Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Dim Ond trwy Ras Duw

Annog y myfyrwyr i feddwl am ddigartrefedd, ac am eu hagwedd tuag at bobl sy’n ddigartref.

gan Helen Redfern

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 3

Nodau / Amcanion

Annog y myfyrwyr i feddwl am ddigartrefedd, ac am eu hagwedd tuag at bobl sy’n ddigartref.

Paratoad a Deunyddiau

  • Nodwch fod y gwasanaeth arall sydd ar y pwnc, Cylchgrawn y Big Issue, wedi’i baratoi ar gyfer Cyfnod Allweddol 4 a 5.

  • Gwefannau defnyddiol: www.careforthefamily.org.uk
    www.aquilaway.org
    http://england.shelter.org.uk (golwg cyffredinol ar ddigartrefedd)

  • Bydd nifer o gadeirlannau’n trefnu ‘Big Sleep’. Efallai yr hoffech chi ymchwilio beth fyddai ymateb eich cadeirlan leol, a gwahodd myfyrwyr i gymryd rhan os oes rhywbeth felly’n cael ei drefnu. Yn aml, mae gan gadeirlannau adran addysg a allai eich cyfarwyddo.

Gwasanaeth

  1. Gwrandewch ar y darn yma o waith rhywun o’r enw Rob Parsons:  I was on the Underground when it happened. I was huddled in the midst of dozens of commuters, each with their noses in a magazine or newspaper. A young homeless man got on the train and began asking for money. I don’t know if I imagined it, but it seemed that as soon as he started speaking we all slid a little deeper into our reading material. And then suddenly he lifted his head and addressed the whole carriage: ‘Ladies and gentlemen,’ he began, ‘I don’t want to be like this and I haven’t always been like this. But you should all know that anything can happen to anybody.’ His words hung in the air and we lifted our eyes from our newspapers and looked at him. We knew that suddenly there was a philosopher on the train and he was right: anything can happen to anybody.(Dyfyniad o Care for the Family, gyda chaniatâd Rob Parsons.)

  2. Sut rydych chi’n ymateb pan fyddwch chi’n gweld rhywun digartref yn cysgu ar y stryd? Beth fyddwch chi’n ei wneud pan welwch chi rywun yn gwerthu’r cylchgrawn Big Issue?

    Ydych chi’n edrych y ffordd arall … neu a ydych chi’n cytuno â’r dyn ifanc ar y trên y gall unrhyw beth ddigwydd i unrhyw un?

    Mae’n hawdd iawn cymryd yr hyn sydd gennym ni’n ganiataol – to uwch ein pennau, teulu gofalgar, digon o fwyd, addysg dda.

    Ond wyddom ni ddim beth all fod rownd y gornel. Dyma pam y bydd rhai yn dweud peth fel, ‘Trwy ras Duw yr ydwyf finnau yma’, neu ‘There but for the grace of God go I.’

  3. Gadewch i ni edrych ar o ble daeth y dywediad hwn. Roedd dyn o’r enw John Bradford yn gefnogwr brwd o’r Diwygiad Protestannaidd yn Lloegr yn yr unfed ganrif ar bymtheg. Yn ystod mis cyntaf teyrnasiad y frenhines Babyddol, Queen Mary, cafodd Bradford ei arestio a’i garcharu oherwydd ei ymroddiad i Eglwys Loegr.

    Rywbryd yn ystod ei garchariad yn Nhwr Llundain, fe welodd grwp o garcharorion yn cael eu harwain i’w dienyddiad, ac fe ddywedodd, ‘There but for the grace of God, goes John Bradford’. Ac mae pobl yn parhau i ddweud y geiriau hyd heddiw: ‘There but for the grace of God …’

    Ar 31 Ionawr 1555 daethpwyd ag achos yn erbyn Bradford ei hun, ac fe’i condemniwyd yntau i farwolaeth. Fe’i llosgwyd wrth y stanc.

  4. Gwyddai John Bradford na allai gymryd ei fywyd yn ganiataol. Fe wyddai’r dyn ar y trên na allai gymryd y to oedd ganddo uwch ei ben yn ganiataol ychwaith. Gall unrhyw beth ddigwydd i unrhyw un.

    Yn ystod mis Mai 2008, cynhaliwyd The Big Sleep yng Nghadeirlan Newcastle, Lloegr, a’r bwriad oedd rhoi’r syniad i bobl ifanc sut beth yw bod yn ddigartref. Cysgodd cannoedd o bobl ifanc allan ar y stryd, am un noson yn unig, er mwyn sefyll mewn cydsafiad â phobl oedd heb unlle i gysgu'r noson honno a phob noson arall hefyd. 
    Dyma ddyfyniad gan ferch o’r enw Jane Brown, fu’n sôn am ei phrofiad y noson honno:
    We had actors role-playing throughout the night as homeless people, people busking with guitars, a soup kitchen, police moving everyone on in the early hours and dust men waking them up in the morning just as they might do on the streets. We also had sound effects waking the young people up through the night e.g. dog barking, police sirens going off, the noise of people exiting a club at closing time. (Dyfyniad o Aquila Way gyda chaniatâd gan Jane Brown.)

    Mae ychydig o ddealltwriaeth yn golygu llawer.

Amser i feddwl

Merch ifanc yn gwerthu’r Big Issue,
Bachgen yn cysgu mewn bocs cardfwrdd,
Grwp o bobl yn swatio o dan bont,
Byd o wahaniaeth rhwng eu byd hwy a’n byd ninnau.
Gadewch i ni feddwl am yr holl bethau sydd gennym ni, a diolch:
Am deulu gofalgar ...
Am do uwch ein pennau …
Am y bwyd a’r dillad sydd eu hangen arnom ni bob dydd …
Byd o wahaniaeth rhwng ein byd ni a’u byd hwythau.
Gall ein byd ni gyffwrdd â’u byd hwy.
Gallwn roi amser, bwyd, dillad ac arian i sefydliadau lleol sy’n ymwneud â’r digartref.
Gallwn brynu’r Big Issue.
Gallwn wenu ar yr unigolyn heb farnu ei sefyllfa.
Gallwn gofio geiriau’r dyn ifanc ar y trên.
“Gall unrhyw beth ddigwydd i unrhyw un.”

Dyddiad cyhoeddi: Medi 2008    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon