Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Beth Sydd Y Tu Ol I'r Logos?

Ystyried y rhesymau sydd y tu ôl i noddi digwyddiadau ym myd chwaraeon.

gan Brian Radcliffe

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Ystyried y rhesymau sydd y tu ôl i noddi digwyddiadau ym myd chwaraeon.

Gwasanaeth

  1. Ychydig yn ôl, roedd rownd derfynol un o gemau pêl-droed y tymor, sef gêm Cwpan Carling. (Os ydych chi’n cofio’r canlyniad, soniwch rywfaint am y gêm.) Mewn gêm fel honno, mae’r tîm sy’n ennill, nid yn unig yn ennill tlws hardd, maen nhw hefyd yn sicrhau lle yn nhrefniadau gemau cwpan UEFA y tymor dilynol. Y tîm hwnnw fydd y tîm Prydeinig cyntaf i sicrhau lle yng ngemau Ewrop . A hynny trwy ennill gêm derfynol Cwpan Carling.

    (Oedwch)

    Digwyddiad chwaraeon sy’n cael ei noddi gan gwmni Carling.

    (Oedwch)

    Beth mae cwmni Carling yn ei gynhyrchu? (Anogwch y myfyrwyr r i gynnig ateb - cwrw.)

    Yn wir, nid y cwmni yma yw’r unig gwmni sy’n cynhyrchu alcohol sy’n ymwneud â noddi chwaraeon: mae gennym yr uwch gynghrair Guinness a’r Cwpan Heineken ym myd rygbi, twrnamaint tennis Stella Artois, a’r gystadleuaeth golff Johnny Walker, ac mae’n bosib y gallwch chi feddwl am ragor o enghreifftiau. Y cwestiwn yw: pam y mae’r cwmnïau yma’n gwario cymaint o arian yn noddi’r digwyddiadau yma?

  2. Yn gyntaf, mae’r cwmni eisiau cael ei enw brand i’r penawdau. Mae cyfyngiadau ar hysbysebu alcohol ym Mhrydain, yn enwedig ar y teledu. Felly, mae ailenwi’r digwyddiadau chwaraeon i gynnwys yr enw brand yn ffordd o gael enw’r cwmni ar y sianeli newyddion a chwaraeon. Rhaid galw’r Cwpan Carling yn Gwpan Carling (neu’r Carling Cup yn Carling Cup). 

    Yn ail, mae nod arall gan y cwmni hefyd, sef cael eu logo yn amlwg, er mwyn i bobl ei weld. Os yw’r mannau lle mae’r digwyddiad yn cael ei gynnal yn llawn o bosteri ac arwyddion a’r logo arnyn nhw, fe fydd y rheini’n ymddangos yn barhaus ar sgrin y teledu yn ystod y darllediad byw ac wedyn pan gaiff yr uchafbwyntiau’n eu hail ddangos. 

    Ac yn drydydd, mae bwriad i gysylltu’r cynnyrch â rhywbeth sy’n hybu iechyd a ffitrwydd, a hynny’n rhywbeth sydd i’w annog.

  3. Byddwn yn sylweddoli’n fuan y gall cymryd rhan mewn chwaraeon fod yn lles mawr, ond mae eistedd yn gwylio’r teledu gyda pheint neu ddau neu dri o gwrw yn beth hollol wahanol. A ddylen ni fod yn hapus gyda’r math yma o nawdd? Fe fyddai llawer yn tystio i’r gwrthwyneb.

  4. Efallai nad yw’r rhan fwyaf ohonom ni sydd yn y gwasanaeth yma heddiw yn dargedau’r nawdd yma gan y cynhyrchwyr alcohol. Mae wedi’i fwriadu ar gyfer pobl ychydig yn hyn. Ond eto, rydych chi’n cael eich targedu, er hynny, trwy ddigwyddiadau chwaraeon. Beth am y rhain i ddechrau? Coca-Cola sy’n noddi’r bencampwriaeth, yr adran bêl-droed sy’n is na’r uwch gynghrair. Mae McDonalds wedi noddi athletau ar gyfer pobl ifanc am lawer o flynyddoedd. Mae McDonalds hefyd yn noddi cymuned a chynlluniau hyfforddi ’r FA a nod y cwmni yw bod yn brif noddwr Gemau Olympaidd Llundain yn 2012. Mae Pizza Hut yn noddi hoci dynion a hoci merched, ac mae cwmni creision Walker’s y tu cefn i glwb pêl-droed Leicester City. 

    Daw cynnyrch pob un o’r cwmnïau hyn â rhybudd bwyta’n iach arno. Mae’r bwydydd hyn yn annhebygol o fod yn rhan o drefn ddietegol y rhan fwyaf o’r cystadleuwyr yn y prif gampau. Gall gorfwyta amharu’n fawr ar eu cyflawniad, yn union fel y gall yfed gormod o alcohol.

  5. Felly, sut mae’n bosib delio â’r mater yma o nawdd? Rhaid i ni yn gyntaf, fod yn ymwybodol o beth sy’n digwydd. Bwriad y noddi yw ceisio perswadio pobl gyffredin, fel chi a fi, i brynu cynnyrch y cwmnïau sy’n rhoi’r nawdd. Fe allen ni ymateb trwy ddweud, gyda’n gilydd, rywbeth fel hyn: ‘Ydych chi’n tynnu coes?’ Yna, fe allwn i awgrymu ein bod yn datgysylltu’r cwmnïau neilltuol rheini oddi wrth y chwaraeon. Fe allen ni wrthod defnyddio enw’r noddwr wrth gyfeirio at y digwyddiad. Fe allen ni’n bendant wrthod prynu’n cynnyrch sy’n cario enw neu logo’r noddwr. Fe ddylem ni fwynhau’r chwaraeon am yr hyn ydyn nhw, yn enwedig os ydyn ni’n gyfranogwyr. Ac weithiau, dim ond ambell waith, fe allen ni fwynhau Big Mac, neu fag o greision, neu hyd yn oed beint o gwrw os ydych chi’n ddigon hen - ond am ein bod awydd un o’r rhain yn hytrach nag oherwydd ein bod wedi cael ein perswadio gan hysbysebu clyfar y noddwr.

Amser i feddwl

Treuliwch foment yn ystyried y meddyliau canlynol. Efallai yr hoffech chi eu troi’n weddi:

Byddwch yn ddiolchgar am y mwynhad sydd i’w gael mewn digwyddiadau chwaraeon o fri.
Byddwch yn edifar am yr adegau y gwnaethoch chi orfwyta neu oryfed, a hynny wedi eich gwneud yn llai nag hollol iach.
Lluniwch gynllun i weithredu mewn rhyw ffordd ynghylch yr hyn rydyn ni wedi’i drafod heddiw yn y gwasanaeth. Fe allai hynny fod yn rhywbeth fel bod yn fwy o gyfranogwr nac o wyliwr.

Cerddoriaeth

We Are The Champions’ gan Queen

Dyddiad cyhoeddi: Mawrth 2009    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon