Fforwm Datblygu Pobl Ifanc Sydd Ag Anableddau Corfforol (YPDDF) Uganda
gan James Lamont
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Uwchradd)
Nodau / Amcanion
Ystyried ein hagwedd tuag at anabledd ac ystyried sut mae’r Fforwm Datblygu Pobl Ifanc sydd ag Anableddau Corfforol, Youth with Physical Disabilities Development Forum (YPDDF) yn helpu pobl anabl yn Uganda i gael gwell ansawdd i’w bywyd.
Paratoad a Deunyddiau
Os hoffech chi gopïau o ddogfen Comisiwn Hawliau Dynol Uganda, a lluniau o YPDDF, neu ragor o wybodaeth am YPPDF, e-bostiwch info@feedtheminds.org.
Gwasanaeth
- Ar 2 Gorffennaf 2007, ceisiodd dyn o’r enw Fred Mugerwa fynd i mewn i dacsi. Yn Uganda, mae hynny’n rhan arferol o fywyd bob dydd, ac roedd Mr Mugerwa wedi synnu’n fawr pan ddeallodd na chai fynd i mewn i’r tacsi. Ond, cafodd pobl eraill a oedd heb anabledd fynd i mewn heb drafferth. Honnir bod gyrrwr y tacsi wedi’u dweud wrtho nad oedd ganddo amser i bobl oedd wedi’u ‘hanffurfio’.
- Nid oedd Mr Mugerwa am dderbyn hynny. Ar hyn o bryd mae’n ymladd achos yng Nghomisiwn Hawliau Dynol Uganda, sydd wedi derbyn os caiff ei honiadau eu profi, yna fe fydd y gyrrwr tacsi wedi troseddu yn erbyn ei hawliau cyfansoddiadol. Mae hefyd wedi cefnogi’r fforwm YPPDF, yr Youth with Physical Disability Development Forum - elusen sy’n anelu i roi grym i bobl ifanc sydd ag anableddau. Nod benodol y fforwm yw newid agwedd cymdeithas tuag at bobl anabl, trwy ymgyrchu a lobio, a chynyddu’r niferoedd o ysgoloriaethau prifysgol i bobl ifanc anabl.
- Heddiw, mae’r YPDDF yn canolbwyntio’n bennaf ar wella sgiliau eiriolaeth hawliau dynol i bobl ifanc anabl, eu helpu i fod yn fwy pendant ynghylch eu hawliau i gael eu cynnwys yn y gymdeithas. Mae’r llywodraeth wedi rhoi grant o $15,000 iddyn nhw ynghyd â rhoddion eraill i ganiatáu parhad prosiectau o’r fath. Nod arall y sefydliad hefyd yw dangos nad oes raid i unigolion anabl ddibynnu ar elusen - trwy hyfforddi a threfnu i’w haelodau fod yn economaidd gynhyrchiol, mae’n darparu model cynaliadwy ar gyfer datblygu gwell agweddau tuag at bobl sydd ag anableddau. Ymddengys bod ffermio a chynhyrchu yn ddau ddiwydiant sy’n bosib i bobl ag anableddau eu rheoli.
- Mae sefyllfa hawliau dynol yn y byd yn gwella’n gyffredinol. Er gwaetha’r ffaith bod rhai pobl yn parhau i fod yn anoddefgar, mae deddfau’n dal i amddiffyn y rhai hynny sy’n methu amddiffyn eu hunain. Yr hyn y mae’r achos cyfreithiol hwn, achos Mr Mugerwa, yn ei amlygu yw nid yn unig bod angen i ni ddileu gwahaniaethau trwy ein deddfau, mae angen i ni hefyd lwyr ddileu’r gwahaniaethu o’n diwylliant hefyd. Mae hyn yn golygu ymdrech gydunol gan bawb i beidio â derbyn anghyfiawnder, ond ei herio bob amser.
Amser i feddwl
Meddyliwch am unrhyw bobl anabl rydych chi’n eu hadnabod.
Fe allen nhw fod yn ifanc neu’n hen,
yn gyfoethog neu’n dlawd.
Sut rydych chi’n meddwl amdanyn nhw?
Oes gennych chi ragfarn am eu hanabledd?
(Saib)
Sut y gallech chi weithredu heddiw i wella ansawdd bywyd y rhai hynny sydd ag anabledd?
Gweddi
Helpa fi i edrych y tu hwnt i ymddangosiad allanol unigolyn
er mwyn gweld pob un fel yr wyt ti’n eu gweld nhw.
Helpa fi i’w gwerthfawrogi am bwy ydyn nhw,
a’u trin nhw fel y byddwn i fy hun yn hoffi cael fy nhrin ganddyn nhw.