Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Diwylliant

Edrych sut rydym, yn araf bach, yn dod yn fwy parod i dderbyn diwylliannau eraill, gan ddal gafael ar bethau sylfaenol, fel hawliau dynol.

gan James Lamont

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 4/5

Nodau / Amcanion

Edrych sut rydym, yn araf bach, yn dod yn fwy parod i dderbyn diwylliannau eraill, gan ddal gafael ar bethau sylfaenol, fel hawliau dynol.

Paratoad a Deunyddiau

Paratowch ddarllenwyr ar gyfer natur ‘ffug drafodaeth’ y gwasanaeth hwn.

  • Llwythwch i lawr/chwaraewch gerddoriaeth o ddiwylliant gwahanol i’ch un chi.  Efallai mai un o’r rhai hawsaf i gael mynediad ato yw Buena Vista Social Club, sy’n chwarae cerddoriaeth o Ciwba, ac sydd ar gael yn rhwydd.

Gwasanaeth

Darllenydd 1

Mae tua 6 biliwn o bobl yn byw yn y byd heddiw.  Oherwydd datblygiad cymdeithasol a thechnolegol, dim ond cynyddu a wnaiff y ffigwr hwnnw.  O fewn y boblogaeth enfawr hon, mae amrywiaeth mawr o ddiwylliannau; efallai y bydd rhai agweddau ar y diwylliannau gwahanol hyn yn ymddangos yn ddoniol neu’n rhyfedd i ni, ond maen nhw’n gyffredin i bobl eraill.

Darllenydd 2

Ynghyd â’r cynnydd yn y boblogaeth, ceir dulliau haws o gyfathrebu.  Gyda dyfodiad teithio drwy’r awyr, a dyfodiad y rhyngrwyd, gall perchnogion busnes archebu nwyddau o Tsieina heb adael y swyddfa, a gall yr un sy’n eu cynhyrchu drefnu eu hedfan nhw yma mewn mater o oriau.  Mae diwylliannau newydd a chyffrous o’n cwmpas ni ym mhobman, ac yn aml, y ffordd orau i’w deall nhw yw byw’r profiad.

Mae myfyrwyr yn cael eu hannog i dreulio semestrau mewn gwledydd eraill a dychwelyd i’w mamwlad gyda sgiliau newydd, a dealltwriaeth well, a mwy o barch at y rhai a roddodd groeso iddyn nhw.  Maen nhw wedyn yn gallu mynd ymlaen i gynnal trafodaethau busnes gyda phobl o ddiwylliannau eraill.  Drwy hyn, cyflawnir perthynas well rhwng y ddau ddiwylliant.  Mae pobl yn llai tebyg o gefnogi rhyfel yn erbyn gwlad maen nhw’n ei hedmygu a’i pharchu - ni fu rhyfel erioed rhwng dwy wladwriaeth gwirioneddol ddemocrataidd.

Darllenydd 3

Er hynny, mae ochr negyddol i’r arfer cynyddol hwn o deithio.  Mae awyrennau yn aml yn cael eu targedu am yr effaith amgylcheddol maen nhw’n ei gael, a’r perygl o gynhesu byd-eang, gan ddifrodi harddwch sydd yn aml yn denu twristiaeth i fan arbennig.  Mae’n ymddangos po fwyaf y byddwn ni’n dysgu am ein gilydd, y mwyaf y byddwn ni mewn perygl o niweidio ein gilydd mewn ffyrdd na ellir eu hadfer.

Eto i gyd, mae rhywbeth cadarnhaol i’w ddysgu o hyn: wrth i wledydd cyfoethocach a thlotach barhau i godi llen gwahaniaeth er mwyn gweld y cysylltiadau cyffredin sy’n ein huno ni, mae’r awydd am gamau byd-eang i achub pobl eraill yn tyfu.  Mae paneli solar sy’n cael eu gwneud yn yr Almaen yn cael eu defnyddio ar draws y byd i gynhyrchu ynni gwyrdd – dim ond un enghraifft o sut gall cenhedloedd gwahanol weithio gyda’i gilydd i ddatrys problemau sy’n gyffredin rhyngddyn nhw.

Mae’r bargeinion masnach y cytunwyd arnyn nhw gan wledydd gwahanol, sy’n galluogi’r cenhedloedd hynny i gydweithio, yn gofyn am arbenigwyr diwylliannol ac ieithyddol sy’n gorfod cael dealltwriaeth gref o iaith a chymdeithas y wlad a’r diwylliant arall.  Mae’r byd rydym yn byw ynddo yn dibynnu ar ddealltwriaeth a pharch.

Darllenydd 4

Ond, mae problemau sydd angen eu datrys yn parhau i fodoli.  Er enghraifft, mae Tsieina yn gwrthwynebu galwadau arni i ganiatáu rhagor o hawliau dynol, gan eu galw nhw’n ‘syniadau gorllewinol’ nad ydyn nhw’n gymwys i wladwriaeth Asiaidd fel hi ei hun.  Mae hyrwyddwyr hawliau dynol, fel Amnest Rhyngwladol, yn dweud bod hyn yn annerbyniol.  Maen nhw’n dadlau bod rhai hawliau dynol yn gyffredinol, yn trosgynnu diwylliant a chymdeithas, a’i bod hi’n ddyletswydd ar genhedloedd ,sydd ag enw da am hawliau dynol, bwyso ar wledydd llacach i wneud rhagor.  Mae gan y naill ochr a’r llall ddadleuon cryf i gefnogi eu hachosion – mae hyn yn codi mater i’w drafod yn y dyfodol.

Amser i feddwl

Er gwaetha’r problemau sydd o’i flaen, mae’r byd wedi dod yn fwy goddefgar tuag at ddiwylliannau eraill.  Rydym yn byw mewn system wirioneddol ryngwladol heddiw, ac mae hiliaeth yn cael ei weld fel rhywbeth annerbyniol.  Bydd anghytundeb bob amser tra bydd gwahaniaethau yn parhau, ac efallai bod yr anghydfodau rydym yn eu hwynebu yn rhywbeth y bydd yn rhaid i ni eu derbyn am y tro.

Gweddi
Yn eich meddwl chi, ystyriwch yr holl ddiwylliannau gwahanol rydym yn gwybod amdanyn nhw’n barod, er enghraifft, myfyrwyr yma yn yr ysgol y mae eu teuluoedd wedi dod i’r wlad hon am resymau amrywiol, ac sy’n dod â phrofiadau a gwybodaeth gyda nhw rydym yn eu rhannu.
Meddyliwch am wledydd yr ydych wedi ymweld â nhw, o bosibl.  Beth oedd yn wahanol am y ffordd roedd pobl yn byw eu bywydau, ac am eu gwerthoedd?
Meddyliwch am wledydd yr ydym yn ei chael hi’n anodd eu deall, sy’n gweithio â systemau sy’n ddieithr i’n ffordd ni o fyw.  A meddyliwch am y bobl sy’n byw mewn systemau o’r fath.
Efallai yr hoffech chi droi’r geiriau hyn yn weddi i chi eich hunan hefyd:
Helpa ni i wrando ar bobl eraill sydd â safbwyntiau gwahanol,
i dyfu drwy’r gwrando hwnnw,
i gydnabod gwerth safbwyntiau eraill,
a gweithio bob amser tuag at ryddid go iawn i bawb.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Tachwedd 2008    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon