Nadolig Gwasgfa Ariannol
Annog y myfyrwyr i ystyried beth yw neges hanfodol, ddiwyro, y Nadolig.
gan Brian Radcliffe
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Uwchradd)
Nodau / Amcanion
Annog y myfyrwyr i ystyried beth yw neges hanfodol, ddiwyro, y Nadolig.
Paratoad a Deunyddiau
- Fe fydd arnoch chi angen anrheg wedi’i lapio, coeden Nadolig, cerdyn Nadolig, llun o ginio Nadolig, a ffrog parti eithaf crand.
Gwasanaeth
- Mae’n ddrwg gen i orfod dweud hyn wrthych chi, ond oherwydd yr argyfwng ariannol y mae’r wlad ynddo ar hyn o bryd, rhaid i ni dorri i lawr ar yr hyn rydyn ni’n ei wario y Nadolig yma. Rhaid i ni adael rhywbeth allan os ydyn ni am ei gwneud hi i’r Flwyddyn Newydd. Felly, ble gallwn ni arbed arian?
- (Dangoswch yr anrheg Nadolig.) Fe fyddai’n bosib i ni arbed llawer o arian trwy beidio rhoi a derbyn anrhegion. Meddyliwch faint ohonyn nhw fyddwn ni mewn gwirionedd eu heisiau, beth bynnag! Bob blwyddyn, fe fydd rhywun yn siwr o roi rhywbeth fel pâr o hosanau neu bethau ymolchi i ni, y byddwn ni wedyn yn eu gwthio i gwpwrdd neu ddrôr ac yn anghofio amdanyn nhw. Byddai, fe fyddai’n bosib i ni arbed llawer trwy beidio prynu anrhegion.
- (Dangoswch y goeden Nadolig.) Y goeden Nadolig. Os yw eich coeden yn goeden go iawn, yna fe fydd Mam yn cwyno am yr holl nodwyddau pîn sy’n disgyn o’r goeden ar y carped, ac yn dweud mor anodd yw eu codi. Mae’r goeden yn mynd â llawer o le yn y ty hefyd, ac mae rhywun yn siwr o fynd ar ei thraws rywbryd yn ystod y gwyliau, a’i throi! Ie, rydw i’n meddwl y byddai’n bosib gwneud heb y goeden heb fawr o gwyno gan neb.
- (Dangoswch y cerdyn Nadolig.) A beth am y cardiau Nadolig - oes rhywun yn dal i anfon rhai? Fe fyddai’n llawer haws anfon neges testun neu neges e-bost i bawb sydd yn ein cyfeirlyfr, gan ddymuno Nadolig llawen i bawb sy’n ein hadnabod. Trwy wneud hynny, fe fyddem yn sicr o beidio anghofio unrhyw un ac yn arbed rhai punnoedd yn siwr.
- (Dangoswch y llun o’r cinio Nadolig.) Dydw i ddim mor siwr am hwn. Meddyliwch - dim cig twrci blasus, dim tatws rhost, dim sosej wedi’u lapio â bacwn, dim moron na sbrowts .…
(Oedwch am foment ac edrychwch ar eich cynulleidfa.)
Wel, efallai y byddai rhai ohonoch yn barod i anghofio am y sbrowts efallai! Ond a fyddai modd gwneud heb y cinio? Pe byddai’n rhaid i ni, fe allen ni gael ffa pob ar dost - fydden ni ddim yn newynu. - (Dangoswch y ffrog grand.) Ydi’r wisg oedd gennych chi y llynedd yn dal i fod gennych chi? Ac yn fwy na hynny - ydi hi’n dal i ffitio? Allech chi wisgo’r un peth eto eleni? Pe byddai pawb yn cytuno i wneud yr un peth, efallai na fyddai pobl mor hunanymwybodol. Felly, fe fyddai pawb ohonom yn arbed arian trwy beidio gorfod prynu dillad newydd.
