Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Prinder Byd-eang o Reis

Ystyried pa mor ddrwg y mae’r rhai sy’n dlawd yn dioddef - oherwydd y cynnydd ym mhrisiau bwyd.

gan James Lamont

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Ystyried pa mor ddrwg y mae’r rhai sy’n dlawd yn dioddef - oherwydd y cynnydd ym mhrisiau bwyd.

Gwasanaeth

  1. Reis yw un o gnydau pwysicaf y byd. Mae mwy na hanner poblogaeth y byd, dros 3 biliwn o bobl, yn dibynnu bob dydd ar reis fel bwyd sy’n weddol rad, ac yn eu digoni. Mae’r bobl rheini’n tueddu i berthyn i genhedloedd tlotaf y byd, ac mae’r cynnydd sydd wedi bob ym mhrisiau bwydydd yn y blynyddoedd diwethaf wedi eu taro nhw’n waethaf.

  2. Y broblem yw cynnydd yn y galw, ochr yn ochr â gostyngiad yn y cyflenwad. Wrth i Tsieina, a chenhedloedd eraill sy’n datblygu, barhau i ennill cyfoeth, mae nifer fawr iawn o bobl yn ymfudo i’r dinasoedd. Mae hynny’n golygu bod cynnydd yn y galw am reis ac am wenith, ac yn ei dro mae hynny’n golygu bod llai o’r cynnyrch hwnnw ar gyfer masnach ddomestig ac ar gyfer allforio. Mae ffactorau eraill yn bwysig hefyd. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae’r amodau o ran y tywydd wedi bod ymhell o fod yn ddelfrydol, gyda thywydd eithafol o sychder ar y naill law a gorlifoedd ar y llaw arall. Mae’r cynnydd ym mhris olew yn gwasgu ar amaethwyr sy’n dibynnu ar wrtaith sy’n seiliedig ar olew ar gyfer y cnydau, ac ar danwydd i’w cerbydau. Hefyd mae costau uwch trawsgludo’r bwydydd yn codi’r prisiau ar y farchnad.

  3. Ffactor arall yn y sefyllfa yw’r cynnydd yn y galw am fiodanwydd. Mae tir oedd yn cael ei ddefnyddio yn y gorffennol ar gyfer tyfu cnydau i gynhyrchu bwyd yn awr yn cael ei ddefnyddio i dyfu cnydau sy’n cael eu cynaeafau er mwyn darparu tanwydd. Yn ôl yr amcangyfrif, fe fyddai’r tir yn yr Unol Daleithiau, sydd wedi newid ei bwrpas, o fod yn tyfu cnydau er mwyn cynhyrchu bwyd i dyfu cnydau er mwyn cynhyrchu tanwydd, dros y ddwy flynedd diwethaf, wedi gallu darparu digon o fwyd i fwydo 250 miliwn o bobl. Mae’r rhai sydd o blaid cynhyrchu biodanwydd yn dadlau y bydd y newid yma yn y defnydd a wneir o’r tir yn galluogi’r bobl dlotaf i ffermio’u hunain allan o dlodi trwy gynhyrchu cnydau gwerthfawr.

  4. Dros y tair blynedd diwethaf, mae prisiau’r holl brif fwydydd (e.e. reis a gwenith) wedi cynyddu 80 y cant. A hawdd oedd gallu rhagweld yr ymateb: bu protestio ffyrnig yn erbyn costau byw yn ddiweddar mewn lle o’r enw Ivory Coast, gwlad fach ar arfordir gorllewinol Affrica. Cafwyd protestiadau tebyg hefyd, gyda gwahanol raddau o drais, yn Bolivia, Yemen, Uzbekistan, Indonesia, Senegal, Mauritania, Mozambique, Cameroon a Haiti. Yn y Philippines, lle mae’r bobl sy’n byw yno’n ddibynnol ar reis fel eu bwyd, mae rhai masnachwyr sy’n celcio’u cyflenwad o reis er mwyn codi’r pris wedi cael eu bygwth â dedfryd o garchar am oes.

  5. Ffaith amlwg am yr holl genhedloedd rydyn ni wedi sôn amdanyn nhw yn y gwasanaeth heddiw yw eu tlodi. Nid yw hyn yn syndod: yn aml, y rhai tlotaf sy’n dioddef fwyaf wrth i’r byd addasu i newid mawr yn y farchnad. Yn yr achos yma, mae prinder olew rhad a’r ymwybyddiaeth o newid yn y tywydd wedi gyrru pobl sydd â bwriadau da i fod yn gyfrwng i achosi argyfyngau llawer gwaeth. Oni bai bod newid mawr yn mynd i fod yn agwedd y rhai cyfoethog, fe fydd pobl dlotaf y byd yn parhau i dalu’n ddrud am ein gormodaeth ni.

Amser i feddwl

Treuliwch foment yn meddwl -
Meddwl am y bwyd y bydd eich teulu yn ei daflu bob wythnos: credir ein bod, ar gyfartaledd, yn gwastraffu tua 20 y cant o’r hyn y byddwn ni’n ei brynu mewn wythnos.
Meddwl am yr holl amrywiaeth sydd wedi’i gynnwys yn ein diet.
Meddwl faint o arian mae’n ei gostio i dyfu, i brosesu, i ddosbarthu ac i brynu ein bwyd.
Meddwl am faint o bobl y byddai’n bosib eu bwydo gyda’r bwyd rydyn ni’n ei wastraffu yn y wlad yma.

Gweddi
Arglwydd Dduw, helpa ni i beidio â gwastraffu,
I brynu dim ond yr hyn y byddwn ni’n ei fwyta,
I deithio’n rhesymol, pan fydd yn rhaid i ni,
I rannu, ac i ailgylchu beth bynnag allwn ni,
I drin dy fyd di â pharch,
Ac i rannu manteision ein harferion gorau â’r rhai hynny sydd mewn angen.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Mehefin 2008    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon