Pen-Blwydd Y Guru Nanak
Darganfod sut mae Sikhiaid yn dathlu pen-blwydd Guru Nanak.
gan Helen Levesley
Addas ar gyfer
- Cyfnod Allweddol 3
Nodau / Amcanion
Darganfod sut mae Sikhiaid yn dathlu pen-blwydd Guru Nanak.
Paratoad a Deunyddiau
- Er mwyn cael llun o’r Guru Nanak, edrychwch ar y wefan http://images.google.co.uk/images neu holwch yr Adran Addysg Grefyddol.
- Paratowch ddau i ddarllen.
Gwasanaeth
- Oes rhywun yn cael ei ben-blwydd ar Ebrill 13? (Mae’n bosib y bydd rhywun yn codi ei law.) Os cewch chi rywun yn ymateb, gallwch ddweud: Ydych chi’n gwybod eich bod chi’n rhannu’r un dydd pen-blwydd a bron18 miliwn o bobl eraill? Sut bynnag, rydych chi hefyd yn rhannu’ch dydd pen-blwydd â rhywun sy’n arbennig iawn gan Sikhiaid. Rydych chi’n rhannu eich pen-blwydd â sylfaenydd Sikhiaeth, sef y Guru Nanak. Er hynny, yn rhyfedd iawn, fe allai Sikhiaid ddathlu ei ben-blwydd ar 2 Tachwedd hefyd. Dyna dda ynte, gallu cael dau ben-blwydd!
- Sikhiaeth yw’r ieuengaf o chwe phrif grefyddau’r byd, wedi’i sefydlu gan y Guru Nanak: roedd Nanak wedi’i eni yn 1469, i deulu Hindwaidd dosbarth canol yn rhanbarth y Punjab ym Mhakistan. Bryd hynny, roedd gwrthdaro rhwng yr Hindwiaid a’r Mwslimiaid ynghylch pa grefydd oedd yr orau. Ar ôl siarad yn hir gyda nifer o ddynion sanctaidd, a thrafod ei syniadau, fe ddechreuodd y Guru Nanak addysgu athrawiaethau newydd. Fe ddechreuodd hyn o ddifrif ar ôl iddo gael profiad crefyddol cryf iawn, pryd y diflannodd wrth ymolchi yn yr afon. Er chwilio a chlirio’r afon yn llwyr, ni ddaeth corff i’r golwg.
- Ar ôl tri diwrnod, daeth Nanak yn ei ôl. Am ddiwrnod cyfan bu’n hollol ddistaw, ond wedi hynny fe gyhoeddodd ei fod wedi bod yn llys Duw ac wedi cael profiad uniongyrchol o Dduw. Yr unig lwybr iawn i’w ddilyn oedd llwybr Duw, nid ffordd yr Hindw, na ffordd y Mwslim, ond ffordd Duw. Roedd wedi cael profiad crefyddol mor ddwfn fel roedd y ffordd yr oedd yn gweld bywyd wedi newid, a’i holl ffordd o feddwl wedi newid hefyd.
- Mae Sikhiaid modern heddiw yn parhau i ddilyn ei athrawiaethau ynghylch mai dim ond un Duw sydd, a bod gan bob unigolyn ran o Dduw o’i fewn.
Gwrandewch ar y rhannau byr canlynol o’i athrawiaethau, a meddyliwch am sut y gallech chi ddilyn hyn yn eich bywyd chi eich hun:
Darllenydd 1: Does dim un cyfoethog neu dlawd, gwryw neu fenyw, dim un o gast uchel na chast isel o flaen Duw. Rhannau mewn o gymdeithas yw cast, ac mae’r unigolyn yn perthyn i’r cast neu’r rhan y cafodd ei eni iddi.
Darllenydd 2: Trwy weithredoedd y mae unigolion yn dod at Dduw.
Darllenydd 1: Fel mae persawr i’w gael mewn blodyn, ac adlewyrchiad i’w gael mewn drych, felly mae Duw i’w gael ym mhob enaid. Ceisiwch Dduw felly ynoch chi eich hunan. - A yw’n iawn, felly, i Sikhiaid ddathlu pen-blwydd eu sylfaenydd? Guru Nanak oedd y cyntaf o’r deg Guru sy’n perthyn i Sikhiaeth, ac mae gan bob un ei ddiwrnod arbennig. Caiff y dyddiau hyn eu galw’n gurpurbs, ac fe fyddan nhw’n cael eu dathlu’n frwdfrydig iawn ac yn llawn cyffro gan Sikhiaid. Beth fydd yn digwydd yn y math yma o ddathliad?
- Bydd Sikhiaid yn dathlu gurpurbs gydag Akhand Path. Akhand Path yw’r ddefod o ddarllen llyfr sanctaidd y Sikhiaid, y Guru Granth Sahib, o’i ddechrau i’w ddiwedd heb stopio. Fe fydd tîm o ddarllenwyr yn gwneud hyn, ac fel arfer mae’n cymryd tua 48 awr i gyflawni’r ddefod. Bydd y darllenwyr yn cymryd eu tro i ddarllen am tua dwy neu dair awr ar y tro, a hynny yn cynnwys darllen yn ystod oriau’r nos hefyd! Daw’r darllen i ben ar ddydd yr wyl. Mae hynny yn ymddangos yn amser hir, ond maen nhw’n ystyried hyn yn ffordd o addoli ac yn ffordd gan y Sikhiaid o ddangos ymroddiad. Yn y gurdwara y bydd hyn yn digwydd fel arfer, sef yr adeilad lle bydd Sikhiaid yn addoli.
- Mae’r gurdwara’n chwarae rhan bwysig yn y gurpurbs hefyd. Ar ddydd pen-blwydd y Guru Nanak, caiff adeilad y gurdwara ei addurno’n hyfryd â blodau, baneri a goleuadau. Fe fydd pawb o’r Sikhiaid yn ymuno gyda’i gilydd yn y gurdwara, gan wisgo’u dillad gorau. Fe fyddan nhw hefyd yn dod ynghyd yn y langar, neu yn yr ystafell fwyta gymunedol, a chael pryd bwyd gyda’i gilydd i ddathlu pen-blwydd eu sylfaenydd.
Amser i feddwl
Gadewch i ni feddwl am y profiad a newidiodd fywyd y Guru Nanak yn llwyr. Rwy’n siwr y gallwch chi i gyd feddwl am ryw brofiad rydych chi wedi’i gael sydd wedi gwneud rhywfaint o wahaniaeth i chi, neu sydd wedi gwneud i chi newid eich barn am rywbeth. Meddyliwch am y profiad hwnnw yn awr, a meddyliwch am sut y gwnaethoch chi weithredu wedi hynny. Roedd y profiad a gafodd y Guru Nanak wedi effeithio cymaint arno fel y teimlai ei fod eisiau arwain pobl eraill i ddilyn ei lwybr.
Gwrandewch ar ddwy o’r llawer o athrawiaethau a roddodd y Guru Nanak i ni:
Darllenydd 1: Trwy weithredoedd y mae unigolion yn dod at Dduw.
Darllenydd 2: Fel mae persawr i’w gael mewn blodyn, ac adlewyrchiad i’w gael mewn drych, felly mae Duw i’w gael ym mhob enaid. Ceisiwch Dduw felly ynoch chi eich hunan.
Ewch â’r syniadau yma allan gyda chi heddiw, a cheisiwch feddwl am eu hystyr. A gobeithio y daw'r heddwch y daeth y Guru Nanak o hyd iddo i’ch bywyd chithau heddiw.