- Iawn, rydyn ni wedi gallu meddwl am sawl ffordd y mae’n bosib gwneud arbedion, a hynny heb orfod gwneud heb unrhyw beth y mae’n rhaid i ni ei gael mewn gwirionedd. Fydden ni felly yn gallu gwneud heb y Nadolig yn gyfan gwbl?
Mae gwahanol wyliau gennym trwy gydol y flwyddyn, y Pasg, Gwyl Fai, Diolchgarwch, y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd. Mae pob un ohonyn nhw’n ein hatgoffa o ryw gred neu gysyniad sy’n ein dal gyda’n gilydd fel cymdeithas. Os ydych chi’n aelod o ffydd heblaw Cristnogaeth, yna fe fyddech chi’n ychwanegu gwyliau eraill at y rhestr, gwyliau sy’n bwysig er mwyn clymu eich cymuned ynghyd.
Ystyr y Nadolig yw’r gred Gristnogol bod Duw wedi dod i fyw bywyd dynol ymysg pobl gyffredin fel chi a minnau. Fe ddaeth i’r byd fel baban - Iesu. Mae stori’r Nadolig yn dweud wrthym sut y gwnaeth gwahanol bobl ymateb i’w enedigaeth mewn gwahanol ffordd: rhai â pharch, wedi rhyfeddu, ac yn llawn gobaith, eraill wedi synnu, yn ofnus ac yn ddig. Mae’n her i ni ystyried sut rydyn ni’n ymateb i waith Duw yn ein byd heddiw. - Mae stori Iesu i’w chael yn rhad ac am ddim. Does dim rhaid i ni dalu am ei darllen, nac am wrando arni, nac am ganu carolau sy’n adrodd y stori. Am hynny, fydden ni ddim yn gwneud unrhyw arbedion ariannol trwy adael allan stori’r Nadolig o’n dathliadau. Ond, gwaetha’r modd dyna’n aml yw’r peth cyntaf y gwnaiff pobl ei anghofio.
- Fe fydd y Nadolig eleni ychydig yn wahanol i lawer o bobl - ychydig yn fwy difrif, gyda pheth pryder am y dyfodol. Efallai na fyddwch chi eich hunan yn teimlo cymaint o wahaniaeth, ond fe allwch chi fod yn sensitif tuag at eich rhieni ac oedolion eraill rydych chi’n eu hadnabod. Fe fyddan nhw’n teimlo’r gwahaniaeth. Felly, atgoffwch nhw am stori’r Nadolig, a gofalwch eich bod, ryw dro yn ystod yr Wyl, yn darllen ac yn canu am y bugeiliaid a’r doethion, am Mair a Joseff, ac yn bennaf oll am Iesu.
Mae’n bosib y gwelwch chi fod hynny’n rhoi rhywfaint o anogaeth i bawb.
Amser i feddwl
Treuliwch foment yn ystyried y pethau canlynol. Fe allech chi eu troi’n weddi i chi’ch hunan:
Byddwch yn ddiolchgar am bopeth y gallwch chi edrych ymlaen ato y Nadolig yma, ac am y bobl rydych chi â ffydd ynddyn nhw fydd yn darparu’r pethau hyn.
Byddwch yn edifar am unrhyw agweddau hunan ganolog sy’n perthyn i chi, a’r teimlad o fod eisiau pethau i chi eich hun.
Gwnewch gynllun i weithredu ar unrhyw elfen sy’n codi o’r gwasanaeth heddiw. Fe allai’r peth neilltuol hwnnw fod yn rhywbeth fydd yn gwneud y Nadolig yn well i rywun arall. Neu, efallai y gallech chi roi gwybod i bobl eich bod yn disgwyl llai ganddyn nhw ar adeg anodd fel yr adeg hon. Yn bendant, gwnewch gynlluniau i edrych ar stori’r Nadolig, a meddwl beth allai’r stori ei olygu i chi yn ystod Nadolig 2008.
Cerddoriaeth
Dewiswch unrhyw garol fywiog.