Goleuni’r byd
Yr ail yn y gyfres sy’n ystyried datganiadau Iesu, ‘Myfi yw ... ’
gan Janice Ross
Addas ar gyfer
- Cyfnod Allweddol 2
Nodau / Amcanion
Ystyried datganiad Iesu mai ef yw goleuni’r byd.
Paratoad a Deunyddiau
- Fe fydd arnoch chi angen cardiau sydd â geiriau sy'n gysylltiedig â golau wedi eu hysgrifennu arnyn nhw, geiriau fel cannwyll, tortsh, tân gwyllt, y lleuad, goleuadau car, lamp glöwr, seren, matsien, lamp ddarllen, postyn lamp a haul. Fe fydd arnoch chi hefyd angen bwrdd gwyn i’r plant dynnu lluniau arno.
- Trefnwch fod delwedd gennych chi o faint yr haul o’i gymharu â maint y ddaear, a’r modd o’i dangos yn ystod y gwasanaeth. Mae enghraifft ar gael ar y wefan:http://tinyurl.com/lftmon9(sgroliwch i lawr at y drydedd ddelwedd).
- Fe fydd arnoch chi angen tortsh neu ddelwedd o olau tortsh, delwedd o olion traed a'r modd o arddangos y delweddau hyn yn ystod y gwasanaeth:
-mae delwedd o olau torsh yn goleuo ffordd ar gael ar:https://tinyurl.com/gqs3bvs
-a delwedd o olion traed ar draeth o dywod ar gael ar:https://tinyurl.com/j5tocz4 - Trefnwch fod y darnau canlynol o'r Beibl ar gael gennych chi , Genesis 1.3-5 ac Ioan 8.12. Efallai y byddwch yn dymuno trefnu i ddau blentyn ddarllen darnau hyn.
Efallai yr hoffech chi ymgyfarwyddo â’r gwasanaeth blaenorol yn y gyfres hon oddi ar wefan y Gwasanaethau, sef Bara’r Bywyd. http://cymru.assemblies.org.uk/pri/2845/bara-r-bywyd
Gwasanaeth
- Os gwnaethoch chi gyflwyno'r gyntaf o'r gwasanaethau yn y gyfres hon, ‘Bara'r Bywyd’, atgoffwch y plant am y defnydd o drosiad i ddisgrifio unigolyn. Nid torth o fara mewn gwirionedd yw Iesu, ond rhywun sy'n gallu maethu a bodloni'n ysbrydol, yn union fel y mae bara yn gallu gwneud hynny mewn modd corfforol. Eglurwch fod y gwasanaeth hwn yn mynd i roi sylw i un arall o’r datganiadau ‘Myfi yw’, o eiddo Iesu.
- Eglurwch y byddech yn hoffi cael rhai gwirfoddolwyr i ddod ymlaen atoch chi. Byddwch yn gofyn iddyn nhw ddarllen yr hyn sydd wedi cael ei ysgrifennu ar gerdyn, ac yna tynnu llun mawr ar y bwrdd gwyn fel bod y plant eraill yn gallu dyfalu beth yw'r gair. Yn ogystal â dyfalu beth yw pob gair, eglurwch eich bod yn awyddus i'r plant ddyfalu beth yw'r cyswllt rhwng y lluniau hefyd.
- Ar ôl i bob un o'r lluniau gael eu trafod, gofynnwch i'r plant ddweud wrthych chi beth yw'r cyswllt rhwng y lluniau. Bydd y plant yn dod i’r casgliad fod pob eitem yn ymwneud â goleuni.
Gofynnwch pa ffynhonnell o oleuni a fyddai'n rhoi'r mwyaf neu’r lleiaf o oleuni. - Dangoswch y ddelwedd sydd gennych chi’n dangos maint yr haul o’i gymharu â maint y ddaear.
Gofynnwch i'r plant a ydyn nhw'n gwybod unrhyw ffeithiau am yr Haul, yna adroddwch y ffeithiau canlynol wrthyn nhw:
- Yn amlwg, mae'r Haul yn fawr iawn. Yn wir, fe fyddai modd ffitio 1.3 miliwn o Ddaearau y tu mewn i'r Haul!
- Yr Haul yw'r seren sydd yng nghanol ein system solar.
- Yr Haul sy'n gyfrifol am hinsawdd a thywydd y Ddaear.
- Mae'r Haul bron yn sffêr perffaith.
- Mae'r tymheredd yng nghanol yr Haul yn 15 miliwn gradd Celsius.
- Mae'r Haul yn cynnwys yr holl liwiau yn gymysg, fel eu bod yn ymddangos yn wyn i'n llygaid ni.
- Gall yr Haul ein dallu pe byddem yn edrych yn syth ato.
- Mae'n cymryd wyth munud i oleuni o'r Haul gyrraedd y Ddaear. - Darllenwch chi (neu gofynnwch i blentyn ddarllen) y darn o'r Beibl, Genesis 1.3-5. Eglurwch fod Cristnogion yn credu, yn y dechreuad, bod Duw wedi creu'r nefoedd a'r ddaear. Gosododd yr haul yn y ffurfafen yn ystod y dydd a'r lleuad liw nos. Fe greodd y sêr a'r galaethau. Mae goleuni'n bwysig iawn i Dduw.
- Gofynnwch i'r plant, ‘Pam ydyn ni angen goleuni?’
Gwrandewch ar ymateb rhai o’r plant.
Eglurwch fod goleuni yn ein galluogi i weld pan fydd hi'n dywyll. Mae goleuni yn llewyrchu mewn lleoedd tywyll ac yn eu goleuo. Fe fyddai cerdded yn y tywyllwch, pan fydd hi’n amhosib i chi weld ble rydych chi’n mynd, yn gallu bod yn brofiad brawychus.
Darllenwch chi (neu gofynnwch i blentyn ddarllen) y darn o'r Beibl, Ioan 8.12, lle mae Iesu’n datgan, ‘Myfi yw goleuni'r byd.’ - Gofynnwch i'r plant, ‘Pam fod angen goleuni arall ar y byd a golau’r Haul gennym eisoes? Mae'n ymddangos ei fod yn gwneud ei waith yn dda iawn!’
Gwrandewch ar ymateb rhai o’r plant.
Eglurwch fod y Beibl yn dweud wrthym y gall ein byd fod yn lle tywyll iawn. Mae'n dweud wrthym y gall ein calon fod yn dywyll ac angen goleuni. Mae llawer o'r pethau drwg, trist sy'n digwydd o'n cwmpas yn cael eu hachosi gan fath o dywyllwch yng nghalon pobl. Rhoddodd Duw'r goleuni mwyaf, a'r disgleiriaf, i ni pan gafodd Iesu ei eni. Daeth Iesu i'r byd i ddod â goleuni i ni. Fe ddaeth i ddangos i ni sut i fyw yn y goleuni ac mewn daioni. Mae ei oleuni yn ddigon disglair i bawb yn y byd cyfan. - Dangoswch y dortsh neu'r ddelwedd o belydryn y dortsh sy'n goleuo ffordd.
Nodwch fod tortsh yn goleuo'r ffordd mewn tywyllwch. Gofynnwch i'r plant a oes unrhyw ohonyn nhw wedi cael y profiad o gerdded mewn lle tywyll gyda goleuni tortsh yn unig yn llewyrch i'w llwybr.
Gwrandewch ar ymateb rhai o’r plant eto.
Eglurwch y gall Iesu, fel tortsh, oleuo ein ffordd drwy fywyd, gan ddangos i ni sut un yw Duw a dangos y ffordd i ni ddod â goleuni i fywyd pob eraill. Mae tortsh yn ein helpu rhag baglu dros bethau yn y tywyllwch. Mae Iesu eisiau ein helpu rhag baglu dros drafferthion mewn bywyd. Mae'n dymuno bod wrth law pan fyddwn yn teimlo'n unig, yn anobeithiol neu'n ddigalon.
Amser i feddwl
Dangoswch y ddelwedd o ôl traed ar y traeth.
Gadewch i ni feddwl am foment am eiriau Iesu:‘Ni fydd y sawl sy'n fy nilyn i yn rhodio mewn tywyllwch, ond bydd ganddo oleuni'r bywyd.’
Oedwch i ganiatáu amser i feddwl.
Gadewch i ni feddwl am ddatganiad Iesu: ‘Myfi yw goleui'r byd.’
Oedwch i ganiatáu amser i feddwl.
Mae'r Beibl hefyd yn sôn am bobl sy'n oleuni yn y byd. Sut allwn ni fod yn oleuadau i'r rhai sydd o'n cwmpas?
Oedwch i ganiatáu amser i feddwl. Efallai yr hoffech chi wrando ar ymateb rhai o’r plant.
Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i ti am y goleuni rwyt ti wedi ei greu.
Diolch dy fod ti wedi gweld bod angen math arall o olau yn dy fyd prydferth.
Diolch dy fod ti wedi anfon Iesu i fod yn oleuni yn y byd.
Helpa ni i fod yn oleuni i’r rhai sydd o’n cwmpas ni.
Amen.