Angylion
Galluogi disgyblion i weld mai negeswyr yw angylion sy’n dweud wrthym ni am gariad Duw.
gan Paul Hess
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Uwchradd)
Nodau / Amcanion
Galluogi disgyblion i weld mai negeswyr yw angylion sy’n dweud wrthym ni am gariad Duw.
Paratoad a Deunyddiau
- Fe fyddwch chi angen copi o gân Robbie Williams, ‘Angels’ i’w chwarae.
- Darlleniad o’r Beibl: Genesis 21.17–20.
Gwasanaeth
- Chwaraewch y gân wedi i’r disgyblion setlo, yn hytrach na phan fyddan nhw’n dod i mewn i’r gwasanaeth – bydd hyn yn rhoi gwell cyfle iddyn nhw wrando ar y geiriau’n ofalus.
- Fel cyflwyniad ysgafn, efallai yr hoffech chi holi’n fras beth mae’r disgyblion yn ei feddwl o Robbie Williams fel canwr, e.e. Pawb sy’n ffan o Robbie Williams i godi eu dwylo … ydych chi wedi clywed sôn am Robbie Williams, erioed?
- Pa un a ydych chi’n ffan ai peidio, does dim dwywaith bod rhyw swyn ynghylch y gân neilltuol hon. Rai blynyddoedd yn ôl roedd ar frig y siartiau ac yn boblogaidd iawn, ac fe gyffyrddodd â chalon llawer un. Mae neges y gân yn treiddio i galon bodolaeth ddynol - yr angen i gael eich caru’n llawn ac yn ddiamod, yr angen i gael eich caru bob amser heb i’r sawl sy’n eich caru gefnu arnoch chi.
Ystyriwch eiriau’r cytgan, sy’n dechrau gyda’r geiriau: ‘And through it all’ (oherwydd amodau hawlfraint, nid yw’n bosib cynnwys geiriau’r gân yma).
Mae Robbie Williams yn breuddwydio am gariad sy’n mynd y tu hwnt i gariad dynol, cariad sydd yno bob amser, presenoldeb calonogol sefydlog ynghanol holl anwadalwch bywyd. - Un o’r credoau Cristnogol sy’n greiddiol i’r Ffydd Gristnogol yw bod Duw yn bresennol bob amser ac na fydd cariad Duw byth yn cefnu arnom ni. Waeth pa mor ddrwg y gall bethau fod, bydd presenoldeb Duw yn wastad gyda ni - ac, fel y mae cân Robbie Williams yn pwysleisio, yr angylion sy’n ein hatgoffa o’r cariad tragwyddol a dwyfol hwn.
- Nawr, gallaf eich clywed yn dweud – angylion? Creaduriaid mawr nefolaidd gydag adenydd mawr ac eurgylchau – Dydw i ddim wedi gweld un erioed, neu dydw i ddim yn coelio ynddyn nhw!
Mae’n bwysig cofio bod y gair Groeg ‘angelos’, o hwn y mae ein gair ni angel yn tarddu, yn syml yn golygu ‘negesydd’. Felly pan fyddwn yn meddwl am angylion dylem feddwl nid yn unig am fodau mawr nefolaidd, ond negeswyr dynol cyffredin – y bobl yn ein bywydau sy’n ein hatgoffa o gariad Duw tuag atom. - Byddaf bob amser yn rhyfeddu at y ffaith pan fyddaf yn teimlo’n wangalon, bod rhywun yn sicr o ddod heibio i ofyn sut ydw i, ac i gynnig gair syml o anogaeth gysur – neu i wneud i mi chwerthin!
Efallai yr hoffech chi yn y fan hon gynnwys enghraifft syml a phersonol o sut y bu i ‘angel’ eich helpu chi yn eich bywyd.
Ar adegau fel hyn yr ydym yn cael ein hatgoffa – trwy bobl eraill sy’n gweithredu fel negeswyr Duw neu angylion – bod Duw yn ein caru, a byth yn cefnu arnom ni. - Pan fyddwn yn mynd trwy amser caled yn ein bywydau, cofiwn na all ddim byd ein gwahanu oddi wrth gariad Duw. A chofiwn hefyd – mae angylion Duw yn nes atom nag a feddyliem ni…
- Caiff pob un ohonom hefyd ein galw i fod yn angel – i fod yn negesydd ar ran Duw. Daw pob diwrnod â chyfleoedd i ni gynnig cyfeillgarwch a chefnogaeth i’r rhai hynny sydd o’n cwmpas ni – i’w hatgoffa eu bod yn cael eu caru, a bod gofal drostyn nhw. Gall eich gair caredig chi fod yr union beth y mae’r person hwnnw ei angen ar y pryd.
Amser i feddwl
Yn Llyfr Genesis cawn hanes am y gaethferch honno, Hagar, gafodd ei gadael yn yr anialwch gyda’i mab Ishmael. Daeth angel oddi wrth Dduw i’w hatgoffa nad oedd hi wedi cael ei gadael ar ei phen ei hun.
Darllenwch Genesis 21.17–20.
Gweddi
Arglwydd, rhown ddiolch i ti am dy angylion, sy’n ein hatgoffa nad yw dy gariad byth yn cefnu arnom ni. Helpa ni, hefyd, i fod yn negeswyr o gariad i’r rhai sydd o’n cwmpas.
Amen.
Dyddiad cyhoeddi: Hydref 2008 Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.