac mae’r arian sy’n cael ei gasglu yn mynd tuag at ariannu prosiect yn y gwledydd sy’n datblygu. Eleni, y prosiect sydd wedi’i ddewis yw prosiect i sefydlu rhaglen o’r enw Street Children Prevention and Rehabilitation Programme. Bydd y rhaglen yn helpu o leiaf 2,000 o blant yn Chennai.

  6. Mewn ffordd, mae hyn yn her haws i’w hwynebu nag ymprydio drwy 40 diwrnod ar hyd y Garawys. Mae’r gweithgaredd, sy’n parhau am 24 awr yn unig, yn  ystod y penwythnos o 14 i 16 Mawrth, ac o bosib fe fyddwch chi’n cysgu am tua dwy ran o dair a’r amser hwnnw! Ond, mewn ffordd arall, mae’n anoddach na chadw rhag gwneud ambell beth yn unig. Mae’n rhaid bod yn gwbl o ddifrif gyda’r ympryd trwy gydol y 24 awr: dim brecwast, na byrbrydau, na chinio, na the na swper! Ydych chi’n meddwl y gallech chi wneud hynny? Yn achos y rhan fwyaf ohonom fyddai hynny ddim yn gwbl amhosib. Does dim perygl i’n hiechyd ni oni bai bod gennych chi anghenion dietegol arbennig. A hyd yn oed wedyn, fe allech chi lunio fersiwn arbennig o’r ympryd fyddai’n para ychydig oriau’n unig.

Amser i feddwl

Efallai nad ydych chi’n meddwl y byddech chi’n hoffi cymryd rhan mewn ympryd fel un 24 awr y World Vision  (cofiwch eich bod yn cael yfed diodydd yn ystod yr ympryd). Mae’r egwyddorion sydd yn ymwneud ag arferion y Garawys yn rhai da, yn enwedig os yw’r ymwrthod a wnewch chi yn gallu helpu rhywun sy’n fwy anghenus na chi, hefyd. Beth am greu ymateb Garawys personol eich hun? Fe allech chi wneud rhywbeth fel hyn:

Rhoi’r arian sy’n gyfwerth â phris bar o siocled i elusen o’ch dewis chi.
Peidio â gwylio eich hoff raglen deledu neu opera sebon am gyfnod, ac ymweld â pherthynas neu rywun sy’n unig yn lle hynny.
Dosbarthu eich dilladau, a mynd â rhai dydych chi ddim yn mynd i’w gwisgo eto i siop elusen.
Prynu copi o The Big Issue yn hytrach na’ch cylchgrawn arferol.
Neu, efallai bod gennych chi syniad gwell?!

Treuliwch ysbaid yn ystyried y pethau canlynol. Efallai yr hoffech chi droi eich meddyliau yn weddi:
Byddwch yn ddiolchgar am beth bynnag sy’n rhoi’r boddhad mwyaf i chi (fe allai hwnnw fod yn rhywbeth rydych chi’n ei fwyta, yn rhywun rydych chi’n ei adnabod, lle arbennig, efallai, neu ddarn o gerddoriaeth, rhywbeth technolegol, neu’n unrhyw beth arall).
Dywedwch ei bod hi’n ddrwg gennych chi am yr adegau rheini, yr wythnos yma, y gwnaethoch chi feddwl mwy am eich anghenion chi eich hun nag am anghenion pobl eraill.
Lluniwch gynllun i weithredu mewn rhyw ffordd y mae’r gwasanaeth heddiw wedi’ch ysgogi chi.

Cerddoriaeth

Fe allech chi chwarae’r gerddoriaeth ‘Something Inside So Strong’ gan Labi Siffre.

Dyddiad cyhoeddi: Chwefror 2008    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon