Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Nid yn Codi Llaw, Ond yn Boddi!

Galluogi myfyrwyr i ddeall pa mor bwysig yw hi i ni rannu ein teimladau dyfnaf.

gan Paul Hess

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Galluogi myfyrwyr i ddeall pa mor bwysig yw hi i ni rannu ein teimladau dyfnaf.

Paratoad a Deunyddiau

  • Efallai yr hoffech chi chwarae’r gân ‘Nobody Knows’, gan y Toni Rich Project, a dyfynnu rhai o’r geiriau, fel cyflwyniad i’r gwasanaeth, (neu fe allech chi ddefnyddio cân Smokey Robinson, ‘Tracks of my Tears’). Mae geiriau’r ddwy gân (ar gael ar-lein) yn darlunio’n dda thema’r gwasanaeth hwn: yr wynebiad rydyn ni’n ei greu er mwyn gallu cuddio ein gwir deimladau.

  • Fe fydd arnoch chi angen copi o’r gerdd ‘Not Waving But Drowning’ gan Stevie Smith

Gwasanaeth

  1. Darllenwch y gerdd ‘Not Waving But Drowning’ gan Stevie Smith.

  2. Nifer o weithiau yn ystod y dydd heddiw - 10, 15, 20 gwaith, efallai - fe fydd pobl a welwn ni yn yr ysgol, neu'r tu allan i’r ysgol, yn gofyn i chi ac i minnau sut rydyn ni. Yn amlach na pheidio, fe fyddwn ni’n ymateb yn y modd mwyaf cyffredin, ac yn dweud: ‘Iawn, diolch’. Ac, wrth gwrs, y rhan fwyaf o’r amser efallai bod hynny’n hollol wir amdanom ni. Fe fyddwn ni’n iawn, ac yn dweud y gwir am hynny. A phan fydd rhywun rydych chi’n ei adnabod yn eich gweld chi ar y coridor wrth i chi fynd i’ch gwersi, ac yn gofyn, ‘Ti’n iawn?’ nid dyma’r amser y byddech chi’n debyg o roi ateb fel, ‘Wel, nac ydw mewn gwirionedd. A dweud y gwir rydw i’n teimlo bod rhyw gwmwl mawr du uwch fy mhen sy’n fy llethu ac yn gwneud i mi deimlo’n isel iawn, iawn. Yn wir, dydw i ddim yn gweld llawer o bwrpas yn fy modolaeth!’

  3. Ond, mae ar bob un ohonom angen rhywfaint o le, lle diogel, lle gallwn ni fod yn ni ein hunain, a lle gallwn ni fod yn onest am y ffordd rydyn ni’n teimlo mewn gwirionedd. Gydag aelodau o’ch teulu neu eich ffrindiau agosaf mae’n debyg y byddai lle felly. Neu, efallai y byddech chi angen neilltuo amser i gael sgwrs â’ch cynghorydd ysgol. (Mae cyfle yma i gyfeirio at y cynghorydd ysgol neu at ba wasanaeth bugeiliol arall sydd ar gael yn yr ysgol.)

    Gyda phwy bynnag y byddwn ni’n cael sgwrs, mae ar bob un ohonom angen dod i le lle nad oes rhaid i ni wisgo masg neu chwarae rôl - lle does dim rhaid i chi actio’r clown neu’r chwaraewr rygbi gwydn, yr ‘hip-hop gangsta’ neu’r ‘ultra-chic super model’.

  4. Yn aml, fe fyddwn ni’n creu persona fel yma er mwyn amddiffyn ein hunain, amddiffyn ein hunain rhag pobl eraill a rhag poen sydd o’n mewn. Wrth greu persona  neilltuol i ni ein hunain, fe fyddwn ni’n dod yn debyg i’r unigolyn sydd yng ngherdd Stevie Smith: rhywun sy’n rhoi’r argraff ei fod yn codi ei law yn llawen ac yn dweud bod popeth yn iawn (‘ydw, rydw i’n iawn, dim problem’) pan fyddan nhw mewn gwirionedd yn boddi; hynny yw, yn teimlo’n anhapus, yn isel neu’n bryderus. Os byddwn ni’n smalio’n barhaus fod popeth yn iawn, a hynny ddim yn wir, rydym mewn perygl o fod yn ynysig ac yn unig - ac yn y pen draw fe fyddwn ni’n methu ag ymdopi â holl ofynion a phwysau bywyd.

  5. Yn greiddiol i’r ffydd Gristnogol, yn wir o’i dechrau cyntaf, mae’r syniad o Dduw sydd wedi ein creu, ac sydd felly yn ein hadnabod yn well nag yr ydym yn adnabod ein hunain. Mae Cristnogion yn credu mai yn eu perthynas â Duw y gallan nhw fod yn nhw’u hunain mewn gwirionedd. Wrth weddïo, does dim rhaid i ni wisgo masg na smalio – fe allwn ni fod yn hollol onest ac yn agored. Pan fyddwn ni yng nghwmni Duw, fe allwn ni gydnabod ein bod ni’n fregus.

    Gobeithio y gall pob un ohonom, yn ein perthynas â Duw, ac yn ein perthynas â’r naill a’r llall, ddod o hyd i le lle gallwn ni fod yn ni ein hunain mewn gwirionedd, a lle gallwn ni fod yn hollol onest.

Amser i feddwl

Myfyrdod
Arglwydd, yr wyt ti wedi fy chwilio a’m hadnabod. Gwyddost ti pa bryd y byddaf yn eistedd ac yn codi; yr wyt wedi deall fy meddwl o bell; yr wyt wedi mesur fy ngherdded a’m gorffwys, ac yr wyt yn gyfarwydd â’m holl ffyrdd.
(Salm 139)

Gweddi
Arglwydd, rwyt ti’n ein hadnabod ni yn well nag rydyn ni’n adnabod ein hunain:
rho i ni’r gras i gydnabod ein gwendidau a Chydnabod mor fregus ydym ni. 
Er ein bod weithiau’n teimlo’n unig, diolch dy fod ti gyda ni bob amser. 
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Medi 2008    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon