Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Sant Benedict

Archwilio’r syniad o ‘reol bywyd’ i ni ein hunain.

gan Ronni Lamont

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Archwilio’r syniad o ‘reol bywyd’ i ni ein hunain.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd angen i chi roi cyfarwyddyd i’r rhai fydd yn cymryd rhan. Awgrymiadau yw’r rhannau ar gyfer pob disgybl a ddaw ymlaen yn ei dro - efallai yr hoffech gynnwys geiriau eraill yma neu eiriau arwyr go iawn eich ysgol yn eu meysydd eu hunain.

Gwasanaeth

  1. Daw disgybl i mewn i flaen y gwasanaeth yn driblo pêl-droed, ac yna mae’n codi’r bêl. 

    Disgybl: Rydw i’n chwarae i dîm pêl-droed (enw tîm yr ysgol neu glwb lleol). Rydyn ni’n ymarfer bob wythnos, ac rydw i’n ymarfer gartref hefyd. (Enw seren leol yn y byd pêl-droed) yw fy arwr i ym myd pêl-droed - fe hoffwn i allu chwarae mor dda ag ef.

  2. Daw disgybl arall i’r blaen ar fwrdd sgrialu, a chodi’r bwrdd sgrialu wedi iddo gyrraedd. 

    Disgybl: Rydw i wedi bod yn sgrialu am  ____ (nifer) o flynyddoedd. Rydw i a’m ffrindiau yn ymarfer yn y parc fel arfer, bob dydd bron.

  3. Daw disgybl arall i mewn yn cario ciw snwcer.

    Disgybl: Rydw i’n chwarae snwcer bob cyfle gaf fi. Fy arwr yw Ronnie O’Sullivan.

  4. Daw dau ddisgybl arall ymlaen yn siarad Ffrangeg â’i gilydd.

    Disgybl: Os nad ydych chi’n dal ati i ymarfer siarad iaith, dydych chi byth yn ddigon hyderus i siarad â rhywun yn yr iaith honno. Rydw i eisiau mynd i Baris yn ystod y gwyliau, ac fe hoffwn i allu archebu fy mwyd trwy gyfrwng yr iaith Ffrangeg.

  5. Yn olaf, mae disgybl arall yn dod ymlaen, yn darllen y Beibl. (Os mai ffydd arall yw prif ffydd eich ysgol, defnyddiwch lyfr sanctaidd y ffydd honno, ac addaswch y geiriau fel bo’n briodol.)

    Disgybl: Cristion ydw i. Rydw i’n darllen fy Meibl bron bob dydd. Felly, fe fydda i’n gwybod sut mae Duw eisiau i mi fyw fy mywyd.

  6. Os ydych chi eisiau bod yn dda am wneud rhywbeth, rydyn ni i gyd yn gwybod bod yn rhaid i chi ymarfer. Rydych chi’n datblygu’r hyn rydyn ni’n ei alw’n ‘rheol bywyd’ neu ‘rule of life’, sy’n eich helpu chi i wneud hynny mewn ffordd reoledig a synhwyrol.

  7. Rhufeiniwr oedd Benedict, wedi’i eni yn y flwyddyn 480 Oed Crist. Wedi i Benedict dyfu’n oedolyn roedd yn teimlo’n ofnadwy wrth sylweddoli pa fath o fywyd yr oedd y rhan fwyaf o’r Rhufeiniaid yn ei fyw. Felly, fe adawodd y ddinas ac fe aeth i fyw mewn ogof. Bu yno am dair blynedd, a thra bu yno roedd yn treulio’i amser yn gweddïo ac yn meddwl am ei fywyd.

    Pan fu abad yn y mynachdy lleol farw, fe berswadiodd y mynachod Benedict i ddod i fyw atyn nhw a bod yn abad newydd iddyn nhw. Ond aeth pethau o chwith, ac yn ôl y sôn, roedd y mynachod wedi ceisio gwenwyno Benedict. Felly aeth oddi yno. Ymhen amser, fe sefydlodd 12 o gymunedau crefyddol yn yr Eidal, ac ym mhob un o’r cymunedau hyn roedd y mynachod yn dilyn y canllawiau a oedd wedi’u gosod gan Benedict. Dyma’r rheolau yr oedd ef ei hun yn eu dilyn yn ei fywyd ei hun.

  8. Ysgrifennodd Benedict lyfr o reolau i’w ddilynwyr, rheolau iddyn nhw eu dilyn yn eu bywydau eu hunain. Galwyd y llyfr yn Llyfr Rheol Sant Benedict, neu’r ‘Rule of St Benedict’. Mae sawl mynachdy yn parhau i fyw yn ôl Rheol Sant Benedict - yn cynnwys y mynachdy a ddarluniwyd yn y gyfres ddiweddar a ddarlledwyd ar sianel BBC. 

    Mae cydbwysedd unigryw yn perthyn i’r rheol, cydbwysedd rhwng yr ysbryd, cymedroldeb a rhesymolrwydd. Penderfynodd nifer o gymunedau a sefydlwyd yn yr Oesoedd Canol (lleianod yn ogystal â mynachod) ddilyn rheol Benedict.

Amser i feddwl

Myfyrdod
Mae rheol Benedict yn gofalu bod y rhai sy’n ei dilyn yn cael cytbwysedd da o ymarfer, gweddi ac astudiaeth, yn ogystal â gwaith.
Sut gallech chi lunio rheol bywyd fyddai’n gofalu bod gennych chi gytbwysedd da o’r holl elfennau rydych chi’n eu mwynhau a’r elfennau rydych chi’n gwybod eich bod eu hangen?
Cydbwysedd o fwyd, ymarfer, gwaith a hamdden. Rhannu eich arian gyda rhai sydd â llai na chi, a bod yn g aredig wrth rai sydd mewn angen?
Treuliwch foment neu ddwy yn meddwl am yr elfennau yn eich bywyd rydych chi’n rhoi gormod o amser iddyn nhw, a’r elfennau eraill sydd efallai angen mwy o’ch amser.

Gweddi
Helpa fi i ddod â chytbwysedd iach i’r gweithgareddau a’r hamdden yn fy mywyd.
Gad i mi bob amser fod ag amser i bobl eraill, yn ogystal ag amser i mi fy hun.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Gorffennaf 2008    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon