Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

A yw o Bwys Beth yw’r Maint?

Sgwrsio am bethau da yn dod mewn pecynnau bach, i ddangos y gall maint fod yn dwyllodrus.

gan Oliver Harrison

Addas ar gyfer

Nodau / Amcanion

Sgwrsio am bethau da yn dod mewn pecynnau bach, i ddangos y gall maint fod yn dwyllodrus.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen un LP (record feinyl 12 modfedd), un CD, a chwaraewr MP3.

Gwasanaeth

  1. Dangoswch yr LP. Gofynnwch i’r myfyrwyr ydyn nhw’n gwybod beth ydyw! Siaradwch am y record, ac eglurwch ei bod yn dal gwerth tua 40 munud o gerddoriaeth.

    Dangoswch y CD. Gofynnwch i’r myfyrwyr beth ydi hwn. Siaradwch am hwn eto, ac eglurwch fod y disg yn dal gwerth tua 80 munud o gerddoriaeth. Ddwywaith gymaint, ond mae’n llawer llai o faint na’r record feinyl.

    Dangoswch y chwaraewr MP3. Holwch faint o’r myfyrwyr sy’n berchen ar un o’r rhain. Faint sydd ag un yn eu poced ar hyn o bryd? Gwerth faint o amser o gerddoriaeth mae eich un chi yn ei ddal?

    Yr MP3 yw’r lleiaf o’r tri pheth, ond hwn yw’r un sy’n dal mwyaf o gerddoriaeth. Mae’r amser yn gyfwerth â’r oriau sydd mewn wythnos ysgol gyfan. Fe allech chi ddechrau chwarae’r gerddoriaeth ar fore Llun, a’i chwarae bob dydd a phob nos ar hyd yr wythnos tan nos Wener.

  2. Siaradwch am bethau da yn dod mewn pecynnau bach, ac y gall maint fod yn dwyllodrus. Er enghraifft, mae’r papurau arian sydd gennym, £10, £20, £50,  fwy neu lai'r un maint ond maen nhw’n gwahaniaethu’n fawr o ran eu gwerth …

  3. Mae stori yn y Beibl (1 Samuel 16.1-13) sy’n egluro sut mae Duw yn gweld pobl.

    Doedd y Brenin Saul ddim yn frenin da iawn yng ngolwg Duw. Fe benderfynodd Duw anfon Samuel, y proffwyd a oedd yn siarad ar ran Duw, i ddewis y brenin nesaf.

    Pan gyrhaeddodd Samuel dref Bethlehem, rhoddodd Duw orchymyn iddo fynd i gartref dyn o’r enw Jesse. Roedd gan Jesse nifer o feibion, a gofynnodd Samuel am gael gweld pob un ohonyn nhw. Fe ddaethon nhw at Samuel yn eu trefn o’r hynaf i’r ieuengaf. Roedd yr hynaf yn oedolyn, a oedd ar y pryd yn gwasanaethu yn y fyddin. Tybiodd Samuel fod Duw yn bwriadu i’r mab hynaf hwn fod yn frenin. Ai hwn fyddai’r  brenin newydd? Ond dywedodd Duw, Na. Yn ei galon, fe deimlodd Samuel Duw’n dweud: ‘Mae pobl yn edrych ar yr hyn maen nhw’n ei weld ar yr ochr allan, ond rydw i’n edrych ar y galon.’

    Felly, galwyd ar yr ail frawd. Ond dywedodd Duw na eto. Galwyd ar y nesaf, a’r nesaf, ond na oedd yr ateb bob tro. Ar ôl i saith mab Jesse ddod i mewn, a Duw yn gwrthod pob un, fe ofynnodd Samuel i Jesse a oedd ganddo ragor o feibion. Cyfaddefodd Jesse fod ganddo un mab arall, yr ieuengaf, Dafydd. Plentyn oedd Dafydd o hyd, ac roedd ar y pryd yn gofalu am y defaid ar y bryniau. Anfonwyd am Dafydd a phan gyrhaeddodd y ty, edrychodd Samuel arno ac fe wyddai ar unwaith mai hwn oedd dewis Duw i fod yn frenin. Roedd Duw’n hoffi’r ffordd roedd Dafydd yn meddwl ac yn ymddwyn. Roedd Duw’n hoffi calon Dafydd. (Er efallai yr hoffech chi wybod bod yr un a ysgrifennodd y stori wedi disgrifio pa mor olygus oedd Dafydd - mae’n debyg bod hyn yn difetha rhywfaint ar neges y stori!)

  4. Mae’r Beibl yn dweud nad yw Duw’n barnu pobl yn ôl edrychiad, ond yn ôl yr hyn sydd yn y galon. Nid yn ôl pa mor olygus a hardd y maen nhw’n edrych ar y tu allan, ond yn hytrach yn ôl sut rai ydyn nhw o’r tu mewn. Ydyn nhw’n garedig ac yn onest a doeth? Hefyd, a ydyn nhw’n bobl fel y brenin Dafydd, a fyddai’n ddigon dewr i ddweud ei bod hi’n ddrwg ganddyn nhw pe bydden nhw’n gwneud camgymeriad, ac yn barod i ddechrau eto?

Amser i feddwl

Myfyrdod  
Meddyliwch am y bobl rydych chi’n eu hystyried yn ddeniadol.
Fe allai fod yn rhywun enwog ym myd y cyfryngau,
Fe allai fod yn ffrind i chi,
Fe allai fod yn rhywun enwog o fyd chwaraeon.
Nawr, meddyliwch am y bobl rydych chi’n hoffi bod yn eu cwmni.
Pobl rydych chi’n ymddiried ynddyn nhw,
Pobl sy’n gofalu amdanoch chi,
Pobl sydd â chalon garedig.

Gweddi  
Fe fyddwn ni fel pobl yn edrych ar ochr allan pobl eraill, ond mae Duw’n edrych ar y galon.
Bydded i fy nghalon fod yn dda ac yn dderbyniol.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Medi 2008    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon