Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Cofroddion

Pwysleisio pa mor bwysig yw cofio am y sacrament o Gymun Bendigaid, a deall ei ystyr.

gan Helen Redfern

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Pwysleisio pa mor bwysig yw cofio am y sacrament o Gymun Bendigaid, a deall ei ystyr.

Paratoad a Deunyddiau

  • Dewch â chofroddion a chofarwyddion o’ch eiddo eich hun i’w dangos ac i siarad amdanyn nhw. Bydd gofyn i chi osod y rhain allan ymlaen llaw yn barod i chi eu defnyddio, ac fel bydd pawb yn gallu eu gweld.

  • Hefyd, cwpan a phlât, neu lun o fara a gwin y cymun.

Gwasanaeth

  1. Tybed faint ohonoch chi sy’n berchen ar y pethau canlynol:
    Modrwy allweddi neu rywbeth sydd â llun Mickey Mouse arno, o Disneyland?
    Tegan storm eira o’r Empire State Building o Efrog Newydd?
    Sombrero o Sbaen?
    Miniwr pensiliau ar ffurf Twr Eiffel?
    Cragen o’r Caribî?
    Pwrs deunydd brithwe (tartan) o’r Alban?
    Beth am grysau T, mygiau, llwyau, pensiliau, neu unrhyw beth sydd â geiriau fel y canlynol wedi’i argraffu arnyn nhw: A souvenir from Clacton-on-Sea …neu’r Costa Brava … neu Canada efallai… neu ble bynnag?

  2. Siaradwch am un o’r cofroddion sydd gennych chi i’w ddangos - o ble y daeth, pa bryd y cawsoch chi hwnnw, ac am beth y mae’n eich atgoffa. 

    Yna gofynnwch i’r myfyrwyr sôn wrth yr un agosaf atyn nhw am un gofrodd sydd ganddyn nhw gartref, a dweud beth yw arwyddoceid y peth neilltuol hwnnw iddyn nhw.

  3. Mae’r gair swfenîr, neu ‘souvenir’ yn dod o’r iaith Ffrangeg, a’i ystyr mewn gwirionedd yw ‘i gofio’ neu ‘to remember’. Fe fydd teithiwr yn dod ag anrheg fach gartref gydag ef er mwyn yr atgofion sy’n gysylltiedig â’r peth hwnnw. Mae’r atgofion yn golygu llawer mwy na’r peth ei hun - mae’n rhywbeth gweledol sy’n atgoffa rhywun o wyliau da neu amser llawn hwyl a gafodd rhywun gyda theulu neu ffrindiau, sy’n eu hatgoffa efallai am dywydd da neu brofiad bythgofiadwy.

  4. Yn yr un ffordd, efallai bod gennych chi gofarwydd neu memento o achlysur arbennig, neu gofrodd sy’n peri i chi gofio am rywun sydd wedi marw. Mae’r pethau hyn yn eich atgoffa o ddigwyddiad arbennig neu o rywun arbennig.

    Rhowch enghraifft o rywbeth arall sydd gennych chi eich hun sy’n enghraifft o hyn, os oes rhywbeth neilltuol gennych chi.

  5. Mae rhan o Efengyl Luc, pennod 22, yn sôn am y pryd bwyd olaf a rannodd Iesu gyda’i ffrindiau. Mae Iesu’n gwybod na fydd gyda nhw’n llawer hirach, ac mae’n awyddus i adael rhywbeth iddyn nhw fydd yn eu hatgoffa ohono. 

    ‘Cymerodd fara, ac wedi diolch fe’i torrodd a’i roi iddynt gan ddweud, “Hwn yw fy nghorff sy’n cael ei roi er eich mwyn chwi; gwnewch hyn er cof amdanaf.” Yr un modd hefyd fe gymerodd y cwpan ar ôl swper gan ddweud, “Y cwpan hwn yw’r cyfamod newydd yn fy ngwaed i, sy’n cael ei dywallt er eich mwyn chi..”’ (Luc 22.19–20)

  6. Fe gymerodd Iesu ddau beth, oedd yn bethau cyffredin bywyd bob dydd yr oes honno, a rhoi arwyddocâd newydd iddyn nhw. Bob tro y byddai ei ffrindiau yn bwyta bara ac yn yfed gwin ar ôl hynny, fe fydden nhw’n cofio am Iesu ac am bob peth roedd wedi ei wneud iddyn nhw.

    A hyd heddiw, dros 2,000 o flynyddoedd yn ddiweddarach, mae Cristnogion ledled y byd yn cofio Iesu a’i farwolaeth ar y groes, maen nhw’n gwneud hynny trwy rannu’r bara a’r gwin gyda’i gilydd. Mae rhai yn galw’r gwasanaeth yma’n Wasanaeth y Cymun Bendigaid, eraill yn ei alw’n Ewcharist. Yr Offeren fydd rhai yn galw hyn, ac eraill yn sôn am Wasanaeth Torri’r Bara. Un enw arall hefyd ar hyn yw Swper yr Arglwydd. Mae pob un o’r rhain, fel ei gilydd, yn defnyddio’r symbolau yma o fara a gwin i’w helpu i gofio.

    Atgyfnerthwch y pwynt yma trwy ddangos y cwpan a’r plât, neu’r llun o’r bara a’r gwin.

Amser i feddwl

Treuliwch amser yn cofio.
Treuliwch amser yn cofio am y bobl sydd wedi’ch caru chi:
Y ffrindiau sydd wedi chwerthin gyda chi,
Y teulu rydych chi wedi byw gyda nhw,
A’r rhai hynny sydd wedi eich adnabod yn dda ac wedi eich derbyn chi fel rydych chi.
Treuliwch amser yn cofio am y digwyddiadau sydd wedi eich newid chi:
Y llefydd rydych chi wedi bod ynddyn nhw,
Y pethau rydych chi wedi’u gweld,
Y pethau rydych chi wedi’u cyflawni, pethau na wnaethoch chi erioed freuddwydio y byddech chi’n eu gwneud.
Treuliwch amser yn cofio am y credoau sydd wedi’ch siapio chi:
Y patrymau ymddwyn sydd wedi’ch ysbrydoli chi,
Y gornestau sydd wedi’ch ffurfio chi,
A’r gwirioneddau rydych chi wedi’u darganfod sy’n eich rhyddhau chi.
Treuliwch amser yn cofio.

Dyddiad cyhoeddi: Gorffennaf 2008    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon