Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Mynd a Dod

Edrych ar y profiad o ymadael a symud ymlaen.

gan Ronni Lamont

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 4/5

Nodau / Amcanion

Edrych ar y profiad o ymadael a symud ymlaen.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen rhaff, y math fyddan nhw’n ei ddefnyddio mewn gornest tynnu rhaff, a dau dîm sy’n barod i gymryd rhan yn y tynnu! Marciwch y llawr, fel bydd llinell yno i ddangos pan fydd un o’r ddau dîm yn cael ei dynnu drosodd.

  • Byddwch yn ofalus gyda materion iechyd a diogelwch yn y rhan fywiog o’r gwasanaeth yma.

Gwasanaeth

  1. Dechreuwch gyda’r gweithgaredd tynnu rhaff – gosodwch y timau yn eu lle. 

    Efallai nad ydych chi wedi cymryd rhan mewn gweithgaredd fel hyn ers tro. Gadewch i ni atgoffa’n hunain o’r rheolau – does dim llawer ohonyn nhw! Pan fyddaf fi’n gweiddi ‘Ewch’ mae’r ddau dîm i fod i dynnu, ac yn y diwedd, pan fydd un tîm wedi cael ei dynnu dros y llinell ar y llawr, fe fydd y tîm arall wedi ennill. Hawdd!. Efallai yr hoffech chi gefnogi’r naill dîm neu’r llall…

    Ydych chi’n barod? Yna - ‘Ewch’.

  2. Ar ôl i un tîm ennill, diolchwch i’r timau am gymryd rhan a’u hanfon yn ôl i eistedd.

    Diolch, bawb – do, fe wnaeth un tîm ennill, da iawn chi! Ond nawr, pwy all ateb fy nghwestiwn - pa dim oedd yn dal dechrau’r rhaff a pha dîm oedd yn dal diwedd y rhaff? Derbyniwch unrhyw atebion gewch chi.

    Yn wir – fe allai’r ddau ben fod yn ddechrau’r rhaff, ac fe allai’r ddau ben fod yn ddiwedd y rhaff hefyd, mae’r cyfan yn dibynnu ar sut rydych chi’n edrych ar bethau.

  3. Mae’r hanesyn bach sy’n dilyn yn darlunio hyn.

    Roedd ficer yn gwasanaethu mewn angladd un bore. Does dim byd yn anarferol yn hynny - fe fydd hi’n gwasanaethu mewn angladdau’n aml. Y tro hwn dyn oedrannus oedd wedi marw, dyn oedd wedi bod yn byw yn lleol gyda’i wraig mewn bloc o fflatiau i’r henoed. 

    Y prynhawn hwnnw, fe ymwelodd yr un ficer â theulu oedd yn awyddus i’w baban bach gael ei fedyddio. Ychydig wythnosau oed oedd y baban, ac roedd y teulu yma’n byw yn union gyferbyn â fflatiau’r henoed, lle'r oedd y dyn oedd yn cael ei gladdu'r bore hwnnw wedi bod yn byw. Geni a marw, marwolaeth a genedigaeth, yn yr un gymdogaeth tua’r un pryd. 

    Ond, pa un oedd y diwedd, a pha un oedd y dechrau? Ar yr olwg gyntaf, fe fyddech chi’n meddwl mai’r dyn oedrannus oedd yn dod i’w ddiwedd, ond os ydych chi’n credu mewn bywyd ar ôl marwolaeth, yna roedd y dyn hwnnw’n cael ei eni i fywyd newydd arall. Ac roedd y baban yn yr un modd yn cael ei eni i fywyd newydd yn ein byd ni. Roedd dechrau bywyd newydd y baban yn nodi diwedd ei fywyd yng nghroth ei fam - hynny yw, diwedd bywyd mewn un lle, sy’n rhyw fath o farwolaeth. Diwedd un peth a dechrau peth arall, a hynny wedi digwydd yn y ddau achos.

Amser i feddwl

Mae gan Iddewon ddywediad am hyn: ‘Mae pob dechrau yn anodd, ond mae ambell un yn anoddach na’i gilydd’ (addasiad - a gwelwch, Chaim Potok, In the Beginning, Penguin, 1975).

Fe fydd rhai ohonoch chi’n symud ymlaen yn fuan: i goleg, i waith, i gymryd blwyddyn allan, i deithio, neu i ... beth bynnag ....  Fe fyddwch yn teimlo, wrth i chi adael yr ysgol,  fel petai pennod gyfan wedi dod i ben yn eich bywyd. Ac yn fuan iawn wedyn, fe fydd pennod gyfan newydd o’ch bywyd yn agor, wrth i chi symud ymlaen …

Felly, mae’n rhywbeth tebyg i raff. Mae gennych chi ddechrau a diwedd ar yr un pryd, ac fe all hynny deimlo’n beth rhyfedd. Efallai y byddwch chi’n teimlo’n debyg i’r rhaff welsoch chi’n cael ei thynnu ar y dechrau, yn cael eich tynnu yn ôl ac ymlaen, o un cyfeiriad i’r llall.

Efallai y byddwch chi’n cofio eich diwrnod cyntaf yn yr ysgol yma, ac yn cofio sut roeddech chi’n teimlo. O bosib eich bod ymysg y rhai ieuengaf bryd hynny, ac erbyn heddiw rydych chi’n un o’r rhai hynaf. Chi yw’r rhai sy’n symud ymlaen i wynebu’r dyfodol. Dechrau newydd yn dilyn rhywbeth sydd efallai’n ddiwedd trist? Neu, efallai eich bod chi ar dân eisiau cael mynd ymlaen i’r cam nesaf.

Mae cofio’n rhodd arbennig. Cofio’r amseroedd da yma: ffrindiau, athrawon, gwaith a chyflawniadau. Mae’n debyg y bydd yr atgofion am y  pethau llai pleserus a ddigwyddodd i chi yma yn pylu gydag amser, ond eto, fe allwch chi ddefnyddio rhai o’r profiadau hynny hefyd i adeiladu ar gyfer y dyfodol.

Gobeithio y cewch chi hwyl ar deithio, ble bynnag yr ewch chi, a boed i Dduw fod gyda chi bob cam o’r daith.

Dyddiad cyhoeddi: Mehefin 2008    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon